Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

cambrian-monarch

127 cofnodion a ganfuwyd.
1/3/1882
Môr Tawel
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

Dydd Merchar. I. March 1882 towydd go debig sydd genym heddiw etto. Y mau yn dal yn boeth iawn o hyd ag yr ydym yn myned yn ain bleuna yn dda lawn o hyd. ni cheuson ni fawr iawn o wynt crous er pan yn darfym hwilio, trwyu drigaredd fawr. fe ddylem fod yn ddiolch-gar iawn am y drigaredd fawr hono, ynghyd a rhai eraill. (140 m.)



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/3/1882
De’r Môr Tawel
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

Dydd Iau 2 March 1882. Yr ydym yn cael y gwynt yn deg heddiw etto. towydd terfysg ydi hi yr ydym yn meddwl. y mau fy ngwaud yn gas —yn berwi. Yr ydwyf hc7c1 yn hyn wedi rhoddi y Milldiroedd a fyddan yn ei drefailio o'r naill ganol dydd Fr Hall mewn Inc cosh ar draws fy log bob dydd. Ond o hyn anan rhoddaf hyny yn niwedd pob dydd mewn Inc du. Deuthon heddiw 130 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/3/1882
De’r Môr Tawel
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

Dydd Gwenar. 3 March 1882. dyma ddiwyrnod newydd etto, fe gowsom Sgols [`squalls'] go drymion neithiwr. towydd terfysg ydi hi y dyddiau yma. yr ydym o gwmpas Nysoedd a towydd fel hyn sydd i gael bob amser o'i cwmpas nhw. Ynus Elizabeth a Pitcarneiland [Ynys Pitcairn, 25°3' De, 130°8' Gorilewin {AE}] fe fyddwn yn pasio nhw heno. Ond nid ydym yn agos iawn attynt. y mau yn debig na welwn ni monynt os y deil y gwynt fel ag y mau. y mau lleuad mawr y nos y nosweithia dweutha yma. 120 Milltir euson ni er doû.



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/3/1882
De’r Môr Tawel
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

March 4th. Dydd Sadwrn 1882. Pedair wythnos i heddiw a darfym hwilio. yr ydym wedi dyfod bart da iawn o'r passage maith sydd genym i ddyfod adref. yr ydym wedi dyfod yn ain bleuna er dou 140 Millter. 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/3/1882
Môr Tawel
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

Dydd Sul March 5, 1882. dyma Saboeth newydd etto y mau ain hamser yn dirwin fel hyn o Saboeth i Saboeth. fe fydda yn dda iawn gin i pe bawn yn medru byw yn dipin nes i fy lle. nid ir ddeuar yma ymganwy[d] tragwyddoldeb iw fy lle. mi fydd yn chwith iawn gin i am gael myned ir Capel ar y Sabboeth. yr ydym wedi myned yn ain bleuna er dou 150 Millter. 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/3/1882
Môr Tawel
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

Dydd Llun. March 6 1882. dyma ni ar golli y trages [`trades.']. y mau y towydd yn dechrau oiri a dous di marall i ddisgwyl bellach. yr ydym yn myned rhyngom ni a'r Cape Horn ag fe fydd yn our yno bob amser. 92 Millter eusom ni er dou. 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/3/1882
Mor Tawel
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

Dydd Mawrth. 7th March 1882• Nid oes genyf ddim neilltuol iw esgfenu heddiw Ond ain bod i gid yn iach. trwyu drigaredd fawr. y mau hynu yn fraint fawr, yn enwedig pan ydym yn mhell oddi cartref. mi fydd y towydd poeth yn dâl tipin arnaf. Ond y mau y towydd yn dechrau oiri rwan. 95 Milker euson ni yn ain bleuna er dou. 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/3/1882
de’r Môr Tawel
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

