Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
27/8/1879 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Archifdy Meirionnydd Z/M/3192/1 gyda chaniatad, | |||||||||||||||||
Mer diwrnod hyll a gwlawog anghyffredin dwr yn dywad tros y morfa
|
2/4/1880 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Archifdy Meirionnydd Z/M/3192/1 gyda chaniatad, | |||||||||||||||||
Gwe diwrnod smol ffeind trwy y dydd Rowland yn troi yn y cae newydd
|
16/8/1880 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Archifdy Meirionnydd Z/M/3192/1 gyda chaniatad, | |||||||||||||||||
Llun diwrnod cynnas iawn cario gwenith y ddau gyfar ar llain fach
|
6/2/1881 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf,Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Sul diwrnod ffeind iawn Mr Davis y Bermo yn Pregethi....
|
9/2/1881 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1 ] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Mer diwrnod gwlawog iawn at y prydnawn Rowland a Chatrin yn priodi
|
15/2/1881 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Maw diwrnod smwca ffeind trwy y dydd cau prydnawn rhwng y pedwar cyfer ar werglodd fawr
|
16/2/1881 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiaduron Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Mer diwrnod ffeind golchi y defaid a Rowland yn cario ir ffordd fawr
|
24/2/1881 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy DolgellauZ/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Iau diwrnod ffeind iawn ond eu bod wedi rhewi yn drwm cario ir cae newydd y bore troi prydnawn
|
14/4/1881 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. Rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1. [mewnbwn T.J.] | |||||||||||||||||
Iau diwrnod ffeind iawn gwlawio yn dyner gwerthi yr Tarw yn ffair Dowyn.
|
15/4/1881 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. Rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1. [mewnbwn T.J.] | |||||||||||||||||
Gwe diwrnod ffeind anghyffredin diwedd hau ceirch dechrau hau haidd
|
16/4/1881 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. Rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1. [mewnbwn T.J.] | |||||||||||||||||
Sad diwrnod ffeind trwy y dydd diwedd hau haidd y cae newydd a phlani tatws Ann Dav
|
18/4/1881 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionydd. Rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1. [mewnbwn T.J.] | |||||||||||||||||
Llun diwrnod sych gwintog teilo tatws trwy y dydd a phlani chydig.
|
19/4/1881 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. Rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1. [mewnbwn T.J.] | |||||||||||||||||
Maw diwrnod sych gwintog ag oer iawn plani tatws i fobol y dref
|
20/4/1881 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn,Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. Rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1 [mewnbwn T.J.] | |||||||||||||||||
Mer diwrnod ffeind anghyffredin ond eu bod yn oer bwrw peth eira a diwedd plani tatws
|
21/4/1881 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn,Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. Rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1 [mewnbwn T.J.] | |||||||||||||||||
Iau diwrnod sych ac oer Roland yn Rolio y wern ar cae newydd
|
23/4/1881 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. Rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1. [mewnbwn T.J.] | |||||||||||||||||
Sad diwrnod tywyll gwlawio chydig Rowland yn tro y llain fach au twinio
|
24/4/1881 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. Rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1. [mewnbwn T.J.] | |||||||||||||||||
Sul diwrnod sych Bachgen o Aberystwyth yn Pregethi.....
|
25/4/1881 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. Rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1. [mewnbwn T.J.] | |||||||||||||||||
Llun Diwrnod ffeind bwrw chydig y bore hau y llain fach a dechra troi y ddau gyfar
|
26/4/1881 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. Rhif Archifdy Dolgellau/M/3192/1. [mewnbwn T.J.] | |||||||||||||||||
Maw Diwrnod sych oer a bwrw peth cenllisg y bore Rowland yn troi yn y ddau gyfar
|
27/4/1881 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. Rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1. [mewnbwn T.J.] | |||||||||||||||||
Mer Diwrnod ffeind diwedd hau Haidd am eleni sych iawn
|
28/4/1881 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. Rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1. [mewnbwn T.J.] | |||||||||||||||||
Iau diwedd hau hada bach a theilo i Hugh Edwards diwrnod ffeind
|
29/4/1881 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn ,Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. Rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1 [mewnbwn T.J.] | |||||||||||||||||
Gwe Diwrnod ffeind y Fuwch fraith merch littlan yn dod a llo bedwar o`r gloch y b[ore]Troi yn y cae eithin at mangles.
|
30/4/1881 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. Rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1. [mewnbwn T.J.] | |||||||||||||||||
Sad diwrnod yn gwlawio yn braf iawn Rowland yn troi tir swege
|
1/5/1881 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. 2/1392/1 Rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1. [mewnbwn T.J.] | |||||||||||||||||
Sul diwrnod ffeindMr Evans Penant yn Pregeth.....
|
2/5/1881 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. Rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1. [mewnbwn T.J.] | |||||||||||||||||
Llun diwrnod ffeind iawn Rowland yn troi IHumphrey Williams Plase Edwards
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|