Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
3/5/1958 | |||||||||||||||||
Ynys Lawd | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
Mynd am dro gyda Taid a Nain i South Stack, a gweld Ffwlmar Dod adref heibio i Lyn Llywenan, a gweld, am y tro cyntaf, Tufted Duck (Hwyad Gopog) heblaw llawer o Wylanod Penddu. Gwelsom hefyd bedwar morlo yn ymyl South Stack.
|
13/5/1958 | |||||||||||||||||
Pen y Gogarth | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
Bûm i yn Llandudno a gweld ar Ben y Gogarth Ffwlmar. Guillemot (Heligog). Bilidowcar
|
24/5/1958 | |||||||||||||||||
Penmon | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
Buom am dro ym Mhenmon. Gweld llawer o wylanod, yn cynnwys: Gwylan Gefnddu fach. Hefyd, ar fur yn y môr ar y ffordd adref Dwy Fôrwennol Dwy Bioden y Môr
|
26/5/1958 | |||||||||||||||||
Llungwyn [sic] | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
Gyda’r Bobl Ifanc yn Lligwy a Moelfre, a gweld ar y creigiau, yn ymyl “Moryn”, dau bâr o Ffwlmar Llwyddais i gsel o fewn ysgydig droedfeddi i un ohonynt, a safai ar y graig. Gweldom hefyd: Ehedydd.
|
27/5/1958 | |||||||||||||||||
Bae Cemlyn | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
Buom ym Mae Cemlyn a gwelsom yr adar canlynol: Bilidowcar. Aethom wedyn i Hên Borth (Llanrhwydrus) lle cawsom dê, a gwelsom y (Pibydd) [wedi croesi allan] Goesgoch yn hedfan i wyneb y gwynt a glanio ar byst y cae. Delor yr Hesg (Sedge-Warbler) am y tro cyntaf erioed
|
12/6/1958 | |||||||||||||||||
Ynys Lawd | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
Gydag Islwyn Ffowc yn South Stack. Gweld Ffwlmar wedi nythu mewn twll, ar bentwr o frigau, yn ymyl y grisiau
|
14/6/1958 | |||||||||||||||||
Lligwy | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
I Ligwy eto, a sylwi bod rhai o’r Ffwlmar wedi nythu ar ychydig o welltglas ar y graig
|
28/6/1958 | |||||||||||||||||
Porth Swtan | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
Ym Mhorth Swtan gydag Islwyn Ffowc ac Eirlys, a gweld Ffwlmar yn nythu ar graig yn ymyl yr ymdrochwyr. Galw heibio i Lyn Llywenan ar y ffordd adref a gweld Gwyddau Canada a chadarnhau mai Telor yr Hesg (Sedge Warbler) a welsom y tro cynt y buom yma (Mai 27) [ac wedi ei ysgrifennu â beiro yn hytrach nag inc] ac nid reed-warbler.
|
23/7/1958 | |||||||||||||||||
Trwyn Dinmael | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
Mynd i Drwyn Dinmael a gweld Ffwlmar.
|
24/7/1958 | |||||||||||||||||
Malltraeth | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
Gweld ym Malltraeth (ar y ffordd i Aberffraw) Black-tailed Godwit (Rhostog Gynffonddu) [mewn beiro]
|
1/8/1958 | |||||||||||||||||
Dinmor | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
Ymweld â Dinmor gyda Dilys, Elwyn ac Ifan, a gweld y Gwylanod Coesddu, ond y Llyrs, y Gwylog a’r Ffwlmar wedi mynd. Yna i Ligwy , a’r Ffwlmar wedi ymadael ag yno hefyd. [beiro...] ifan yn tybii mai Cas-gan-Longwr (Storm Petrel) oedd un aderyn a welsom yn gwibio i’r graig
|
27/8/1958 | |||||||||||||||||
Rhosneigr | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
Ar y tywod yn ymyl Rhosneigr, gweld Môr Hedydd (Ring Plover) (Dunlin) Llygad yr Ych. gyda’i gilydd yn y glaw.
|
28/8/1958 | |||||||||||||||||
Penmon | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
[25 Awst yn bosib]. Ym Mhenmon gyda Môn, Ras a’u teuluoedd, a sylwi ar y. Morwenoliaid yn bwydo eu rhai bychain ar y môr. Methu â gwahaniaethu rhwng y gwahanol fathau.
|
20/9/1958 | |||||||||||||||||
Malltraeth | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
Gyda’r gennod wrth Gob Malltraeth a gweld haid o Fôr Hedydd gyda’r (Dunlin) (Llygad yr ych. Tybio hefyd i mi weld Rhostog Gynffonddu
|
25/9/1958 | |||||||||||||||||
Bangor? | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
Gyda Taid ar y pier, ac yn hedfan heibio i gyfeiriad y Borth. Eu pigau’n ddu (Ai “Arctic” oeddynt?)
|
3/10/1958 | |||||||||||||||||
Bangor | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
Hydref 3. Gweld Gwyach Gorniog yn ymyl y pier (Great Crested Grebe) yn suddo am bysgod yn ymyl y lan.
|
4/10/1958 | |||||||||||||||||
Malltraeth | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
Gyda Siân wrth Gob Malltraeth; gweld llawer o “waders”, ond methu a’u hadnabod. Y Môr Hedydd a’r Pibudd Rhuddgoch yn un haid ar yr ynys fach yn ymyl pen pella’r cob. Ar y ffordd adref, yn ymyl y Foel, gweld Hutan Dwr (Turnstones) Ychydig o Fôr Hedydd, a thair Pibydd Coesgoch
|
10/10/1958 | |||||||||||||||||
Aberogwen | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
Hydref 10 (ymlaen) Ymweld ag Aberogwen, a gweld. Chwiwell (Wigeons). Hwyaden Wyllt (Mallards). Y Goesgoch A gweld yn suddo i’r dwr yn ymyl y lan
|
24/10/1958 | |||||||||||||||||
Llyn Coron | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
Gyda Siân wrth Lyn Coron a gweld: Hwyaden Wyllt (Mallards) Hwyaden Gopog (Tufted Duck) Cotiar [sic. cwtiar] Hwyaden Lydanbig (Shoveler) Gwyach Bychan (Little Grebe) Hwyaden Bengoch (Pochards)
|
1/11/1958 | |||||||||||||||||
Aberogwen | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
Yn Aberogwen efo Siân, a gweld T.G. Walker. Yr un adar ag o’r blaen, a rhai o’r hutanod yn dal yno o hyd.
|
8/11/1958 | |||||||||||||||||
Llyn Coron | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
Wrth Llyn Coron eto. Llawer o’r hwyaid eedi hedfan ymaith (saethu wedi bod) ond llawer o’r Llydanbig, a’r Cotiar [cwtiar] yn aros. Gweld hefyd Giach (Snipe) yn codi o ymyl y llyn (Gwelais rai hefyd yn ymyl Aberogwen)
|
15/11/1958 | |||||||||||||||||
Aberogwen | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
Yn Aberogwen efo Sian (gweld Alun Morris ac Eirina yno) a gweld yno Hwyaid Llygadaur (Goldeneye) (eu gweld wedyn o’r pier y dyddiau dilynol) (3 phâr)
|
31/11/1958 | |||||||||||||||||
Aberogwen | |||||||||||||||||
Dyddiadur adar Y Parch. Harri Williams MA, Bangor (diolch i deulu Catrin Evans) | |||||||||||||||||
Tach 29 a 30 Yn Aberogwen eto (Dilys ac Elwyn efo ni ar y 29ain) a gweld ar y 31ain Rhostog Goch (Bar Tailed Godwit) Un Hutan y Dwr ar ôl. Amryw o’r Goeswerdd, a dau Gwyach Bychan [croesi allan] Leiaf (?) [holnod (?) wedi croesi allan] (Yn ystod Tachwedd heidiau o’r Pibydd Rhuddgoch wrth y pier, Y malard yn cynyddu, a’r Hwyaid Eithin (Shelduck) - tua 12 ohonynt - ar y tywod tu draw i’r doc)
|
26/12/2015 | |||||||||||||||||
Prydain | |||||||||||||||||
Harri Williams | |||||||||||||||||
Cyfuniad anffodus o elfennau. Llif y jet yn llifo o`r de dde orllewin I`r gogledd gogledd ddwyrain tros Brydain ac wedi aros yn yr unfan am gyfnod. Am ei fod yn symud tua`r pegwn ble mae`r arwynebedd yn cyfangu mae`r jet yn sugno awyr I fyny o wyneb y ddaear gan dynnu diwasgedd ar ol diwasgedd tros Brydain.
|
10/11/2018 | |||||||||||||||||
Pont Aberalaw | |||||||||||||||||
Harri Williams | |||||||||||||||||
Yr afon Alaw Bach ger Pont Aberalaw yn prynhawn 'ma, yn dilyn y cawodydd trwm. Mae 0.54 medr ( ymron i ddwy droedfedd) yn uwch na'i lefel llîf dwr daear. Effaith llîf trostir a thrawslîf. https://www.facebook.com/groups/671177946410845/permalink/909279912600646/
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|