Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

cambrian-monarch

127 cofnodion a ganfuwyd.
29/5/1882
Oddiar Iwerddon
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)?

Dydd Llun. 29 May 1882. Y mae yn dda genyf aich hysbysu heddiw etto ain bod yn iach. Yr ydym yn agos iawn i Queen Stown. chydig iawn yr ydym yn ai fyned yn ain bleuna trwyu. nad oes ond y chydig iawn o wynt. Ond y mae yr hyn sydd o wynt yn deg i ni. Y Maeu y Pilot i fewn ers tia 7 or gloch yn y bora. Nid ydym yn myned ond tia 3 i 4 milltir yn yr awr. Yr ydym yn disgwyl y byddwn i fewn heno rhiw dro, fe allasan fod neithiwr oni baeu fod y gwynt wedi myned yn ysgafn iawn ar echnos. Yr ydym yn myned rwan guda tir y Werddon. y mae yn ddiwyrnod Od o braf. Yr hyn euthom er dou 80 Milltir. 

Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Gwynedd)


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/2/1982
Môr Tawel
Dyddiadur Ellen Owen, Tudweiliog, o’r fordaith adref o San Francisco, rownd yr Horn, yn y Cambrian Monarch (Eames, Aled, 1984: Gwraig y Capten Gwasanaeth Archifau Cyngor Gwynedd?

FERSIWN CYFLAWN
Dydd Merchar 22 Feb. 1882 Y mau genym frisin cryf iawn heddiw. yr ydym yn myned yn ain bleuna fel pa buasa ni yn Steamer y mau yma Oxiwn [Auction. Gwerthwyd dillad, baco, a nwyddau a brynwyd gan y capten ymlaen llaw cyn hwylio, oddi wrth y `siandlars'. Yng Nghaerdydd 'roedd Jones, Golden Goat yn adnabyddus iawn nid yn unig fel siop-siandlar ond hefyd fel man cyfarfod i'r capteniaid, ac yr oedd hyn yn debyg iawn i'r hyn a ddigwyddai mewn porthladdoedd trwy'r byd. Cynhaliwyd gwerthiant o ddillad ac eiddo morwr oedd wedi ei ladd neu'i foddi, ac am fod yr arian yn mynd i'w deulu 'roedd morwyr yn llawer mwy parod i dalu prisiau uchel, and pan oedd y gwerthiant i ddod ag elw i'r capten yn unig, fel ar yr achlysur yma, mae'n syndod bod prisiau mor uchel wedi'u talu am sanau Ellen Owen! {AE}] heddiw ar rhiw chydig oedd gennym yn Spâr or Slops. [Slops yw'r enw am ddillad a werthwyd ar longaur' llynges ac ar longau masnach. Y mae'n debyg bod y gair yn dod yn wreiddiol o `sloppe', hen air Saesneg am y llodrau, neu'r .clos a wisgwyd gan for-wyr yn y llynges, ac yr oedd yr enw'n cael ddefnyddio mor gynnar a'r ail-ganrif ar bymtheg. {AE}] y mau yn dechrau am hanar awr wedi 1 yn y prynhawn ar 61 i ni gael ein ceniaw. [170 m.] 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax