Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

llangernyw

27 cofnodion a ganfuwyd.
12/1/1911
Bryniau Pair Ucha, Sir Ddinbych
Dyddiadur Lloyd George Williams, Bryniau Pair Ucha, Sir Ddinbych (Y Gadlas 38(2) )Papur Bro) DB
1911: 12 lonawr. Bwrw eira ac yn oer iawn. Torri tanwydd ar gyfer yr odyn yn y pnawn yn Nant y Bont, a'u llusgo i ochr Moelogan, Nôl dau faich o'r brigau hefo Bell. [1911: 12 lonawr. Wedi cael gymaint o eira ddiwedd y flwyddyn diwethaf, mae'n braf gallu mynd oddi yma gyda char. Darlith gan y Gymdeithas Hanes yn Llangernyw gan Tecwyn Evans ar 'Hen Gymeriadau'r Fro'].
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: natur
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
7/7/1911
Bryniau Pair Ucha, Gwytherin, Sir Ddinbych
Dyddiadur Lloyd George Williams, Bryniau Pair Ucha, Sir Ddinbych (Y Gadlas 38(2) )Papur Bro) DB
Gorph. 7 fed: Cneifio defaid caeau bore. Chwynu sweds pnawn. William yn mynd i Gyfarfod Misol Llangernyw. Mam mynd i'r Cwm. Buwch Bwlch Gwynt yma hefo'r tarw.
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr:
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
26/11/1911
Bryniau Pair, Dinbych
Dyddiadur Lloyd George Williams, Bryniau Pair Ucha, Sir Ddinbych (Papur Bro) DB
Tach. 26, dydd Sul: E. J. Jones, Llangernyw. Pregeth dda medde nhw. Gwr a gwraig (Potiwrs) yn llosgi'n lludw yn Llansannan.
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr:
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
16/11/1923
Abergele etc
Dyddiadur [Parch.?] Thomas 1921-1942
Corn Bunting (1) sang on telegraph wire, & once after settling on ground, on way to Abergele. Noticed the shivering motion of its wings when floating fromwire to earth...heard a Redwing at Llangernyw
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: natur
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
25/8/1937
Bryn Draenen, Cwm Eidda
Dyddiadur DO Jones, Padog (gyda chaniatad papur bro Yr Odyn a'r teulu) DB
22, 23, 24 a 25. Tocio gwair i lawr y nentydd at yr afon a chario y gwair hefo picfforch i fyny i sychu yn y cae. Trwsio puncture a mynd a potel wireless i Fron Deg i'w chargio. Gorffen yr helm. Yn helm fawr smart. Prynu tri o focsus cario tatws gan Gruffudd Owen 2/6 yr un. Prynu tiwb beic newydd. Gwerthu 17 o wyn stôr i Robert Williams, Llety Watkin, Llangernyw am 14/- yr un.
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr:
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
20/3/1947
Ty Uchaf, Padog
Dyddiadur DO Jones, Padog (o deipysgrif electronig, gyda chaniatad y teulu) DB
20. Danfon y fuwch cochen Berth Ddu i T?’r Bont i gwrdd lori H.Berry. Gwerthu y fuwch yn sêl Llanrwst am £30.00 i Jones Hendre Ddu Llangernyw. Danfon mam at y trên 11.30yb. Mynd i ddyrnu i Tain Maes yn y gwellt, gorffen 7.00yh. Mynd i Betws hefo’r car i gwrdd trên 8.30 i gwrdd nhad o Stiniog. Anti Gwenallt Stiniog wedi marw bore yma.
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: natur
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
9/4/1947
Ty Uchaf, Padog
Dyddiadur DO Jones, Padog (o deipysgrif electronig, gyda chaniatad y teulu) DB
9. Mynd i Abergele hefo’r car, heibio Llangernyw i chwilio am wellt. Tywydd braf, cynnes, clir. Teg. malu gwellt gyda’r nos.
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr:
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
2/5/1947
Ty Uchaf, Padog
Dyddiadur DO Jones, Padog (o deipysgrif electronig, gyda chaniatad y teulu) DB
DYDDIADUR D.O MAI 1947 2. Godro, carthu y beudy,bugeilio. Colli oen gwryw. Tractor y sir yma yn troi cae Bont. Mynd hefo’r car i chwilio am wellt a ceirch hefo Mr Elvet Roberts Fron, cychwyn 3.00yp, chwilio ffermydd Llangernyw, Llanfair Tal Haearn, Betws Abergele, Nant Fawr, Hafod Lom, Hafod y Gog, Hendre Isa, Beniarth Bach, Bodrochwyn Fawr. Cael 5 cant o ceirch yn Bodrochwyn am £1 y cant. mynd i Abergele a cael te yno, cyrraedd adre 10.00yh. Tywydd gwynt oer o’r dwyrain, ystormus, tebyg iawn i ganol gaea, argoelion eira.
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr:
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
3/5/1947
Ty Uchaf, Padog
Dyddiadur DO Jones, Padog (o deipysgrif electronig, gyda chaniatad y teulu) DB
3. Godro. Mynd hefo lori Evan Hughes i Beniarth Bach a Bodrochwyn Fawr heibio Llangernyw, llwytho gwellt a ceirch dod adre erbyn 3.00yp. Mynd a Pero y ci i Llandrillo hefo’r car yn y pnawn. Dod adre 9.30yh, bugeilio, tranu ymhell, eira, heulog.
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr:
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
11/2/1948
Ty Uchaf, Padog
Dyddiadur DO Jones, Padog (o deipysgrif electronig, gyda chaniatad y teulu) DB
11. Cwmona, carthu, dyfrio. bachu Fflwar yr eboles i slingio priddwal yn cae tan wal yn y bore hefo Bel, ei thwyso rownd y cae chwe gwaith. Dechrau braenaru yn sofl cae bont hefo Fflwar y tro cyntaf a Bel. Yr eboles yn gweithio’n dda. Mynd i T? Mawr gyda’r nos i grushio dau gant o geirch. [Hyn ysgrifennodd fy mrawd bach o America {GA}: Priddwal yw’r term yr ydym ni’n gyfarwydd ag o. Ni chlywodd fy mam y term ‘pridd wadd’ o’r blaen. Priodasant yn 1953. Mae hi yn hannu o ardal Llangernyw. Ni chlywodd John fy mrawd ddefnydd o’r term ‘pridd wadd’ chwaith. Cafodd ei eni’n 1956. Mae’n ddiddorol fod D.O. yn defnyddio’r gair ‘priddwal’ yn 1948, ac yna ‘pridd wadd’ yn 1951. Mae hyn yn dystiolaeth ei fod yn defnyddio’r ddau derm yn gyfnewidiol yr adeg honno. Efallai mai’r esblygiad ar lafar gwlad oedd ‘Pridd y wadd’ i ‘pridd wadd’ i ‘priddwal’? Rheinallt Jones PhD, Department of Pathology, Emory University School of Medicine, 615 Michael St., Atlanta GA 30322]
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr:
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
1/4/1948
Padog
Dyddiadur D.O.Jones, Padog,Ysbyty Ifan.[gyda chaniatat papur bro Yr Odyn, a'r teulu] TJ
Ffwl Ebrill. Trin ceffylau. Cyrlen yn dod a llo manw hanner awr wedi saith y bore yma. Mynd hefo Wil yn y lori laeth trwy Llangernyw a Llanfair Tal Haearn i hel llaeth 70 o ganiau. Drycin, gwynt a glaw, oer iawn, cenllysg.
