Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
30/8/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Bum yn Pwllheli yn y Cattle show. Prynais Olwynion Cyllill i'r Felin Eithin Talais naw swllt am danynt i Mr Pickering
Cefais bum a chwech yn o gan Wm Davies
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
30/8/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Gorphen torri yr yd i gyd
|
31/8/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Bum yn ol dau lwyth o lo yn Aberdaron Wil yn dechreu Rhaffu y Das Geirch
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
2/9/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Troi tomenydd tail
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
2/9/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Gwynebu dau ddarn o glawdd y merllyn gosa at Penbrynbach.
|
3/9/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Bum yn 'ol llwyth o lo yn Aberdaron
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
5/9/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Cael dau sachaid o Indian meal o'r Brychdir Talais £1-8-0 am dano
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
6/9/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Bum yn cario ceirch yn y Gilfach
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
8/9/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Bum yn Cwm ci efo Griffith Roberts Penybryn yn prisio y stock
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
8/9/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Gorphen cario yr yd I gyd. mi fuon wrthi yn cynyll a cario or bora dan ddau or gloch bore drannoeth
|
9/9/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Talais dreth i Wm Deunant
Cau bwllch [bwlch?] cerrig yn y Pwll
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
10/9/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Clywais fod Samuel Enlli wedi prynu stock Llanllawen bach
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
12/9/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Bum yn ol llwyth o lo yn Aberdaron
Cael peint o sweet oil yn Penybryn Talais am dano
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
12/9/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Dyrnu, a dyrnu I William Humphrey Eithinog a mi fuon ni yno yn dyrnu dan ddau or gloch y bore. A mi fuom I yn ei danfon i Pantu bore drannoeth a mi aru ddyrnu Brynawelon, a Llwyndu Mawr y tri lle erbyn y nos
|
13/9/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Ellin a Catherine yn danfon Fowls i Caerhos
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
14/9/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Teilo lludw i'r Cae Main
Wil yn agor higol yn y weirglodd
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
15/9/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Bum i a Wil yn yr Hendre yn Teilo Bum yn Bogelus bach yn Cyflogi hogan Cyllyfelin bach yn Forwyn
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
16/9/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Gwneyd Rhaffau rhawn
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
17/9/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Wil yn tori eithin yn Park y brenin
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
19/9/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Cael llwyth Eithin yn Parkybrenin
Wil yn Tori eithin yn Parkybrenin
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
20/9/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Nol llwyth o lo o Aberdaron
Talais £3-15-0 i Thomas Williams am y Glo
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
21/9/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Nol llwyth eithin o Parkybrenin
Wil yn nol Glo iddo ei hun
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
22/9/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Wil yn Tori eithin ar Glawdd y rhos
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
23/9/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Nol glo i'r Ystym
Cael cant o benwaig o Enlli Gwerth £6[?]-4-9 Talais
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
24/9/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Nol dau lwyth o eithin oddiar Glawdd y Park
Bu Ellin yn Ffair Pwllheli
Cael blawd i'r moch o'r Felin
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|