Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.

Oriel

Tywyddiadur

cambrian-monarch

127 cofnodion a ganfuwyd.
6/5/1882
Mor Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)??

Dydd Sadwrn. 6 May 1882. Yr un towydd ydi heddiw etto. Y mae yn 13 wythnos i heddiw ers pan ydyan wedi hwilio, ag yr ydym wedi dyfod yn dda iawn hyd yma gobeithio y gwel y Brenhin Mawr yn dda i ni gael gweddill ain passage yr un moedd. Yr oeddwn yn brwyddido yn arw iawn efo chdi neithiwr. Y mae arnaf eisiau dy weled garw, Y Nhad hefud a teulu Tyddun Mawr. Yr ydym wedi myned i gysgu ir gwelu plu, ers dwu noson rwan. yr ydym yn a'i deimlo yn braf ar ôl bod yn hir ar y Sofas Yr hyn euthom er dou ydi 221 Millter. 

Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/5/1882
Mor Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)?

Dydd Sul. 7 May 1882. Y mae Genym dreges cryf iawn heddiw etto. Yr ydym yn disgwyl al golli bellach. Mi fyddaf yn a'i theimlo yn lled anifir ar y sul fel hyn heb gael myned ir Capal. mi fyddaf yn ai Gweled yn chwithig iawn. fe fuon yn darllan bob nail wers y bora, Tom a fina. mi fyddaf yn meddwl mor braf. fydd arnoch chwi yn cael myned ir Capal bob Sul guda rhwyteb i chwi. mi fyddaf yn ai gweled yn rit ddifir bob dydd arall. Yr amser yn passio yn yn ddifir iawn. yr hyn euthom er dou 205 millter.

Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/5/1882
Mor Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)?

Dydd Llun. 8 May 1882. Dyma ni yn fuw ag yn iach heddiw etto, diolch i Dduw am hynu. y mae yn fraint fawr iawn cael yr iechid. nid oes dim debig ir iechid ar y ddeuar yma. Yr wyf wedi bod wrthi yn golchi trwyu y bora. Yr ydym yn disgwyl yn arw y byddwn yn cael Cors Iago [fferm nesaf at Tyddyn Mawr] trwyu ain bad wedi prynii Yr Ddodrefn yma a ffob peth, ag y mae yn debig mae ir mor y byddwn yn myned etto as na chawn ni o. fe fydd yn ddryswch mawr i ni as na chawn ni o. yr wyf yn disgwyl na fyddwn ddim yn hir iawn etto cin cael gwybod pa run. yr hyn euthom er dou 160. 

Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/5/1882
Mor Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)?

Dydd Mawrth. 9 May 1882. Yr ydym yn iach heddiw a chyffyrddys, a brisin braf. Yr ydym yn dyfod yn gyflym tia gadra. Yr ydwyf yn disgwyl y byddwn adref yn gynt nar tro or blaen o ddyddiau lawer as na chawn ni lawer o cam [calm] etto. yr ydym 12 dwyrnod o flaen yr tro dweutha hyd yn hyn, fe ellwn fad adref yn mhen y bethefnos etto guda rhwyteb. Yr wyf yn brwyddido yn arw iawn efo chdi a Nhad. Mi fydd arnaf ofn garw iawn bydd rhiw beth yn ymatar arnoch chwi wrth fy mod yn brwyddido cymaint efo chwi. Yr wyf yn meddwl mwyu am danoch rwan nag y bym yn tol ers pan ydwyf wedi myned oddicartraf. Yr hyn euthom er dou 130 Millter. 

Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/5/1882
Mor Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)?

