Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
19/8/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Saddiwrnod ffeind iawn dechrau tori haudd yn cae canol mofin 1/4 tynell o lo
|
20/8/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Sul diwrnod canolig bwrw beth Mr Symonds yn Pregethi .....
|
21/8/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Llun diwrnod canolig bwrw rhau cawodydd dechrau cario Gwenith i`r ty
|
22/8/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Maw diwrnod sych y bore gwlaw trwm y prydnawn cario gwenith bore
|
23/8/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Mer diwrnod gwlawog braidd trwy y dydd dechrau tori ceirch au godi
|
24/8/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Iau diwrnod gwlawio braidd trwy y dydd plant yn gwneid rhau t....
|
25/8/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Gwe diwrnod stormllyd gwlawog braidd trwy y dydd tori chydig o geirch a thynu to
|
26/8/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Archifdy Meirionnydd Z/M/3192/1 gyda chaniatad, | |||||||||||||||||
Sad diwrnod ffeind
|
27/8/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Sul diwrnod teg Hugh Pugh Gwenfron yn Pregthi.....
|
28/8/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Llun diwrnod gwlib y bora nina yn cario Gwenith diwed am eleni
|
29/8/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Maw diwrnod gwlib y bore gwell o beth prydnawn tori peth ceirch yn y Morfa
|
30/8/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Mer diwrnod ffeind trwy y dydd codi haidd a cheirch trwy y dydd yn y cae canol
|
31/8/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Iau diwrnod gwlawog iawn braidd tryw y dydd dechra tori haid y cae bach
|
1/9/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/311392/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Gwe diwrnod gwlawog tori peth ceirch yn y wern bwt a chodi bwlch wrth ganlasa Glanywern
|
2/9/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Sad diwrnod gwlawog tori peth ceirch yn y wern bwt a chrafi sofol y cae canol yr heffer Goch yn cymrid Tarw
|
3/9/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Sul diwrnod bwrw rhai cawodidd Cyfarfod Gweddi y bora ar prydnawn
|
4/9/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Llun diwrnod ffeind iawn y bore tori ceirch yn y Morfa cario ceirch a haid prydnawn
|
5/9/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Maw diwrnod gwlawog y bore gwell o beth at y prydnawn fina efo P H Hugh yn morfa Dovey
|
6/9/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Mer diwrnod ffeind y Catle shoe yn cae Jones Neptune Hall Rowland yno trwy dyd
|
7/9/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Iau diwrnod feind iawn tori haudd yn y cae bach John Evan efo ni
|
8/9/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiaduron Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Gwe diwrnod ffeind diwedd tori haidd a chodi peth a thori peth ceirch
|
9/9/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Sad diwrnod ffeind iawn diwedd tori ceirch y wern a chodi haidd
|
10/9/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Archifdy Meirionnydd Z/M/3192/1 gyda chaniatad, | |||||||||||||||||
Sul diwrnod ffeind Mr Robert Hughes yn Pregethi .....
|
11/9/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Llun diwrnod ffeind y bore ond sychu yn wan cario ceirch y Morfa a pheth haidd or cae bach
|
12/9/1882 | |||||||||||||||||
Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Edward Edwards, Faenol Isaf, Tywyn, Meirionnydd. [rhif Archifdy Dolgellau Z/M/3192/1] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Maw diwrnod yn bwrw rhau cawodidd y bore diwedd cario haid yr Hwch oddiwrth y Baedd.... Pwn or felin
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|