Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
22/3/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Mer diwrnod symol ffeind troi yn cae y newydd yr ail waeth at datws
|
23/3/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn (Archifdy Meirionnydd Z/M/3192/1 gyda chaniatad) Rwth Tomos | |||||||||||||||||
Iau diwrnod tywyll bwrw peth y bore teilo o dowin ir cae canol bwrw yn drwm pr... fina yn y vestri yn Nhowyn
|
24/3/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn (Archifdy Meirionnydd Z/M/3192/1 gyda chaniatad) Rwth Tomos | |||||||||||||||||
Gwe diwrnod bidir gwlawog tan y prydnawn fina yn y dre yn y post offis yn danfon arian I Lindan ir draining comp..
|
25/3/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn (Archifdy Meirionnydd Z/M/3192/1 gyda chaniatad) Rwth Tomos | |||||||||||||||||
Sad diwrnod symol feind diwedd troi y cae newydd bwriodd beth at y nos
|
26/3/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf,Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Sul diwrnod sych ond oer dyn deithr yn Pregethi ....
|
27/3/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Llun diwrnod pir ffeind dechra troi y Morfa prydnawn y ddau Rowland
|
28/3/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn,, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Maw diwrnod smwca bwrw chydig weithia nina yn y Morfa prydnawn yn agor y trenci
|
29/3/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiaduron Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Mer diwrnod smwca bwrw rhyw wlith wlaw y ddau fachgen yn y morfa y bor....
|
31/3/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Gwe diwrnod ffeind iawn y ddau Rowland yn y morfa bore llyfni tir tatws pryd.... fina yn hebrwng y defad adra
|
1/4/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Sad diwrnod stormllyd a chawodog y ddau Rowland yn y Morfa yn troi
|
2/4/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Sul diwrnod stormllyd Mr Hugh Roberts Rhydmain yn Pregethi ......
|
3/4/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Llun diwrnod stormllyd iawn Rowland Edward yn hela Vots efo John Penllyn Rowland Owen yn llyfni cae newydd
|
4/4/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Maw diwrnod tywyl gwlawio chydig Rowlio gwenith ar pheth or cae newydd a theilo peth llidw r cae canol
|
5/4/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Mer diwrnod Rowlio y cae newydd au Lyfni a chodi peth rhipia a mofin llwyth o lidw
|
6/4/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Iau diwrnod ffeind Rowland yn y Dyffrin gwyn yn nghfarfod Morgan William mofin tri pwn o geirch R O yn mofin .... Vole....
|
7/4/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Archifdy Meirionnydd Z/M/3192/1 gyda chaniatad, | |||||||||||||||||
Gwe diwrnod ffeind iawn dechra teilo tatws prydnawn troi y bore
|
8/4/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Sad diwrnod ffeind iawn ond eu bod yn chwyth yn drwm dechre plani tatws
|
9/4/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Archifdy Meirionnydd Z/M/3192/1 gyda chaniatad, | |||||||||||||||||
Sul diwrnod ffeind Richard Edwards Aberystwyth yn Pregethi ......
|
10/4/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Llun diwrnod ffeind iawn teilo at datws trwy y dydd Rowland yn pedoli y bore
|
11/4/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Maw diwrnod ffeind iawn gwasgari at datws a phlani a chladdi
|
12/4/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Mer diwrnod yn chwythi chydig a gwlawio chydig prydnawn teilo trwy y dyd
|
13/4/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Iau diwrnod ffeind trwy y dydd plani tatws I bobol ddiarth a theilo gwlawio yn bir drwm at y nos
|
14/4/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Gwe diwrnod stormllyd ond sych dechra hau ceirch a chladd tatw bobol diart
|
15/4/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Sad diwrnod ffeind trwy y dydd hau ceirch a haudd yn cae canol ond bwrod beth
|
16/4/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Sul diwrnod teg tan nos Mr Parry Aberystwith yn Pregethi ......
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|