Dydd Merchar 8 March 1882 Y mau genym wynt teg. Ond nid ydym wedi myned llawer yn ain bleuna er dou, go ysgafn ydio. 92 euthom. y mau hi ynbraf heddiw heb fod yn rhu boeth. yr wyf wedi bod wrthi yn golchi trwyu y bora ag yr oedd gin i Stumog iawn i fy nginiaw. y mau yr Oranges yn cadw yn iawn ag y mau nhw yn dda. y mau yr ieir yn dwdwyu yn ddygun iawn Ond y mau yn debig y gwnan stopio bellach am spell nes y byddwn wedi rowndio yr Horn. y mau yn debig na fedraf ina ddim esgfenu bob dydd yn y towydd mawr. fe fydd weithiau yn rowlio gormod i esgfenu. 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/3/1882
De’r Môr Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

Dydd Iau. 9 March 1882. Yr ydym yn fuw ag yn iach heddiw etto trwyu dri-garedd fawr. diolch i Dduw am ain cadwraeth nos a dydd, yn nghwsg ac yn effro. y mau y towydd wedi oiri yn arw erbyn heddiw. mi fydd yr hên Horn yn dechrau dangos a'i gichia i ni yn fuan iawn bellach. Y mau yr Albert-rosis. yn dechrau dyfod in cyfarfod ni in hysbysu ain bod yn myned i dowydd mawr. yr ydwyf yn iachach o lawer ar ol yr towydd ddechrau oiri. Y mau Tom wedi mindio yn iawn erbyn hyn. 170 euthom er canol dydd ddoeu. 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/3/1882
De’r Môr Tawel
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

Dydd Gwenar. 10 March 1882. Y mau yn oiri yn arw bob dydd. y mau genym wynt teg braf. ni welsom Ond un long er pan ydym wedi hwilio a hono yn y dechrau ain passage allan o Frisgo. fe fuom yn canblyn ain gilydd am tia bythefnos. fe fyddan weithiau heb weled ain gilidd am ddiwrnod neu ddau ag wedin yn taro ar ain gilydd ag yn canlyn ain gilidd am ddyrnodia. Ond fe fyddan dipin o ddustans oddi wrth ain gilidd hefud. enw y llong oedd Golden Gat[e].[Llong haearn a adeiladwyd gan gwmni Thomas Royden, Lerpwl, oedd y Golden Gate, 899t., 195. 6 /33.7. /21, yn perthyn i gwmni Cotesworth, Lyne, Tower Buildings, Lerpwl. Cyrhaeddodd San Fransisco, 2 Ionawr, 1882, a cafwyd rhywfaint o niwed iddi mewngwynt cryf o'r gogledd ar 12 Ionawr. L.W.S.T., Feb. 10, 1882 {AE}] yr hyn euthom er dou 185 Millter. " 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/3/1882
De’r Môr Tawel
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

Dydd Sadwrn. 11 March 1882. Y mau hi yn ddiwyrnod braf heddiw. pum wythnos i heddiw y darfym hwilio yr ydym wedi cael part cynta yma yn byr ddifir. gobeithio y cawn y part arall etto rhiw beth yn debig. passage rit anifir geusom o Sydney i Frisgo. Y mau yr Afr bach yn dew fel bywch. y mau un or llongwrs yn gwneud mat [Mae cyn-forwyr yn dal i wneud matiau, un o'r weithgareddau {sic} oriau hamdden mwyaf poblogaidd ar y môr; 'roedd Niwbwrch, Môn, yn enwog ar un adeg am fatiau a wnaethpwyd gan forwyr. {AE}]. i ni. yr ydym yn meddwl am yddunt wneud tri i ni gael i ni ai cael yn ain ty. Yr hyn euthom er dou ydi 180 Millter. 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/3/1882
De’r Môr Tawel
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

Dydd Sul. 12 March 1882. Dyma Sabboeth hyfrud heddiw. y mau genym wynt teg braf ag yn myned yn ain bleuna yn gampys. y mau yr Arglwydd yn dirion iawn wrthym. er nad ydym yn hyuddu y graedd lleiaf of drigaredd. Yr ydwyf wedi bod yn darllan Pregetha John Jones Tal Sarn trwyu y bora. Y mau nhw yn ddifir dros ben. ag fe fyddwn yn aml prutnhawn Saboeth yn darllan bob yn ail gwers. mi fydd yn b.9r ddifir ag fe fydd Tom yn Sponio tipin ar rhai or adnoda. yr hyn euthom er dou ydi 130 Millter. 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/3/1882
De’r Môr Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

