Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
28/1/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd gwener Diwrnod teg claiar. Yfi yn mynd i Tremadoc i’r Farchnad, yn peri Cyhoeddi y Ffordd fawr o Benygroes i’r Wernddwirig [Gwernddwyryd]ar osodiad wythnos i ddydd llun nesa Y meibion yn teilo oddiwrth y Beudy ucha i’r llain hir ac yn nol llwyth o wair o’r Morfa
|
7/2/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod lled. Minau yn mynd i Benmorfa i osod y ffordd o ben y groes i Wernddwirig [Gwernddwyryd]. yn ymdroi ymhenmorfa Huwcyn yn dyfod a’r Ceffyl y fy nol ... Y meibion yn gorphen nithio’r Gwenith
|
17/3/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener Diwrnod teg Claiar. Will yn Aredig yn Cae’rhendra Huwcyn yn chwalu tail yn y Gelli wastad. Yn danfon y Caws i’r Towyn ac yn dyfod a’r Ceirch hâd adref. Y Gwartheg allan yn mynd i ffwrdd. Thomas Jones Clwt y ffolt[?] gynt yma eisia mesur ffordd oedd yn ei wneud o ben y groes at Wernddwirig [Gwernddwyryd] Sian Maesyllech yma eisia benthig Punt
|
15/12/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd gwener. Diwrnod sych wedi rhewi yn bur galed. Y Meibion yn teilo yn y Tymawr. Will wedi mynd i ddanfon Elin i Langybi. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad.Robt. Lloyd yn dwad efo mi adref i bwyso’r Caws. Sion Griffith Tyddyn mawr y Pennant yn cynnyg talu tair Ceiniog y bunt o dreth dros y Wernddwirig yn lle naw ceiniog oedd pawb drwy’r plwy yn ei dalu am y flwyddyn 1818
|
2/4/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod dwl lled ddryghinllyd. Will wedi bod yn Towyn yn nol tri phegaid o Geirch llwyd hâd ac yn dwad a’r hâd Glofer adref o Siop Morris Jones y lleill yn gorphen nithio’r Ceirch. Fi yn mynd i Griccieth i’r Cyfarfod Ustusiaid yn cael Notice i’w roi i Sion Griffith Tyddyn Mawr y Pennant am dreth ffordd fawr o’r Wernddwirig [sic.] pan oedd ef yno. Ellis Evans Ty’n y Ffidd [sic. Ffridd?] yn dwad yma i orphen mwsoglu’r ‘Sgubor. Yn malu pwn Haidd
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|