Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
8/6/1880 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre Aberdaron | |||||||||||||||||
Gwlaw mawr y boreu G- Gor .....
|
9/6/1880 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre Aberdaron | |||||||||||||||||
Sych a gwresog G- Gor Corddi efo'r Fudda newydd tro cyntaf Tynu oddiwrth y tatws
|
10/6/1880 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre Aberdaron | |||||||||||||||||
Sych a thesog G- Gog Bum yn y Felin yn silio...
|
11/6/1880 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre Aberdaron | |||||||||||||||||
Sych a thesog G- Gog Dr Priddo tatws yn Cae Mawr
|
12/6/1880 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre Aberdaron | |||||||||||||||||
Sych gwlaw at y nos G- Dr Gorphen priddo'r tatws
|
13/6/1880 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre Aberdaron | |||||||||||||||||
Gwlawog G- De Dd
|
13/6/1880 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre Aberdaron | |||||||||||||||||
Gwlawog Gog DeDd Daeth Sarah Bach a llo
|
30/6/1880 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre Aberdaron | |||||||||||||||||
Gwlawog
|
4/7/1880 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre Aberdaron | |||||||||||||||||
Bu y ddwy heiffer Ddwy flwydd efo'r Tarw
|
5/7/1880 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre Aberdaron | |||||||||||||||||
Teg a hafaidd G- Gor Llifo y pladuriau
|
6/7/1880 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre Aberdaron | |||||||||||||||||
Gwlawog G- Gor
|
24/7/1880 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre Aberdaron | |||||||||||||||||
gwlaw mawr ganol dydd G-Gor ...Gorphen cario gwair yn yr Hendref
|
27/7/1880 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre Aberdaron | |||||||||||||||||
Tori gwair y weirglodd
|
6/8/1880 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre Aberdaron | |||||||||||||||||
gwlaw yn y boreu G- Gor William y gwas yn danfon Heffer o Evan Thomas y Crymllwyn i Pwllheli
|
7/8/1880 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre Aberdaron | |||||||||||||||||
Gwlaw mawr G.D.D G[?] Llifogydd mawr yn dod i'r weirglodd
|
17/9/1880 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre Aberdaron | |||||||||||||||||
Sychu G- D.Dd Cario ceirch y Lleiniau
|
17/9/1880 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre Aberdaron | |||||||||||||||||
Sychu G-D Or Cario ceirch y Lleiniau
|
18/9/1880 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre Aberdaron | |||||||||||||||||
Gwlaw mawr neithiwr G-D-Or
|
31/8/1884 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre, Aberdaron | |||||||||||||||||
sych Cael pen fy mlwydd yn 55 oed [heddiw]
|
1/9/1884 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre, A\'ron, trwy garedigrwydd Mrs Wilma Miners a Miss Davida Roberts | |||||||||||||||||
sych Tori ceirch yn Cae\'r Afon
|
26/1/1885 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Cwymp Ckartoum [khartoum] yn y Saudan [Sudan]
|
17/4/1885 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre, A'ron, trwy garedigrwydd Mrs Wilma Miners a Miss Davida Roberts | |||||||||||||||||
Hau haidd yn Cae Tan Lôn
|
1/3/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes, Arfon (gyda diolch i Mena Jones a Fferm a Thyddyn 1992) | |||||||||||||||||
Mawrth laf Storm o Eira. Llwchfeuydd dros y lonydd, y ceffylau i mewn am wythnos.
|
8/3/1886 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes, Arfon (gyda diolch i Mena Jones a Fferm a Thyddyn 1992) | |||||||||||||||||
Mawrth 8: Suddiad yr " Oregon ". Ar ei bwrdd yr oedd 630 o deithwyr.
[The Oregon was built for speed and luxury, and set several records in the Atlantic crossing - a big deal in those days. However, while the builders may have spent lavishly on propulsion and trim, they saved by building her hull out of iron, instead of more expensive but much stronger steel, which was by then the material of choice for vessels of this type. As a result, the huge Oregon was so badly damaged when struck by a much smaller wooden schooner that she sank before she could be towed into port. http://njscuba.net/sites/site_oregon.html]
|
10/4/1886 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre, A'ron, trwy garedigrwydd Mrs Wilma Miners a Miss Davida Roberts | |||||||||||||||||
Cael sachaid o Bran o'r Brychdir
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|