Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
18/9/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Toi y das haidd
Owen Jones Dechreu tori ceirch yn yr Hendre
|
19/9/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Rhaffu y Das haidd
|
20/9/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Cario tywyrch 6 llwyth
Owen Jones Gorphen tori ceirch yn yr Hendre
|
21/9/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Tori ceirch yn Cae'r Gate
|
22/9/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Gorphen tori ceirch Bryn Capel
|
24/9/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Derbyniais £17-10-0 gan Ellis Jones Llymgwyn am wartheg yn Ffair Pwllheli
|
25/9/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Dechreu rhaffu y Das wair
Nithio pedwar hobed o haidd
|
27/9/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Cynyll ceirch yn yr Hendre
|
28/9/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Talais £1-16-0 am sachaid o beilliaid yn Glanrhyd Talais £0-14-6 am gig mochyn i John Llidiarda
|
29/9/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Derbyniais £8-15-0- gan Evan Jones Creigir[?] am Ddynewad ddu
|
1/10/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Dechreu cynnyll ceirch yn Bryn capel
|
2/10/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Talu treth i Wm Deunant £0-16-0 1/2
Nol pumtheg Cant o lo o Aberdaron
|
3/10/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Nol pumtheg o lo o Aberdaron
Talu dau swllt i Sydney y Ship am Benwaig
|
4/10/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Cario Ceirch yn yr Hendre
|
5/10/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Cael sachaid o flawd o Glanrhyd
Gorphen cario ceirch yn yr Hendre
Gorphen cynnyll ceirch yma
|
8/10/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
...Talu 15/6 am Indian meal yn y Brychdir
|
9/10/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Hughes Llwynhendy yn myned oddi yma
Talu 13/6 i Hughes am y cwrw
Bu Evan Jones y nant a'r mab a Boddi yn Aberdaron
Nol pumtheg cant o lo
|
11/10/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Bum yn danfon yr Heffer i'r Tocia
Cefais naw punt a tri swllt ar ddeg am dani
|
12/10/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Cario ceirch Bryncapel a Cae'r Gate
|
13/10/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Gwneyd rhaffau ar y Das Geirch...
|
14/10/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
...Caravan yn Twll Gravel
|
15/10/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Diwrnod Diolchgarwch
Toi yr Helm Geirch
Clywed eu [bod?] yn gweld yspryd dyn yn Uwchmynydd
|
16/10/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
...Dechreu toi y Das Geirch
|
17/10/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Cefais fy nharo gan dolur gwddf
Toi y Das Geirch
|
18/10/1888 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Rhaffu y Das Geirch
yn fy ngwely yn sal
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|