Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
14/5/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Aredig ar y tatws yn Caer gate....
|
15/5/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
O
Ellin a Jane wedi myned i Ffair Sarn
Owen Jones yma yn crafu rhesi tatws
|
16/5/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Bum yn y Penrhyn yn talu am bedwar pwn o galch 4/8
Cael hanner telaid o flawd ceirch o'r Felin
|
17/5/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Rhychu i rwdins yn Cae'r Gate
|
18/5/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Wm Price yma yn tori ar y lloiau
Talu treth i Wm Deunant 16/0 1/2
|
19/5/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Teilo a claddu tir rwdins
|
20/5/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Hwch yn dyfod a naw o foch bach
|
21/5/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
O
Regatta yn Aberdaron
Races ceffylau a mulod
Owen Jones yma yn tori eithin
|
22/5/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
O
Ffair yn Pwllheli...
Owen Jones yn palu tatws yn y Gerddi
Rowlio yn Caetanlon a'r lleiniau
|
23/5/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Gorphen rowlio yn Bryn capel
Golchi y Defaid
|
24/5/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Hau had rwdins yn Cae'r Gate
Cael y sachau o Enlli
|
25/5/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Teilo yn yr Hendre
Cneifio y defaid...
|
26/5/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Cael pumtheg cant o lo
Talais bumtheg swllt am dano i Thomas Williams
|
28/5/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
...Gorphen hau had rwdins yn Cae'r Gate
|
29/5/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Nithio deg hobed a hanner o Geirch
Myned a wyth hobed o Geirch i'r Felin
Talais chwech swllt a chwech cheiniog i Robert Pritchard y Felin am flawd ceirch
|
30/5/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Cau bwlch cerrig yn Cae tan lon
Bu Wm Deunant yma yn llenw papur yr Income
|
31/5/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
O
Griffith Dafudd yma yn tori tywyrch
Bu Gwraig y Cefn yma wrth ddanfon y moch
|
1/6/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Tori Tywyrch
Chwynu ysgall a tafol yn Caetanlon
|
2/6/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Tori Tywyrch
Bu Wm Jones Tynrhos yma
Topio telaid o haidd...
|
5/6/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Gorphen tori Tywyrch 5 Diwrnod
|
6/6/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Priddo tatws yn y Gerddi
|
7/6/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Bum yn y Vestry yn Aberdaron
Bum yn y Felin yn silio wyth hobed o Geirch
Talais bedwar swllt i Robert Richard am Grasu
|
8/6/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Cyfarfod canu yn Llanengan gan y Llanwyr
Dechreu chwynu y tatws Harry y Gromp[?] yn cwffio efo person Llangwnadl wrth ddod adre
|
9/6/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Chwynu y tatws yn Cae'r gate
Bu Wil yn ol cerrig yn y pentre i balmantu y cwt mochyn...
|
11/6/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Chwynu y tatws yn Cae'r Gate
Cael pibell yn presant gan Evan Ellis
Jane yn ol halen o Glanrhyd
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|