Dydd Llun. 13 March 1882. Y mau genym frisin cru iawn heddiw. yr oedd yn rowlio yn arw trwyu y nos neithiwr ag yn myned yn a'i blaen fel Steemar. Y mau yn rowlio llai heddiw. yr oedd y gwynt ar ai hol hi neithiwr. fe fydd yn rowlio mwy fyllu. and y mau y gwynt ar a'i hochor heddiw. y mau yn mynd yn fwu cyffyrddys o lawer ag fe eith yn fwyu efo gwynt ochor. hefud y mau hi yn our rit heddiw. y mau Lot o adarn [adar] on cwmpas. Yr ydym yn meddwl am laddy mochun yn fuan bellach. y mau yn byr dew. yr hyn euthom er dou ydi 195 millter. 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/3/1882
De’r Môr Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

Dydd Mowrth. 14 March 1882. Y mae wedi oiri yn arw heddiw. fe fydd yn rhaid i ni gael tan yn fuan iawn bellach, fe gawsom dipin o cam [‘calm'] doeu. dwyrnod go fychan wnan ni heddiw. nid oes yma ddim hanar cimint o lygoud ar al cael cât. fe gawsom 5 o gathod i gid ag fel ddarfynt ddengid ir lan Ond dwu. nid ydi un ohonynt yn ddim gwerth ag ni welais i yr un yrioud gystad ar llall. y mau cathod. bach yni hi rwan. Ond ni wneith hynu moni hi yn ddim gwaeth.. yr hyn euthom er dou 70 Millter. 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/3/1882
De’r Môr Tawel
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd??

Dydd Merchar. 15 March 1882. Nid oes genyf ddim neilltuol iw esgfenu heddiw, y mau yr hen long yn rowlio tipin. brisin llêd ysgafn sydd genym heddiw Ond fe oedd yn chwthu yn lied ffres neithiwr. mi fydda wrth fy moedd hyd nod mewn towydd go fawr wrth glowed y llongwrs yn canu wrth halio ar yr haffa ar cyrdiriad bach yn gorfod mynd i bena yr mestys yn y nos na welant moi llaw, mor dowyll ag y bydd ag yn chwthu yn galed iawn weithiau. y mau genyrn dân heddiw. 145 euthom er dou. y mau y llong yn rowlio. yr wyf yn methu ag esgfenu. 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/3/1882
De’r Môr Tawel
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

Dydd Iau. 16 March 1882. Yr ydym wedi cael towydd mawr iawn er dou [Dyma'r diwrnod y gellir gweld effaith y tywydd ar ysgrifen Ellen Owen yn fwyaf pendant. Credaf bod Ellen Owen yn ei disgrifiad o'r tridiau a stormydd o'r 15 Mawrth ymlaen yn mynegi profiadau cenedlaethau o forwyr y llongau hwyliau y peryglon i'r morwyr yn uchel uwchben Y deciau yn ymladd yn erbyn gwyntoedd cryfion, oerni, hwyliau trwm rhewllyd a'r twllwch, a'r llong yn rowlio'n feddw gaib, a phawb Yn wlyb at eu crwyn. Ar adegau fel hyn hawdd lawn oedd dyheu am dir sych a gwely clyd, hyd yn oed yn y bwthyn mwyaf distadl. {AE}]. Yr oedd yn chwythu yn galed iawn ar 7 or gloch neuthiwr ag yn dowyll iawn, a bore heddiw tia 6 or gloch fe gorfynt iddynt hifio two fel y bydd y morwr yn dweud yr oedd yn ormod o wynt iddynt. Y mau erbyn hyn yn 4 or gloch y prutnhawn ag y mau wedi gostegu y gwynt. Ond y mau y mor yu uchal iawn etto ag yr ydym yn dechrau mynd dan for etto i gychwyn. 180. 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/3/1882
De’r Môr Tawel
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

