Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
29/11/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Gwerthais Fuwch i Owen Parry am £18-10-0 Ellin yn danfon hwyaid i Caerhos
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
1/12/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Rhoddi ysgan o Geirch yn y sgubor
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
6/12/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Lewis Brynbairwgbach[?] yn hel arian at gael ceffyl rhoddais ddau swllt iddo
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
7/12/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Daeth Sarah a llo bach neithiwr. Cario unarbymtheg o lwythi o rwdins. Beti Dwyros yn tyngu plentyn i Salmon Llanegarn
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
13/12/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Bu Wm Tynrhos yma yn talu y Rhent
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
16/12/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Talu treth i William Deunant
Seinio y Asefsment [assessment?]i William Deunant
Nithio pum hobed a naw phiolaid o Geirch
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
17/12/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Talodd Owen Parry £18-0-0 am y Fuwch
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
19/12/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Wil yn danfon y Fuwch i Pwllheli
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
20/12/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Wil yn Gorphen tynu rwdins
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
23/12/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Bum yn y Felin yn silio pump hobed o Geirch
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
24/12/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Nol dau lwyth o rwdins o Caetanlon
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
26/12/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Bu Ellin yn Brychdir yn talu £2-11-0 am Indian Meal a Bran
Cael medical pipe o Bristol
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
27/12/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Bu Ellin yn talu am y Gwer i Evan Prise 5/
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
28/12/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Dechreu Braenaru yn Caer Gate
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
29/12/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
John yr Hendre yn cael Benthyg Trapia yma
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
30/12/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Bu Wil yr Hendre yn cario Rwdins
Dal Twrch
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
31/12/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Nithio tri hobed a hanner o Geirch
Rhoddi haidd yn y sgubor
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
31/12/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Dechra redig cae y Sinach yn dyndir. A mae yno gerrig yn ofnadwy iawn.
|
1/1/1888 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Dydd Sul wedi rhewi tipin bach
|
4/1/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Gorphen Gwneyd fy nghlocsia
Rhifyn cyntaf o Udgorn Rhyddid
|
5/1/1888 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Dyrnu
|
6/1/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Bu Arthur yma yn cael benthyg Clorian
|
7/1/1888 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Gorphen redig Cae Sinach a hanner Cae Mawr isa yn dyndir.
|
9/1/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Cael Certificate i'r Ci yn Aberdaron
Bu Dafydd Jones Cae Engan yma yn talu yr Ardreth
|
12/1/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Gorphen agor ffosydd y lon fawr
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|