Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
10/6/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes, Arfon (gyda diolch i Mena Jones a Fferm a Thyddyn 1992) | |||||||||||||||||
Mehefin 10 Priddo Tatws yn Cae Nant.
|
14/6/1886 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre, Aberdaron | |||||||||||||||||
Nithio naw hobed a hanner o haidd
|
16/6/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes | |||||||||||||||||
Hwch yn Cael Bau
|
19/6/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes, Arfon (gyda diolch i Mena Jones a Fferm a Thyddyn 1992) | |||||||||||||||||
Mehefin 19 Troi y Cyffylau allan y nos i gyd. Mae y ferlan wedi ei gwerthu.
|
22/6/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Myned a Defaid i`r Mynydd ar ol cyneifio Defaid 25 Wyn 18 - Bwlch Mawr CNEIFIO
|
26/6/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes, [diolch I RT Jones ei ?yr] | |||||||||||||||||
Chester [y gaseg] yn cael ceffyl - a Jine y ferlen
|
30/6/1886 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre, Aberdaron | |||||||||||||||||
Torri eithin o dan y das wair
|
1/7/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes, Arfon (gyda diolch i Mena Jones a Fferm a Thyddyn 1992) | |||||||||||||||||
Gorphenaf laf Y Saer, yn dywad yma i godi dwy olwyn newydd ar drol, camogi a spocsi.
|
1/7/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes [diolch I RT Jones ei ?yr] | |||||||||||||||||
Y Saer yn yn dywad yma i godi dwy olwyn newydd ar I
Y drol camogi - a spoxi
|
7/7/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes | |||||||||||||||||
Dechra Tori gwair yn Cau peny....
|
7/7/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes, Arfon (gyda diolch i Mena Jones a Fferm a Thyddyn 1992) | |||||||||||||||||
Gorphenaf 7 Dechra Tori gwair yn Cae penyffordd.
|
10/7/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes, Arfon (gyda diolch i Mena Jones a Fferm a Thyddyn 1992) | |||||||||||||||||
Gorphenaf 10 Buwch yn bwrw ei brych, dywad a llo, ac wedyn mynd i'w bol i'w nol o, a llo wedi marw yno, wedyn a hwnnw ar wastad ei gefn.
|
10/7/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes ( Diolch I RT Jones ei ?yr) | |||||||||||||||||
Buwch yn bwrw ei brych cin dywad a llo. Ac wedyn mynd iw bol iw nol o a llo wedi marw oedd yno wedyn a hwnnw ar wastad ei gefn
|
24/7/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes ( Diolch I RT Jones ei ?yr) | |||||||||||||||||
Fflint yn cael stalwyn
|
27/8/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes, Arfon (gyda diolch i Mena Jones a Fferm a Thyddyn 1992) | |||||||||||||||||
Awst 27 Dechra rhaffy y das wair.
|
27/8/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes ( Diolch I RT Jones ei ?yr) | |||||||||||||||||
Dechra rhaffy y das wair
|
28/8/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes, Arfon (gyda diolch i Mena Jones a Fferm a Thyddyn 1992) | |||||||||||||||||
Awst 28 Gorphen Tori haidd.
|
28/8/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes ( Diolch I RT Jones ei ?yr) | |||||||||||||||||
Gorphen tori Haidd
|
3/9/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes, Arfon (gyda diolch i Mena Jones a Fferm a Thyddyn 1992) | |||||||||||||||||
Medi 3 Gorphen Cynyll yr haidd, 10 o'r gloch y nos.
|
3/9/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes ( Diolch I RT Jones ei ?yr) | |||||||||||||||||
Gorphen cynyll Haidd 10 or Gloch
|
4/9/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes, Arfon (gyda diolch i Mena Jones a Fferm a Thyddyn 1992) | |||||||||||||||||
Medi 4dd Tori bargod y Teisi gwair a nol pedwar llwyth o haidd, o Cae Nant, a mi ddaeth yn law Tua un o'r gloch, ac erbyn hanner awr wedi wyth mae hi yn law a Tharanau a Mellt mawr a goleu ofnadwy iawn, Mae y menyn yn Sobor o feddal, mae o fel saim cig moch lads.
|
4/9/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes ( Diolch I RT Jones ei ?yr) | |||||||||||||||||
Torri bargod y teisi gwair, a nol 4 llwyth o Haidd o cau nant - a mid death yn law tua un o`r gloch, ac erbyn yr wan hannar awr wedi wyth mae hi yn law a Thrannau a Mellt mawr a goleu ofnadwy iawn iawn. Mae y menyn yn sobor o feddal mau mau mai o fel mae o fel saim cig moch lats. [sic]
|
6/9/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes, Arfon (gyda diolch i Mena Jones a Fferm a Thyddyn 1992) | |||||||||||||||||
Medi 6ed Gwneud rhaffa yn y boreu, a gwneud rhai i roid ar y gwellt i Harry yr Hendre, ac ar ol cinio myned i cae cyngor i ddechra Tori Ceirch, allan ar ôl Te, myned i Cae Mawr i godi Stycia Haidd, ar ol gorphen, cychwyn i fyny i dori yd, ac ar y gors wrth fyned, mi ddaeth yn law mawr, a mi ddarfu fi fochal yn cau bach, yr oedd yn bwrw yn ofnadwy iawn. Mi ddarfu fi fyned adra i wneud rhaffa dan y Nos (gwneud rhiwbeth i ddysgu ysgrifenu yr wyf. W. Jones)
|
9/9/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes, Arfon (gyda diolch i Mena Jones a Fferm a Thyddyn 1992) | |||||||||||||||||
Medi 9ed Gorphen Tori yr yd i gyd, y mae hi yn dywydd gwlyb iawn; Mae yr haidd wedi ei dori ers dros bythefnos, a mae o heb ei gario eto.
|
18/9/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes, Arfon (gyda diolch i Mena Jones a Fferm a Thyddyn 1992) | |||||||||||||||||
Medi 18 Gorphen cario yr yd i gyd, Tywydd da.
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|