Dydd Gwenar. 17 March 1882. nid ydi yn chwythu llawer heddiw. Ond y mau yn rowlio  tipin weithiau. yr ydym am ladd y Mochun y prutnhawn yma. nid oes gin yr Afr ddim hanar cymaint o lath y towydd yma, ag y mae yr ieir yn rhoi gora i ddwdwu hefud. Yr oeddwn yn meddwl echnos yn y towydd mawr geisom i, a towydd mawr lawn oedd hi hefud, mor braf fuasa hi yn Cors Iago. [Cors Iago, y tyddyn ger y Felin, Ty Mawr, a Tyddyn Sander Tudweiliog,lle y cafodd Thomas Owen adeiladu ei gartref newydd, Minafon, ar ddiwedd y fordaith {AE}] mau Liongwrs yr cyrdiriad yn cael a'i meuddu yn arw. weithiau ni all neb sydd heb fod yn gwubod ddarlinio.yr hyn euthom er dou 68 Millter. 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/3/1882
De’r Môr Tawel
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd

Dydd Sadwrn. 18 March 1882. Yr ydym wedi cael dwyrnod lled braf er dou. Ond y mae y llong yn rowlio pipin [sic] weithiau. y mau genym asanyfraen a tatwys o dani hi heddiw i Geniaw. y mae chwech wythnos heddiw ers pan ydym wedi hwilio ag yr ydym wedi dyfod yn byr dda ers pan y darfym hwilio hyd yn hyn. gobeithio y bydd i ni gael i barhau etto yn y dyfodol o'n passage. yr ydym wedi dxxyfod yn nghynt o 8 dwyrnod i fanyma nag y daethant nhw yr tro or blaen [Ymddengys felly fod Ellen heb wneud y fordaith gyntaf yn y Cambrian Monarch gydal gwr. Yr oedd ef wedi gadael y British India yn 1880 ac felly mae'n debyg bod amser ir un fordaith cyn yr un bresennol {AE}]. Yr hyn euthom er dou ydi 182 Mil.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/3/1882
De’r Môr Tawel
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

Dydd Sul. 19 March 1882. Dyma ddydd Sabboth newydd etto, diolch i'r Brenhin Mawr amdano. fe chwthoedd yn lled galed trwyu y nos neithiwr Ond nid gletad ar noson or blaen o lawer. nid oes gan yr Afr bach ddim hanar cymaint o lath y towydd mawr yma. y mae yn edrych yn rit ddi galon, ni ddag-gyni hi yn tol dowydd mawr. mi fydd yn cyrnu fel deilan gin ofn. Mi fyddwn wythnos etto cin y byddwn ar frest yr Horn guda rhwyteb ag i ni fynd yn dda. y mae y lleuad yn newid heddiw. fe gawn leuad bach yr wythnos nesaf. yr hyn euthom er dou 208



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/3/1882
De’r Môr Tawel
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

Dydd Llun. 20 March 1882. Yr ydym wedi cael brisin cru er dou, Ond nid rhu gru. y mae yn wynt teg. Y mae llong yn ain golwg heddiw. Yr ydwyf wedi esgfenu bob dydd ers pan yr ydym wedi hwilio, yr cymaint fydd yr hen long y rowlio ag yn Pitchio weithiau. Ond y mae hi yn long yn actio yn glyfar iawn yn y mor, ag yn un gîl [Erbyn hyn mae Ellen wedi magu'r un teimladau am y llong a fuasai ganddi am anifeiliaid ar y ffarm gartref, neu, hwyrach yn wir, am blentyn. Clywais lawer o hanesion am yr hen gapteniaid yn siarad gyda'u llongau mewn munudau o argyfwng ac yn mwmian 'Dal ati’r hen chwaer, bwrw ymlaen sy raid inni !’ Mae tystiolaeth Ellen Owen i'r ffaith fod y Cambrian Monarch yn long dda mewn moroedd stormus yn cadarnhau barn nifer o'i chyfoedion a ganmolodd gwaith T. R. Oswald fel adeiladwr llongau {AE}] iawn yr oedd yn bwrw eira ddoeu, gyfodydd efo Sgols trymion, a heddiw yr un fath. y mae yn rit our, fe allwn guda rhwuteb fod wedi rowndio yr Horn at ddiwedd yr wythnos nesaf. yr hyn euthom er dou 216. 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/3/1882
Penrhyn yr Horn
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

