Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
1/1/1916 | |||||||||||||||||
Llandudno | |||||||||||||||||
DYddiadur Harry Thomas, Nantygamar, Llandudno LlGC Archifdy Conwy | |||||||||||||||||
SW gales with driving rain...... Start for West shore with eggs but got no further than [Sef...]. Trams stop running on account of the gale. 12 Mine Sweepers in the Bay for shelter. ( Mr [...] hears that 2 U.Boats were netted off the Great Orme during the week). J & H Bowens chimney pot blown down
|
1/1/1916 | |||||||||||||||||
Rhyd ddu | |||||||||||||||||
Llangollen Advertiser Denbighshire Merionethshire and North Wales Journal 4 Ion 1916 | |||||||||||||||||
Chwthodd yetorm fawr Dydd Calan refreshment room gorsaf fforddhaiarn Rhyd-ddu yn ysgyrion
|
1/1/1916 | |||||||||||||||||
Llanrwst | |||||||||||||||||
Llangollen Advertiser Denbighshire Merionethshire and North Wales Journal 4 Ion 1916 | |||||||||||||||||
Chwthwyd amryw o bersonau oddiar eu traed yn Station Road, Llanrwat, gan y storm fawr ddiweddaf.
|
1/1/1916 | |||||||||||||||||
Llanerchymedd, Môn | |||||||||||||||||
Arysgrif bedd, mynwent Llanrug | |||||||||||||||||
Bedd ym mynwent Llanrug: “Er serchog cof am John, annwyl fab Ann Jones, Brynteg, Llanrug, yr hwn a fu farw trwy ddamwain yng ngorsaf L & NW Rly., Llanerchymedd, Dydd Calan 1916 yn 28 mlwydd oed.” Dyma ran o adroddiad yn Y Cloriannydd, 5 Ion 1916 am y farwolaeth: “Ychydig wedi wyth y bore hysbysodd [John] Davies y byddai eisiau horse-box er mwyn cymeryd anifail i fyned gyda’r tren 8.35. Ymhen ychydig funudau clywodd y tyst [H. Jones, gorsaf-feistr] wrthdrawiad a amheuodd fod rhywbeth o’i le.... galwodd “John!” ond nid oedd atebiad.... Credai, gan fod ychydig lithriad yn y ffordd, a’r gwynt a’r ystorm mor erwin, i’r horsebox redeg”.
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad.
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|