Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
1/1/1820 | |||||||||||||||||
Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Eira mawr a bwrw eira weithiau. Griffith Jones Gelli’i [sic] yn yn [sic] dwad a dau bolyn ystol at adwy y Morfa ac yn mynd a llwyth o wellt i’r Beudy Uchaf. Yn ymofyn Brâg o dy R Jones Tremadog
|
2/1/1820 | |||||||||||||||||
Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod budr iawn ac yn bwrw Eirwlaw, neb mewn pregeth oddiyma
|
3/1/1820 | |||||||||||||||||
Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Llun Diwrnod teg brâf [sic] wedi rhewi’n bur galed. Y meibion yn torri Clawdd buarth yr hen Erw. Minnau yn Saethu Ysgyfarnog yn Cefn Portreuddyn Harry Hughes Saer Coed o Dremadoc yma yn edrych y peiriant [sic] malu gwellt
|
4/1/1820 | |||||||||||||||||
Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Yn Nhremadoc [sic] yn talu i Drafaeliwr o Gaer am Liquor ac yn settlio cyfri efo Morris Jones y Siopwr. Yr eira yn parhau yn darllaw . Sion Hugh Cerrigynhwydfor yma yn talu ei Rent. Y Meibion y [sic] gorphen tori clawdd buarth yr hen Erw.
|
5/1/1820 | |||||||||||||||||
Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod teg braf. Eira yn parhau wedi rhewi’n bur galed. Yfi yn hela efo Sion y dyrnwr ac heb weled dim. Y meibion ym nol gwair o Gaegoronw
|
6/1/1820 | |||||||||||||||||
Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon | |||||||||||||||||
Dydd iau [sic] Diwrnod teg yn meirioli ac yn llithrig iawn. Yfi ymhen Morfa ddiwrnod talu y rhent. yn [sic] cychwyn adref bedwar o’r gloch y boreu[!]. Y Meibion un dal ysgyfarnog yn ochr Portreuddyn efo’r milgi. Yr hen ddydd Nadolig.
|
7/1/1820 | |||||||||||||||||
Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon | |||||||||||||||||
Dydd gwener Diwrnod teg ac yn meirioli. Yfi yn mynd i Benmorfa ac yn talu fy rhent ac yn dyfod adref o gwmpas hanner nos. wedi meddwi peth. Yn mynd [myna?] a cheirch i’r Odyn.
|
8/1/1820 | |||||||||||||||||
Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon | |||||||||||||||||
Diwrnod teg, wedi rhewi’n bur galed. Dolur mawr yn fy mhen. Yn mynd efo Ellin i Langybi. yn mynd ag yd i’r odyn. John Hugh Drwsyrymlid yma yn talu Rent Owain wedi bod a [Farmer] i’r Efail.
|
9/1/1820 | |||||||||||||||||
Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod teg ac yn rhew caled. Yfi ac Elin yn Llangybi.
|
10/1/1820 | |||||||||||||||||
Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Llun Diwrnod lled oer ac yn meirioli. Llangybi
|
11/1/1820 | |||||||||||||||||
Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd mawrth bwrw gwlaw ac weithiau eirlaw. Yn cychwyn adref o Langybi, ac yn troi’n ôl gan ddrychin
|
12/1/1820 | |||||||||||||||||
Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd mercher Diwrnod teg wedi rhewi ac yn llithrig iawn yn dyfod adref o Langybi. Y meibion wedi bod yn silio yn y Felin isa. Oer iawn ac yn rhewi yn y Prydhawn
|
13/1/1820 | |||||||||||||||||
Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod teg wedi rhewi ac yn llithrig iawn. Yfi yn mynd at Owen Humphrey i siarad ynghylch y ffordd fawr oedd wedo cael ei ffinio ac yn gorfod mynd i Gaernarfon i’r chwarter Sesiwn. yn cychwyn yn y Prynhawn ac yn cysgu yn y Bettws. Meibion Tomas Tynlone [sic] yma yn cynig talu rhent
|
14/1/1820 | |||||||||||||||||
Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener Diwrnod teg wedi rhewi’n bur galed. yn mynd [i] Gaernarvon. yn cysgu y noson yn Tyddyn Elen gyda Wm Jones. Yn meirioli yn y Prynhawn.
|
15/1/1820 | |||||||||||||||||
Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn mynd o Dyddyn Elen i Gaernarfon ac yn mynd y noson i Glan yr afon efo Hugh Griffith Druggist Caernarfon hefo mi yno yn cysgu
|
16/1/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod teg yn meirioli yn dyfod adref erbyn 11 o’r Gloch y nos. Yr Heffer yn dwad Llo
|
17/1/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod teg ffeind yn meirioli Yn gorphen nithio Ceirch ac yn gyru’r helm Wenith i mewn. Twm Morris Prenteg yn dwad a Buwch yma at y Tarw
|
18/1/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
18 Dydd Mawrth Diwrnod lled oer wedi rhewi'n bur galed. Y Meibion yn dwad a llwyth o'r Morfa i'r Beudy newydd ac yn mynd a llwyth i Feudy ty'n bwlch. Yn dwad a'r Heffer a'r llo i'r Beudy newydd o Feudy Ty'n b
|
19/1/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd mercher Diwrnod lled oer yn Meirioli ac yn llithrig iawn. Y Meibionyn teilo oddiwrth y Beudy Newydd i’r Gelli wastad. Owen yn nol y Geifr o Greigiau Tanrallt yn dechreu rhewi cyn nos. sion Morris yma yn cymeryd ei Dy
|
20/1/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod teg distaw wedi rhewi’n bur galed ac yn llithrig iawn. Y Meibion un yn golchi’r Buchod rhag llau a’r llall yn cneifio’r Dynewid. Yn gwerthu Bwch gafr a thri o Funod i Sion Morris am Ddeg swllt ar hugain
|
21/1/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd gwener Diwrnod trwm iawn ac yn lluwch mawr ac wedi rhewi’n galed iawn Y fi wedi bod allan yn ffowlio ac yn saethu Cyffylog ac yn mynd i Dremadog i’r Farchnad
|
22/1/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn Diwrnod teg braf wedi rhewi’n galed iawn. Yn mynd i ffowlio ac yn saethu Sneip a chyffylog. Y Meibion y nghraig Portreuddyn efo Sion Morris yn dal y Geifr ac un yn tori ei wddf Susan yn mynd i Langybi
|
23/1/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Yn chwythu yn bur sount ac yn meirioli neb mewn Pregeth oddi yma
|
24/1/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod drychinllyd ac yn bwrw gwlaw weithiau. Yn mynd i Gynhebrwng Plentyn Edward David Braichydinas. yn ymdroi y mhenmorfa wrth ddyfod adref efo O.Humphreys a Ffowler Mr.Gore. Y Dynewid yn mynd i’r Ty mawr. Owain wedi bod a Jack a Captain yn yr Efail
|
25/1/1820 | |||||||||||||||||
25 Dydd Mawrth Diwrnod budr yn bwrw gwlaw yn bur sownd yn y boreu. y Meibion yn nol Gwair o Gaegoronw. Owain yn mynd i’r Felin isa i nol hanner telaid o Haidd wedi ei falu i’r Fuwch a hanner telaid o Wenith | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Diwrnod budr yn bwrw gwlaw yn bur sownd yn y boreu. y Meibion yn nol Gwair o Gaegoronw. Owain yn mynd i’r Felin isa i nol hanner telaid o Haidd wedi ei falu i’r Fuwch a hanner telaid o Wenith
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|