Dydd Mawrth. 21 March 1882. Y mae genym frisin cru o wynt teg heddiw. yr ydym yn myned yn ain bleuna yn gyflym y dyddiau yma. Ni fyddwn yn hir iawn etto heb fod wedi rowndio yr Horn guda rhwuteb. y mae hi yn ddiwrnod go ddwl    heddiw trwyu a'i bod yn gyforog [?"gymylog'? {AE}] ag amball i Sgolan weithiau. Ond yr ydym yn byrhau yr ffordd adra yn arw yn y towydd mawr yma. chydig ydwyf yn ai fedru gysgu y nos y dyddiau yma. y may yn no dowyll ag y mae [yn] y lle yma yn ami. amriw longa.-228.[Er bod tywydd garw 'roedd Ellen a'r criw yn barod i dderbyn hyn yn haws am eu bod yn cael eu gyrru'n gyflym - a'r ffordd iawn, tuag adref!  Diau bod Capten Owen a'i gyd swyddogion yn gwybod yn dda bod gwrthdrawiadau gyda llongau eraill neu rhew-fryniau wedi diweddu gyrfa nifer o longau ger yr Horn. {AE}]



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/3/1882
Penrhyn yr Horn
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

Dydd Merchar. 22 March 1882. Y mae y gwynt yn sgafnach heddiw. y mae yn lâw mawr ag yn dowyll ddwl. yr ydym heb gael yr haûl ers dau ddiwrnod. Ond yr ydym yn gwubod efo yr Pattant log [Maen' debyg mae'r {sic} 'Patent Log' a ddyfeisiwyd gan Thomas Walker yn 1861 oedd ganddynt ar y Cambrian Monarch, datblygiad o waith ewythr Walker, Edward Massey, 'ar log-line' oedd yn cael eu theuo o starn y llong ac yn troi olwyn yno, ac oddiyno i'r teclyn mesur milltiroedd a deithiwyd trwy'r môr. Erbyn 1884 'roedd 'Patent Log’ Walker yn dwyn yr enw 'Cherub' yn dechrau gwasanaeth a fu'n amhrisiadwy bwysig i genedlaethau o forwyr {AE}]. pa faint ydym yn ai fyned yn ain bleuna. hen dowydd cas ydi yr towydd dwl yma. y mae Tom yn brolio yn arw y baffadis wnaeth Sarah iddo. y mae o yn meddwl llawer iawn o gael Cors Iago, fwyu o lawer na fi o ranhynu. mi fuasa yn sutio yn iawn. Yr hyn euthom er dou ydi 175.