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr:
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
5/6/1951
Ty Uchaf, Padog
Dyddiadur DO Jones, Padog (o deipysgrif electronig, gyda chaniatad y teulu) DB
5. Codi 16 o sachaid o fawn o wern ganol ai cwlasu yn y rhofel. Gwerthu llo du gwryw i Pennant am £1.10.0d. Slingio y pridd wadd yn cae llwybr, gefnen wen a cae bont. Demonstration godro yn Dylasau Uchaf gyda’r nos. [Slingio = Saesneg sling (gwasgaru) dwi'n cymryd. Pridd wadd = pridd twrch daear? ond 1. gwadd ddim yn air y gogledd, 2 pridd gwadd ddyla fo fod? ydi hyn yn arwydd o hen ddefnydd o wadd yn y gogledd (fel iorwg yn lle eiddaw yn yr un ardal??? DB E’lla yn wir ei fod yn waddod o hen ddefnydd yn y gogledd. ‘Pridd y wadd’ yn GPC. Mae priddwal yn air arall amdano TE] Hyn ysgrifennodd fy mrawd bach o America [GA]: Priddwal yw’r term yr ydym ni’n gyfarwydd ag o. Ni chlywodd fy mam y term ‘pridd wadd’ o’r blaen. Priodasant yn 1953. Mae hi yn hannu o ardal Llangernyw. Ni chlywodd John fy mrawd ddefnydd o’r term ‘pridd wadd’ chwaith. Cafodd ei eni’n 1956. Mae’n ddiddorol fod D.O. yn defnyddio’r gair ‘priddwal’ yn 1948, ac yna ‘pridd wadd’ yn 1951. Mae hyn yn dystiolaeth ei fod yn defnyddio’r ddau derm yn gyfnewidiol yr adeg honno. Efallai mai’r esblygiad ar lafar gwlad oedd ‘Pridd y wadd’ i ‘pridd wadd’ i ‘priddwal’? Rheinallt Jones PhD, Department of Pathology, Emory University School of Medicine, 615 Michael St., Atlanta GA 30322]
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: natur
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
14/11/1951
Ty Uchaf, Padog
Dyddiadur DO Jones, Padog (o deipysgrif electronig, gyda chaniatad y teulu) DB
14. Mynd i sel Wenlli Llangernyw hefo’r car hefo Stanley Davies, Bob Ty Nant a Ellis Pen y Bryn. Gweld teledu yn Llanrwst...Ystormus, drycin, oer.
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: natur
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
5/12/1951
Ty Uchaf, Padog
Dyddiadur DO Jones, Padog (o deipysgrif electronig, gyda chaniatad y teulu) DB
5.Gwerthu Lasi am £49.0.0d i Mr Davies Hendre Isa Llangernyw a dod a buwch i Eidda Fawr adre hefo ni. Andros o dywydd mawr.
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: natur
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
6/3/1953
Ty Uchaf, Padog
Dyddiadur DO Jones, Padog (o deipysgrif electronig, gyda chaniatad y teulu) DB
6. Mynd a ceirch i'w falu i Dylasau a thynu tractor Dylasau yn rhydd o'r ffos. Mynd i Llangernyw gyda'r nos i Ddrama Points gan gwmni Llanerchymedd. Danfon Brenda a Nans adref i'r Helmydd.
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: natur
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
27/3/1953
Ty Uchaf, Padog
Dyddiadur DO Jones, Padog (o deipysgrif electronig, gyda chaniatad y teulu) DB
[26. ...Mynd i ddarlith yn Ysbyty gan Bob Owen Croesor ar arferion a ffasiynau merched yr oes o'r blaen.] 27.Mynd i ddrama yn Llangernyw Y Fflam Leilac gan Gosen. Newid tywydd, oeri, gwynt a glaw.
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: natur
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
17/7/1953
Llangwm, Sir Ddinbych
Dyddiadur JH Jones,'Rhafod, Llangwm (diolch i Robin Gwyndaf)
Tegwyn yn prynu 5 cant o geirch yn Ystrad Talu £6.5.0 Prynu ci £1.10.0 Fi yn transplantio mangels. a glanhau a [?siwter] carots...Oliver Hughes Ystrad, Ty Cerrig yma nos yn prynu 24 o gywion gan Eifion £6.0.0 i Tegwn yn Llangernyw
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: natur
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
23/11/1955
Padoc, Ysbyty Ifan
Dyddiaduron D.O.Jones. Padoc, Ysbyty Ifan. Gyda diolch i`r teulu. [mewnbwn gan Tom Jones]
Priodi heddiw hefo Brenda Margaret Jean Davies, Helmydd, Llangernyw yn Capel Engedi Colwyn Bay. Englynion o waith Einion Jones Cerrigellgwm Isaf ar achlysur fy mhriodas a Miss Brenda M.J.Davies, Helmydd, Llangernyw. 1.Ba gynnwr a berw gynnau- Tir Eidda Trwyddo sy`n goelcerthau, Fe wyddan yn y fan fau Ddod heddyw ddydd y dyddiau. 2. Priodi heddyw a wna prydydd- o lan Linach prif feirdd celfydd Cerdd o gaeth ryw, cerdd goeth rydd Dyfa o awen Dafydd. 3. A bro annwyl y bryniau - yn codi C?d fawr o lumanau. Hen dud dirion ei dadau Mewn llawn hwyl mae`n llawenhau. 4. Brenda a ddaw i`r bryndir - i oror Oreu yr ucheldir, Gruddfwyn garuaidd feinir, Y g?n, a`r t?n geudw`n y tir. 5. Yn y Ty Uchaf ym mis Tachwedd - os oer Ias eira y Gylchedd, Yno bydd cynnes annedd. Cydfyw braf, a haf o hedd. 6. Pur y sain per y seiniau- o Faenan I fynu hyd Eidda, Coedd yw dymuno Lwc Dda, Hawddamor i`r ddau yma.