Dydd Merchar. 10 May 1882. Go chydig ydym wedi a'i fyned yn ain bleuna er dou. Y mae yn câm. y mae arnaf ofn y cawn ain dal yn hir ynddo ond gobeithio na chawn ni ddim beth bynag a ninau wedi dyfod hyd yn hyn mor dda. fe ellwn fod adref yn fuan iawn guda rhwyteb. Yr wyf wedi esgfenu bob dydd ers pan yr ydym wedi hwilio o Frisgo. os y byddaf yn myned er mor y tro nesaf etto mi dreiaf esgfenu un gwell i ti. Ond nid ydi ddim yn hawdd iawn ar lawer adeg. yr hyn euthom er dou ydi 190 Milltir. 

Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/5/1882
Mor Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)?

Dydd Iau. 11 May 1882. • Yn y cam [calm]yr ydym heddiw. Y mae arnaf ofn y cawn ain dal yn hir ynddo. Ond nid oes dim iw wneud os y fyllu y cawn, ond bodloni i'r drefn. Y mae yr Afr bach wedi dal yn ai llaeth o hyd yn mhob towydd. Ond. fe fydda yn llai mewn towydd mawr. hefud r ydym yn lladd yr ieir un at bob Sûl ers siliau 'rwan. y mae Genym dair etto ar ceiliog. Yr ydym wedi bod yn lwcus iawn cael yr gath. Ni welais i yr un yr ioud gystal a hi. Yr oedd y llygoud yn ddof fel cathod yma cin ir gath ddwad yma. Yr hyn euthom er dou. 29 Milltir. 

Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/5/1882
Môr Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)?

Dydd Gwenar. 12 May 1882. y mau golwg am dipin bach mwyu o frisin heddiw. Ond chydig iawn ydym wedi ei fyned yn ain bleuna er dou. Y mae y llong yn edrych yn od o dda wedi ai ffintio drosti i gid Ond ai gwyulod. Y mae fy nillad i gid yn lan a rhai Tom hefud, ag wedi ai trwsio mi fyddaf yn golchi yn byr amal, Yn amlach lawer na bob wythnos. Mi fydd yn braf iawn na fydd genyf ddim llawer o waith golchi pan y dof adref. ni ddarfym ni dalu ddim gwerth am olchi ers pan euson i ffordd Ond amball i grus gwyn i Tom. Ond yr wyf wedi bod yn starchio tipin hefud. Yr hyn euthom er dou 60. 

Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/5/1882
Mor Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)?

Dydd Sadwrn 13 May 1882 chydig ydym yn ai fyned yn ain bleuna heddiw etto. Yr wyf yn ofni mau colli yr hyn a ddarfym a'i enill ar y tro or blaen a wnawn etto. Yr ydym yn dyfod adref amser drwg ar y flwyddun am cam. Ond ni fydda yn rhaid i ni Gwyno pe baem yn dyfod yr un fath ar tro dweutha. Yr oedd yn bassege pyr dda. yr ydym wedi hwilio ers 14 wythnos ar ddeg i heddiw. fe ellwn fod yn QueenStown ym mhen y bethefnos Buda rhwyteb as y cawn frisin [breeze] go dda. y mae arnaf ofn na fyddwch ddim wedi esgfenu yn ddigon buan, Ond arnaf fi y mae y bai. yr hyn euthom er dou 110 Milltir.

Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/5/1882
Mor Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)?

Dydd Sul. 14 May 1882. Dyma Sabboth newydd etto. Y mae ain hamser yn dirwin fel hyn o Sabboeth i Sabboeth. Yr wyf yn ddwu ar bymthag ar higain and i fora. Yr wyf wedi mynd ynanol oûd i fy nghyfri. nid ydi y gwynt ddim yn deg i ni heddiw ag y mae yn ddwyrnod gwlawog. Yr wyf yn disgwyl y byddwn gyd a rhwyteb bethefnos i heddiw yn lied agos i Queenstown. Y mae yn rhowyr gin i gael llythur oddi wrthych i wybod pa syd yr ydych erbyn hyn. chydig yr ydym wedi ei fund er dou yn ai bleuna, ddim Ond 58 Milltir

Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/5/1882
Môr Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)