Anwyl Chwaer 
Yr ydwyf yn disgwyl yn arw nad ydi fy nillad a fy mhetha ddim yn dyfetha ag nad oes dim dwr yn myned attynt iw spoilio a cymar ofal. efo y box llestri Tê os y byddi yn ai symyd rhag ofn ai tori. Mi fyddaf yn meddwl llawer am danat ti bob dydd, a Nhad hefud, ag yn brwyddido llawer iawn efo chwi hefud, a Tyddun Mawr hefud, os y byddwn yn cael Cors Iago mi fydd genym waith mawr pacio i ddod adref. y mae genym lawer iawn o betha rhwng y ddodrefn a pob peth. y mau yn debig y bydd yn rhaid imi gael tair trol i fund ir Stassion i nol nhw adref [Dodrefn San Fransisco' mae'n debyg {AE}]. guda rhwyteb. Mi fuasa yn well gin i a'i gael, na un man wn i am dano. yn y fan acw. ag os na chawn ni o ir mor y byddwn yn mund y tro nesaf etto. Mi fydd yn rit anoedd gan Torn rhoi gora ir mor, mi wn i ar y gora. y mae nhw am godi yn ai gyflog i 25 pound [‘Roedd hyn yn gyflog uchel o'i gymharu a'r £18 y mis a daliwyd i nifer o feistr-forwyr llongau hwyliau mawr yn nechrau'r ganrif hon, e.e. yn 1907 Val Cap ten Robert Jones, Amlwch, un un o longau mwyaf enwog y cyfnod, Talus, yn hwylio i San Fransisco, oedd £18 y mis {AE}] mi wn i ar y gora na lecith yr Onors yn tol iddo beidio mund efo hi. Y mae nhw -yn meddwl llawer iawn o Tom. mi ddwedoedd. Capt. McGill [Capten James McGill, cyn feistr y Carnarvonshire, llong goed yn perthyn i gwmni Capten Thomas Williams, ac ar ôl hynny y Cambrian Princess. 'Roedd McGill yn 44 mlwydd oed yn ôl 'Articles' y Carnarvonshire pan hwyliodd am Callao ar 20 Ionawr, 1874, ac wedi ei eni yn Glasgow. Erbyn 1882 mae'n amlwg ei fod yn rheolwr morwrol ac yn y  gyfranddalwr llongau'r Cambrian {AE}]. wrthaf fi ai hyn yn Nuport nad oes ganddynt yn ai emploi ddim capt gwerth ai alw yn Capt Ond y fo. ag un arall. O cwmpas 12 o honynt.[Erbyn 1884 'roedd fflyd cwmni Thomas Williams wedi ileihau saith o longau: Cambrian Monarch, Cambrian Prince, Cambrian Princess, Cambrian Queen a'r llongau coed, Carnarvonshire, Eastern Light, a'r IIWilliam Leavitt {AE}] nid oes genyf Ond gobeithio aich bod yn iach a cyffyrddus fel ag ydym ni. 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/3/1882
Penrhyn yr Horn
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

Dydd Iau. 23 March 1882. Y mae yn ddiwrnod clir heddiw a brisin braf. diolch i Dduw am dano. yr ydym wedi cael yr haul. yr ydym yn closio yn arw at Cape Horn. gobeithio y cawn rwyteb u basio yn lied fuan. mae yn byr our heddiw. Y mae y ddress wlanan gartra hona am danaf ers dyddiau rwan. y mae yn gynas iawn. y may hi yn uchal iawn gin Tom. thal yr un ond y hi. y mae digon o adarn [sic adar?] on cwmpan Y dduddiau yma. yr hyn euthom er dou ydi 186 Millter. 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/3/1882
Penrhyn yr Horn
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd

Dydd Gwenar. 24 March 1882. Y mae un diwyrnod braf heddiw etto Ond a'i bod yn our. Yr ydym wedi cael towydd Od o braf hyd yma. Ond un dwyrnod fe gawsom un mawr iawn ag fella y cawn etto yr un fath yr ochor arall i’r Horn. Ond gobeithio na chawn ni ddim. yr ydym heddiw ar frest Cape Horn ag yr ydym wedi cael yr Haul. y mau hynu yn bath mawr iawn. chydig iawn o laeth yr ydwyf yn ai gael y towydd our yma. yr hyn euthom er dou 180 Millter


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/3/1882
Penrhyn yr Horn
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

Dydd Sadwrn. 25 March 1882. Yr ydym wedi cael dwyrnod da er dou. y mae y Brenhin Mawr yn clda iawn wrthym yn a'i rhagliniaeth. 7 wythnos heddiw sychl ers pan y darfym hwilio ag yr ydym wedi passio Cape Horn y prutnhawn heddiw. y mae yn byr our fel ag y bydd hi yma bob amser ar y flwyddyn. yr ydym yn disgwyl y gwnawn i bassage go dda adref. yr ydym wedi dyfod o Frisgo i Cape Horn yn gynt o 9 dwyrnod nag y daeson nhw yr tro or-blaen. yr hyn euthom er dou 220 Millter. 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax