Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
14/8/1889 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron. (Mrs D Miners) | |||||||||||||||||
Gwneyd rhaffau (Gwlaw). Seiri Cerrig yn myned oddiyma ar ol gosod y landers(?)
Mewnbynnwyd gan N Gruffydd
|
15/8/1889 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Rhaffu y Das wair
Gorphen chwalu palisau y Ty
|
17/8/1889 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron. (Mrs D Miners) | |||||||||||||||||
Hwch efo'r Bau yn Dauglawdd.
Gosod wire uwch ben y Twll Gravel. Rhaffu tas wair y Weirglodd.
Hogyn bach gan Mary Jane.
Mewnbynnwyd gan N Gruffydd
|
19/8/1889 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron. (Mrs D Miners) | |||||||||||||||||
Hwch efo'r Bau yn Dauglawdd. Lissie ac Anne yn myned i Carnarvon. Dechreu tori haidd yn yr Hendre.
Mewnbynnwyd gan N Gruffydd
|
20/8/1889 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron. (Mrs D Miners) | |||||||||||||||||
Gorphen tori haidd yn yr Hendre. Tori Bargod y teisi Gwair. Mrs Maybrick i gael ei chrogi.
Mewnbynnwyd gan N Gruffydd
|
21/8/1889 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Gosod pedolau Queen 3
Dechreu tori haidd yn Cae'r Gate
|
22/8/1889 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Tori haidd yn caer gate
|
23/8/1889 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Gorphen tori yr Haidd...
Cael sachaid o Indian Meal o'r Brychdir
|
24/8/1889 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron. (Mrs D Miners) | |||||||||||||||||
Dal llygoden fawr yn Cae'r Gate. Talais 14/6 am sachaid o Indian Meal yn y Brychdir.
Mewnbynnwyd gan N Gruffydd
|
26/8/1889 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Dechreu Llofftio y Ty...
|
27/8/1889 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Ellis Bodernabwy yn myned i'r Asylum
|
28/8/1889 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Tori ceirch yn yr Hendre
|
29/8/1889 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron. (Mrs D Miners) | |||||||||||||||||
Tori ceirch yn Cae Mawr a cynnyll haidd. Cynhebrwng Martha Casgin gynt. Gwraig Pwllymaen yn dwyn £8-0-0 o ParkyBrenin (?).
Mewnbynnwyd gan N Gruffydd
|
30/8/1889 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron. (Mrs D Miners) | |||||||||||||||||
Cynnyll Cae'r Gate a'r Hendre.
Dal gwraig Pwllymaen a'i chael yn euog.
Mewnbynnwyd gan N Gruffydd
|
31/8/1889 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron. (Mrs D Miners) | |||||||||||||||||
Cario haidd o Cae'r Gate a'r Hendre. Cael sachaid o beilliaid o Glanrhyd. Talu £1-14-0 am dano.
Wm Hughes a Rahel Cae'r Rhos wedi priodi.
Mewnbynnwyd gan N Gruffydd
|
2/9/1889 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron. (Mrs D Miners) | |||||||||||||||||
Dechreu tori ceirch yn BrynCapel a gwneyd pen y Das Haidd.
Mewnbynnwyd gan N Gruffydd
|
3/9/1889 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron. (Mrs D Miners) | |||||||||||||||||
Gorphen tori ceirch BrynCapel.
Mewnbynnwyd gan N Gruffydd
|
4/9/1889 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron. (Mrs D Miners) | |||||||||||||||||
Gorphen tori ceirch yn yr Hendre
Mewnbynnwyd gan N Gruffydd
|
5/9/1889 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron. (Mrs D Miners) | |||||||||||||||||
Wm Trefgraigisa wedi mawr.
Toi y Das haidd a'r Helm.
Bum yn Aberdaron.
Mewnbynnwyd gan N Gruffydd
|
6/9/1889 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron. (Mrs D Miners) | |||||||||||||||||
Cynnyll yn yr Hendre. Mab Thomas Rolant wedi crogi ei hyn.
[Mewnbynnwyd gan N Gruffydd]
|
7/9/1889 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron. (Mrs D Miners) | |||||||||||||||||
Cynnyll a cario ceirch Cae Mawr.
Mewnbynnwyd gan N Gruffydd
|
9/9/1889 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron. (Mrs D Miners) | |||||||||||||||||
Rhaffu y Das Haidd.
Nol pumtheg cant o lo o Aberdaron.
Mewnbynnwyd gan N Gruffydd
|
10/9/1889 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Gorphen cynnyll yma a'r Hendre
Dau blentyn Thomas Crydd wedi marw
|
11/9/1889 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) Mewnbwn BJ | |||||||||||||||||
Gorphen cario ceirch yn yr Hendre
Talu Treth i Wm Deunant 16/0½
|
12/9/1889 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron. (Mrs D Miners) | |||||||||||||||||
Gorphen cario ceirch yma.
Cynhebrwng dau blentyn Twmi Thomas.
Mewnbynnwyd gan N Gruffydd
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|