Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
7/5/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Gwerthu heffar yn ffair y dre......
|
9/5/1887 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre, Aberdaron | |||||||||||||||||
Wythnos 20, dechrau 8 Mai 1887:
9 Teilo i Fangolds yn Caetanlon
|
10/5/1887 | |||||||||||||||||
Moelfre, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre Aberdaron | |||||||||||||||||
Wythnos dechrau 8 Mai
10 Hau had Mangels..gorphen claddu tail mangels
g ar y Tatws yn Caetanlon
11 gwlaw gorphen hau hadau
12 Silio Deg hobed o Geirch cael tri hobed a hanner o Siliad, troi y Dynewid allan i cae Bach..Talais bum swllt i Robert Pritchard am grasu
13 Ffair Gyflogi yn Pwllheli Aredig at Rwdins yn Caetanlon
14 Aredi
|
14/5/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Gwerthu pedwar bustach....
|
15/5/1887 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre, Aberdaron | |||||||||||||||||
Wythnos yn dechrau 15 Mai 1887:
16 Owen Jones yn gorphen Dyrnu yr Haidd...Ffair gyflogi yn sarn
18 Daeth yr hwch ag unarddeg o foch bach
20 Gwynt mawr neithiwr..Daeth llong i Porthor yn llwythog o Glai pibelli neithiwr o flaen y Ddrycin
21 Bu Wm Tybach yma yn gorphen aredig at y tatws
|
23/5/1887 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre, Aberdaron | |||||||||||||||||
Wythnos yn dechrau 23 Mai 1887:
23: Wil yn tori eithin ar [tan? tair?] Dechrau chwynu y cefn onions
24: Gorphen chwynu yr onions Rowlio Cae'r Gate llyfnu lle i Rwdins
25: Teilo i Caetanlon i Rwdins...Wm Price yma yn tori ar yr wyn
|
24/5/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Hau rwdins
|
26/5/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Troi y gwartheg allan I gyd
|
28/5/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Mi ddaeth cochan a llo
|
29/5/1887 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre | |||||||||||||||||
Wythnos yn dechrau 29 Mai 1887:
31: Buom yn Hendre
1 Mehefin: Gorphen priddo tatws yn yr Ardd
3: Gwlaw mawr
4: Cneifiais chwech o ddefaid
|
31/5/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Mi gafodd Chester Stalwyn, ai throi allan y nos. Mi fuon yn dechra cymysgu tail
|
6/6/1887 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre | |||||||||||||||||
Wythnos yn dechrau 6 Mehefin 1887:
6: Gorphen tori tywyrch
9: Bum yn Porthgolmon yn nol potiau ddoe Lladdodd yr Hwch un o'r moch bach neithiwr
|
6/6/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Mi fuo yr hwch fawr efor bae yr ail dro yn Clynnog
|
12/6/1887 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre | |||||||||||||||||
Wythnos yn dechrau 12 Mehefin 1887:
13: Tteamer yn mynedo Aberdaron i Aberystwyth
14: William Rice yn tori ar y moch bach
15: Codi Tywyrch yn ddwy dywarchen
17: Gorphen priddo tatws
18: Clirio lle y Das dywyrch..Rhoddi Coal Tar hyd y Gwaith malu
|
19/6/1887 | |||||||||||||||||
Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfre | |||||||||||||||||
Wythnos yn dechrau 19 Mehefin 1887:
20: Nol tri llwyth o dywyrch i'r rhos
21: Nol deunaw llwyth o dywyrch o'r rhos
23: Chwynu y mangolds a Rwdins
24: Dechrau tori Gwair yn yr Hendre
25: Gorphen chwynu y Rwdins
|
20/6/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Mi gafodd Chester Stalwyn
|
26/6/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Mr John yn Capel rhos
Ni bum yno oherwydd dolur ar fy mhen
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
27/6/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Cario Gwair yn yr Hendre
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
28/6/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Gorphen tori Gwair yn yr Hendre
Tori Gwair yn Cae'r Afon
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
29/6/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Cario yn yr Hendre
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
30/6/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Tori Gwair yn Bryn Capel
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
4/7/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Tori Gwair Cae Main a dechreu Cae Gwlyb
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
5/7/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Gorphen tori y Gwndwn
Bum yn Pwllheli yn Talu y Rhent
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
5/7/1887 | |||||||||||||||||
Penygroes, Arfon | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Penbrynmawr, Penygroes (diolch I RT Jones , ei wyr) DB | |||||||||||||||||
Dechra torri gwair
|
6/7/1887 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Chwynu y Rwdins
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|