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr:
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
11/5/1956
Padog,Ysbyty Ifan.
Dyddiadur D.O.Jones, Padog, Ysbyty Ifan, gyda diolch i`r teulu. [mewnbwn gan Tom Jones]
.Gwerthu 10 o gyplau yn sêl Pentrefoelas i Mr Owen Williams, Hendre Blaenau, Llangernyw am £16.5.0d yr un.Glaw, gwlyb, cymylog, cawodydd.
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr:
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
10/6/1960
Padog, Ysbyty Ifan
Dyddiadur D O Jones, Padog (o deipysgrif electronig, gyda chaniatad y teulu)

Godro, bwydo’r ieir, wyau 61. Mynd i trip y Padog i’r Rhyl, Brenda a finnau, John a Lowri. Mynd i lan y mor a Marine Lake, dod adre trwy Llangernyw erbyn 10.00yh. Braf, gwynt iasoer ar lan y mor, cymylog.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/10/1961
Ty Uchaf, Padog
Dyddiadur D.O. Jones, Ty Uchaf, Padog (1961>) (gyda chaniatad y teulu a phapur bro yr Odyn)

22. Mynd i Padog i’r ysgol Sul hefo John yn y bore a mynd i oedfa y nos, gweinidog Llangernyw yn pregethu. Tywydd mawr, ystormus.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Chris Simpkins
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
0/0/1990
afon Elwy
llyfr maes 27 DB
Hwyaid danheddog yn magu ar yr Elwy (6-7 o gywion ar y tro) Mr Edwards, Tan y Waun, Llangernyw
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr:
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
23/11/1995
Gwelfor, Waunfawr
coeden (ywen) hynaf prydain yn cael ei bendithio yn llangernyw (7000bl)?dim siglennod ar wal y castell 1830 nos sadwrn - tywydd tawel mwyn
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : 1
Is Tym : 6
Uch Tym: 10
Safle grid:
18/3/2009
Llangernyw
ebost Alun Williams
Gwelais wennol gyntaf y gwanwyn yn Llangernyw ar fore Iau, Mawrth 18.
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: gweinyddwr
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
8/1/2010
Llangernyw
Alun Williams
Coed gaeafol ger Llangernyw am chwarter wedi pedwar 8 Ion 2010. Tymheredd ar y prydyn -12C Llun yn oriel Llen Natur:-
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: natur
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: sh876670
21/9/2015
Llangernyw
Gorsaf dywydd Gwelfor
Gwalchwyfyn penglog yn Llangernyw ar 21 Medi 2015.
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr:
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
29/9/2015
Gwelfor, Waunfawr
Gorsaf dywydd Gwelfor
Cymylau ben bore 1/8 tenau uchel. Bore teg arall. Nodwyd pnawn ddoe ei bod yn "anaturiol o gynnes". Gwalchwyfyn penglog yn Llangernyw ar 21 Medi 2015. Ambell fforch arian yn yr ardd o gwmpas yr un pryd. Math o "mackerel sky" (traeth awyr) trawiadol tua 10 neithiwr tua`r de-ddwyrain.
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr:
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : 0
Is Tym : 9.4
Uch Tym: 17.3
Safle grid: --

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax