Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
19/2/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Mi aeth fy nhad I ffair Tremadog a mi brynodd farlan [sic] yno. A mi arum i ddechra llyfnu lle tatws
|
19/2/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Mi aeth fy nhad I ffair Tremadoc [sic] a mi brynodd farlan yno. A mi arum I ddechrau llyfnu lle tatws
|
24/2/1887 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre, Aberdaron | |||||||||||||||||
Gorphen aredig Cae'r Gate
|
25/2/1887 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre, Aberdaron | |||||||||||||||||
Daeth dau oen bach Dechreu plannu coed yn Ynys y Gilfach
|
26/2/1887 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre, Aberdaron | |||||||||||||||||
Gwnes Gawell Sarah efo'r Tarw yn Bodwrdda
|
26/2/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Dechra ail droi yn cae dan y Gorlan
|
3/3/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Gorphen ail droi
|
11/3/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Dechrau rhychu i roid tatws Penygroes
|
17/3/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
....... Mi fuon yn nol dau lwyth o galch or dre
|
18/3/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Dechra Trydydd droi i datws
|
21/3/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Gorphen trydydd droi
|
22/3/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Gorphen redig cae gyngor lle roedd tatws Penygroes
|
25/3/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Nol dau lwyth o galch or dre
|
26/3/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Mi orphenis redig lle yr oedd tatws yn cae Nant. Prydnawn. Nol y ddwy og or efal wedi ei siarpio a mi gafodd Chester ddwy bedol flaen newydd
|
28/3/1887 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre, A'ron, trwy garedigrwydd Mrs Wilma Miners a Miss Davida Roberts | |||||||||||||||||
Rhoddi ceirch yn y sgubor
|
9/4/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Gorphen plannu tatws yn cau dan y gorlan. Saith ugain o resi [sic] . llain wen. 36. o resi [ai cyfri sgorau ydi hyn?]
|
15/4/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Gorphen Hau Ceirch yn Cae coed a cae main ar Merllyn. a tipin bach yn pen isaf cae dan y gorlan. a Hau Haidd yn lle yr oedd tatws Penygroes llynadd yn cae gyngor. a Hau Haidd yn cae Nant lle yr oedd y tatws llynedd [atalnodi etc yn union fel y gwreiddiol]
|
16/4/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Bore cario cerrig yn cae nant a hau hada Prydnawn. Cario y tocyn calch or Merllyn i Cae mawr. a cario dwr am ben y tocia calch. Mi gefis siwt Newydd.
|
19/4/1887 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre | |||||||||||||||||
19 Bum yn `ol deg pwys o had clover yn y Pentre...Gorphen hadu Cae canol 20 Trwsias wal catch moch
|
19/4/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Gorphen Hau Haidd yn cae mawr uchaf Mi frifodd brown ei choes trwy straglio ir og.
|
22/4/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Gorphen rowlio
|
23/4/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Mi gafodd bess rownd o bedola newydd
|
25/4/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Eira yn wun [sic] dros y ddaear. Go sobor
|
30/4/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Teilo i fangls yn Llain wen
|
4/5/1887 | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
bodio Mangls. a hau moron, a Cabbats a dechra hel cerrig yn cae penyffynnon
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|