Dydd Llun. 15 May 1882. Gwynt crous sydd genym heddiw etto. Y mae arnaf ofn y cawn ain dal yn hir efo hwn. Ond ddylen ni ddim cwyno y mae y Brenhin Mawr wedi bad yn dirion iawn wrthym, a ninau mor anheilwng a'i drigaredd. Y mae yn rhowyr genyf rhiwfodd. gyrheyddyd Queenstown i gael Ilythur. mi fyddaf yn treio Gweddio. am beidio cael profedigaeth. beth bynag. mi fyddaf yn brwyddeido llawer iawn efo chwi bob nos am a wn ni. nad allaf ddweud Ond y mae yn debig mae meddwl am danoch sydd yn gwneud i mi wneud. Yr hyn euthom er dou ydi 60 Milltir.

16/5/1882
Môr Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)?

Dydd Mawrth 16 May 1882. Y mae yr hyn sydd Genym o wynt yn grous. nid ydym yn mynd. yn nesa peth ddim yn ain bleuna. mi gollwn yr hyn oeddan wedi ai enill ar y tro or blaen i gid etto, ag wyrach fwyu, or rhan hynu. mae yr hen cam yma, yn anifir. Yr hyn ydym yn ai fyned yn ain bleuna yr ydym yn myned mhellach oddi wrth y cartra yn lle yn nes. Yr ydym wedi gwneud 3 dwyrnod sal iawn yr rhei dweutha yma. Yr ydym yn dyfod adref amser drwg ar y flwyddun am cam. Ond nid oes dim i wneud. yr hyn euthom er dou ydi 105, ar heini yn hollol grous it ffor adref. 

Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/5/1882
Môr Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)?

Dydd Merchar 17 May 1882 Y may genym wynt crous heddiw etto. nid oes dim diwedd byth agos iawn ar Gwynt y Dwyran yn fan yma. Y mae yn beth cas, a ninau fe allwn pe cawn wynt teg fod adref yn mhen tia 12 dwyrnod, a Ilai or rhan hynu. fe allan fod mewn 9 i 10 dwyrnod. ni cheuson ni ddim gwerth o wynt crous y passage yma or blaen, Ond fe geuson ddigon o dowydd Mawr. fe ddylawn fod yn llongwr go dda. bellach ar ol bod rhownd y byd. Y mae y llong wedi a'i gwneud yn drefnys iawn yn barod i fyned i loigr guda rhwyteb iddi hi a ninau. gobeithio y gwel y Brenhin Mawr yn dda i hynu. Yr hyn euthom er dou Ydi 107 Milltir. 

Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/5/1882
Môr Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)

Dydd Iau. 18 May 1882. Gwynt crous heddiw etto. Y mae, yn byr anifir fel hyn, yn myned y nesa peth i ddirn yn ain bleuna tia gartref ag yn myned o’i ffordd yn lle dyfod adref, gweutha yr drefn. Nid oes dim diwedd ar y gwynt y Dwuran [Dwyrain] yma. Yr ydym wedi diflasu arno. Y mae yn dda genef aich hysbysu fy mod yn cael fy iechid yn byr dda trwyu drigaredd fawr A Tom hefud. Yr ydwyf yn llawn iachach nac y bym ers pan yr eis oddi cartref. peth Mawr iawn ydi yr iechid. 

Yr ydwyf yn disgwyl yn arw y byddwch wedi esgfenu in cyfarfod. i Queenstown. Yr hyn euthom er dou 90 Milltir

Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/5/1882
Môr Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)?

Dydd Gwenar. 19 May 1882. Y Mae y gwynt yn dipin bach tecach heddiw trwyu drigaredd fawr, diolch it Brenhin Mawr am hynu nid oes Genyf ddim neillduol iw esgfenu heddiw Ond ain bod i gid yn iach ag yn disgwyl na fyddwn ddim yn hir iawn cin cael aich gweled guda rhwyteb. Yr wyf wedi bod wrthi yn Starchio ag yn smwyddio. trwyu y bora. ag yr oedd yn byr anoedd gwneud trwy fod y llong yn rowlio. yr hyn euthom er dou 110 Mffitir.

Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/5/1882
Môr Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)?

Dydd Sadwrn. 20 May 1882. Y mae y gwynt yn deg i ni heddiw, ag am dda o hono. Yr ydym yn anoedd iawn ain plesio yn y byd yrna. y mae yr hen long yn rowlio yn arw ag yn nidio. Y mae y mor yn uchel iawn. Yr ydwyf yn disgwyl guda rhwyteb na fyddwn ddim ymhell iawn o ddiwrth Queen Stown yn mhen yr wythnos etto. gobeithio yn fawr y byddi wedi esgfennu in cyfarfod ddigon. buan. yr ydwyf yn methu ag esgfenu. Y mae yn anoedd iawn dal a’i hyn yn sad Yr hyn euthom er dou 150 Milltir. 

Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/5/1882
Ynysoedd y Gorllewin (yr Asors)
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)?

Dydd Sul. 21 May 1882• Dwyrnod lled anifir ydi i ni heddiw. Y mae yn chwthu yn galad ar bora ddou [sic]. Y mae y Mor yn uchal a llong yn rowlio ag yn nidio. Yr ydym yn closio at Ynus, at Ynysoedd y dylswn ddweud[1] a towydd mawr fydd oi cwmpas nhw bob amser. agos yr wyf yn methu yn lan ag esgfenu. yr ydym yn cael llawn cymaint o dowydd yn y fan yma ag y geison ni o gwmpas Cape Horn a Cape of Good Hope. Y mae yn braf arnoch chwi, gobeithio, heddiw yn cael myned i'r capal. Wel gobeithio na fyddwn nina ddim yn hir heb gael yr un fraint os y gwel y Brenhin Mawr yn dda. yr hyn euthom er dou 190 Milltir

 [1]Ynysoedd yr Azores, neu'r 'Western Islands', enw'r hen forwyr amdanynt, tua naw can milltir i'r gorliewin Lisbon, 37°44' Gogledd 25°40' Gorllewin.]

Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/5/1882
Môr Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)?

Dydd Llun. 22 May 1882. Y mae yn chwythu yn fras heddiw. Ond y mae yn wynt teg i ni. Yr ydym yn dyfod yn ain bleuna yn nobl tia gartref, fe ddarfym bassio dwu Ynus heddiw. Ond yr oeddan tia igain milltir rhyngom a nhw. Y mae y mor yn uchal iawn heddiw ar llong yn rowlio ag yn nidio. Yr wyf yn disgwyl guda rhwyteb y byddwn yn Queen Stown neu Falmouth tia wythnos i heddiw, os deil y gwynt yma yn deg i ni. ag os y byddwn fyllu Mi fyddwn adref yn nghynt nar tro or blaen o dros wythnos. yr hyn euthom er dou 130 Milltir. 

Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/5/1882
Môr Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)?

Dydd Mowrth. 23 May 1882. Y mae yn dda genyf feddwl fod genym wynt teg cru iawn. Yr ydym wedi myned yn ain bleuna fel pe baem yn Steamar. Diolch ir Brenhin Mawr am drigaredd fawr, tia gattom. gobeithio y gwel yn dda i estyn i barhau i ni i fyned i ben ain Siwrna yn saff. 

Yr wyf heb olchi yr wythnos yma trwyu fod y llong yn rowlio ag yn nidio gormod i mi fedru gwneud chydig iawn sydd genyf o rhan hynu i wneud — yr wyf wedi gwneud yn y towydd braf. Yr hyn euthom er dou Ydi 220 Milltir. 

Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/5/1882
Môr Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)

Dydd Merchar. 24 May 1882. Nid Ydym wedi myned cymaint yn ain bleuna er dou ag a euthom echdou. Ond ni rhâid i ni ddim cwyno dim trwyu drigaredd fawr iawn Y mae yn dda iawn arnom hyd yn hyn, diolch i Dduw am hynu. Nid wyf yn gwubod parun a fyddaf yn dyfod adref o Queen Stown neu Falmouth ai peidio. os ydi pawb yn iach nid oes arnaf ddim eusiau dyfod yn nghynt na Tom. ni lecith o yn tol i mi fynd o'i flaun o as na fydd eisiau i mi fynd or rhan Cors Iago. Yr hyn euthom er dou Ydi 130 Milltir.

Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/5/1882
Môr Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)?

Dydd Iau. 25 May 1882. Y mae yn dda genyf ain bod i gid yn iach a gwynt teg braf. Yr ydym yn closio yn arw bob dydd tia gartref. fe ellwn fod yn Queen Stown neu Falmouth yn mhen 4 i 6 dwyrnod. guda rhwyteb, neu gynt. fe allwn  fod tia dydd Sul or rhan hynu. tia 7 gant sydd Genym etto o ffordd. Yr ydym wedi dyfod yn byr dda hyd yn hyn. Nid ydym yn gwubod amcian i pa le y byddwn yn myned i ddadlwytho, hyd nes y cawn ain Hordors.49 Y mae y llong wedi ai llneu ai Gwneud yn byr drefnyus. Y mae yn edrych yn dda iawn. Yr hyn euthom er dou. 160 Milltir. 

49 Y drefn oedd i longau’n agoshau at ddiwedd eu taith alw yn Queenstown neu Falmouth am orchymyn neu ‘ordors’ ym mha borthladd ym Mhrydain neu Ewrob yr oeddynt i ddadlwytho eu cargo.AE

Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/5/1882
Môr Iwerydd
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)?

Dydd Gwenar. 26 May 1882. Y mae yn chwythu yn galad iawn heddiw. Ond y mae yn deg i ni trwyu drigaredd fawr. yr ydym yn myned yn ain bleuna yn arw iawn. Yr wyf yn methu yn glir ag esgfenu heddiw. Y mae yn rowlio ag yn nidio. Yr hyn euthom er dou Ydi 200 Milltir. 

27/5/1882
Y môr oddiar Queenstown, Iwerddon
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)?

Dydd Sadwrn. 27 May 1882. Y mae y gwynt yn deg i ni heddiw etto. Yr ydym yn closio yn arw bob dydd at Queen Stown. chydig iawn yr ydwyf yr' ai gysgu ers nosweithia rwan [sic]. Y mae yr hen long yn rowlio ag yn nidio bob yn ail. ni fedraf ddim dal fy hyn yn llonydd i gysgu, fe ellwn fod yn Queen Stown rhiw dro yn y nos, nos y foru. i bora drenydd Guda rhwyteb. go chydig sydd yn gwneud y passage yna o Frisgo chydig dros 3 mis a hanar. mae yn debig na fyddwch ddim yn ein disgwyl ni rwan. fe fyddwn o 8 i 9 dwyrnod o flaen yr tro or blaen. Yr hyn euthom er dou 221 Milltir. 

Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/5/1882
Oddiar Iwerddon
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)?

Dydd Sul. 28 May 1882. Y mae yn ddwyrnod hynod o braf heddiw, diolch i Dduw am dano. ag yn glir. ni fedrwn cyrheddyd Queen Stown heno. y mae y gwynt yn sgafnach, Ond y mae yn dal yn deg i ni. y mae arnaf ofn na fyddwch ddim wedi esgfenu in cyfarfod. nid oeddwn i ddim yn disgwyl fy hyn. y buasan gin gyntad. nid wyf am esgfenu llythur yna, Ond anfon hwn. i ti. Yr wyf yn meddwl hynu rwan. Ond wyrach y gwnaf hefud rhiw air i Nhad. Y mae yr hen long yn rowlio tipin. heddiw etto. Y mae yn Llong iawn yn y mor gru. Yr hyn euthom er dau 148 Milltir. 

Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax

Apache Lucene - Query Parser Syntax