Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

llythyr

221 cofnodion a ganfuwyd.
0/0/1816
Pennantlliw, Llanuwchllyn
Hunangofiant Ap Fychan (Robert Thomas)
Yn fuan wedi terfyn rhyfel Ffrainc [yn 1815, felly 1816+, hyd 1819 meddai'r gohebydd Gwawr Morris]...yr oedd hanner pecaid o flawd ceirch yn costio i ni ddeg swllt a chwe cheiniog; felly prin y gallem gael bara, heb son am enllyn [rhywbeth i'w fwyta gyda'r bara], gan y drudaniaeth [cyflwr o brinder]. Buom am un pythefnos heb un tamaid o fara, caws, ymenyn, cig na chloron. Digwyddodd i ni gael ychydig o faip, a berwai ein mam y rhai hynny mewn dwfr, ac a'u rhoddai i ni i'w bwyta gyda y dwfr y berwesid hwynt ynddo, ac nid oedd ganddi ddim oedd wel iddi ei hun, er bod un bychan yn sugno ei bron ar y pryd...O'r diwedd, cymerwyd fy nhad a'm mam, a'r teulu oll, yn afiach gan glefyd trwm..a bu'n rhaid cael cymorth plwyfol. [diolch i Gwawr Morris, Llanuwchllyn am y cofnod mewn llythyr dyddiedig 18 Tach 2011. Tynnodd sylw at effeithiau Tambora yn cyswllt (Llenor a gweinidog Cymreig o ardal Penllyn, Gwynedd, oedd Robert Thomas, enw barddol Ap Vychan neu Ap Fychan (11 Awst 1809 – 23 Ebrill 1880). Ganed Ap Vychan (sic) mewn bwthyn wrth waelod Pennant-Lliw ym mhlwyf Llanuwchllyn. Tyfodd i fyny mewn amgylchiadau caled iawn.)]
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: natur
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
6/4/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau Diwrnod teg. Y Meibion yn llyfnu yn y Caecanol a’r Gelliwastad Griffith Morris yn dyfod yma i ddal Tyrchod daear. Yn gosod y Tir iddo i’w lanhau oddiwrth Dyrchod Daear am bedwar swllt a ch^wecheiniog yn y Flwyddyn [sic. mewn llythrennau bras]. Yn cael llythur [sic. llythyr] oddiwrth John Jones Mesurydd Tir a Map ynddo o lotiau oedd yn perthyn i Dyddynygwynt a Drwsyrymlid Sir Feirionydd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: BJ
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/5/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher  Diwrnod teg Claiar. Fi a Will yn mynd i Gaegoronw i nol siwrna o wair  Huwcyn wedi ymadael yn y boreu  Fi yn mynd i Dremadoc ac yn cael Llythyr oddiwrth Ellis Jones Dolgelley eisia maengrisial yn troi y ddau Eidion i’r Morfa i borfa. Yn prynu Clo Newydd. 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/7/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth  Gwres mawr. Robt. Jones Hendrahowel yma’n Cymysgu’r Calch, y Meibion yn tyrru gwair Caegoronw ucha ac yn lladd gwair yn Cagoronw [sic] isa. Bachgen Sion Thomas Tyddyn dicwm yma yn danfon Llythyr yma oddiwrth Wm, Jones Tyddyn Elen o achos Rich Robert alias Dic Robin ychwaneu [sic] [y chwanen?] oedd wedi cael ei symud i blwyf Coedana yn Sir Fon a hwytha am dreio Cyfraith yn y chwarter sesiwn nesa. William Jones yn cysgu yma neithiwr ac yn dwad a phedwar o Grancod yma 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher Diwrnod teg distaw. Richd.Thomas Penmorfa yma oddiwrth Lloyd Brynkir o achos y ffordd fawr finau yn gyru Llythyr efo at Mr.Huddard, Y Meibion yn carrio gwellt o’r Beudy Newydd i’r Beudy ucha i’w wneud yn ddâs, Henry Edward yn darfod Dyrnu yn y Beudy ucha, Howel Owen y Gorllwyn yma yn nol Cosun, Fi yn saethu tair o Lygod ffreinig yn y cafn môch ar un ergyd  Yn gyru’r helm haidd gyntaf i mewn ac yn lladd un Lygoden ffreinig yn honno


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/12/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Diwrnod dwl claiar. Robert Sion Hendrahowel yn dwad yma i orphen rundro’r Ty. Y lleill yn gorphen puro’r Haidd ac yn cael o gwbl unarddeg o Hobeidia. Elizabeth Griffith Llangybi yn mynd adref  Griffith Jones Gelli’r Yn, yn dyfod yma a Llythyr oddiwrth Mr.Williams Steward Mr.Gore. Tomas wedi bod yma prydnhawn ddoe yn nol y Milgi !


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau     Diwrnod oer dryghinllyd. Will a dolur o’i fawd ei law. Will Sion a Harri yn y Morfa yn agor ffosydd y Cefna. Yn darllaw [bragu].  Yn rhoi’r dyrcan felen ifanc i eisda [sic. eistedd] yn y ty bâch ar ddeg o wyâ [sic. wyau].  Morwyn E Griffith Llangybi yn dwad yma yn dwad a plans [sic. planhigion?] bresych, a Llythyr fod John Owen Cefnycynferch wedi marw er chwech o’r gloch y boreu heddyw [sic. heddiw]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul y Pasg. Diwrnod teg sych. Dafydd, Baili William Jones yn dwad a llythur [sic. llythyr] yma for Cyfraith Tyn lon wedi ei henill. Fi yn mynd i’r llan. Mary W.Tomas yn dwad yma o Langybi o achos Tynlon


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/4/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener.Diwrnod dwl claiar. Yn troi’r Defaid hespion i’r mynudd, ac yn mynd ddaliad y Prydnhawn i’r Morfa i lyfnu. Mr.Owen Aberglâslyn yn galw yma y tro cyntaf wedi dyfod adref. Fi wedi bod yn y Farchnad yn cael llythyr oddiwrth John Williams Plâsybrain. Mam wedi mynd i’r Bettws fawr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/7/1822
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod dwl sych  Fi wedi bod yn y llan. Elin a minau yn mynd i Aberglâslyn yn Prydnhawn yn cael llythyr yno oddiwrth Mr.Williams Benar


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/9/1824
Abergwyngregyn
llythyr o'r Wordsworth Museum, Cumbria
up the vale of Aber terminated by a lofty waterfall?not much in itself but striking as a closing accompaniment to the secluded valley. Here in the early morning I saw an odd sight, fifteen milkmaids together laden with their brimming pails. How cherrful and happy they appeared and not a little inclined to joke after the manner of the pastoral persons in Theocritus? William Wordsworth mewn llythyr i Sir George Beaumont?.. Hafod?
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : 0
Is Tym : 0
Uch Tym: 0
Safle grid:
0/0/1825
Cymru
Hanes hafau poethaf Cymru'r cynoesau https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/66449896

Cafwyd cyfnod o sychder maith yn ystod haf 1825. Mewn llythyr at ei fab, Taliesin, ym mis Awst y flwyddyn honno, mae'r hynafiaethwr, Iolo Morganwg, yn cyfeirio at bobl yn disgyn yn farw yn y caeau ac ar y strydoedd oherwydd y gwres llethol. 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
0/1/1825
Lleyn
Archifdy Prifysgol Bangor
Cerydd llymdost ar werinos Lleyn yn rhuthro am y cyntaf i ladrata nwyddau a olchwyd i'r lan drwy i long fawr o Greenock fynd yn ddrylliau ar "fankiau Wicclo" (llythyr 8, 20 Ionawr 1825 oddiwrth Robert Jones at ei fab Samuel)
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: natur
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
0/9/1833
Lyme Regis
http://www.geolsoc.org.uk/Library-and-Information-Services/Exhibitions/Women-and-Geology/Mary-Anning/Letter-from-Mary-Anning
[Llythyr dyddiedig 11 Hydref ?1833 - yr holnod ga y Geol Soc]. My dear Madam I would have answered your kind letter by the return of post, if I had been able (perhaps you will laugh when I say that the death of my old faithful dog [Tray] quite upset me, the Cliff [Undercliff?] fell upon him and killed him in a moment before my eyes, and close to my feet, it was but a moment [?betimes] me and the..... [dyddiad damcaniaethol y digwyddiad Medi 1833] Letter from Mary Anning to the Charlote Murchison LDGSL/838/A/7/3
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr:
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
10/2/1838
Meerut, India
Up the Country - Letters from India. (1983) Emily Eden. Virago
Yesterday [Sadwrn, 10 Chwefror] George gave another great dinner, at which we did not appear. I don`t think I ever felt more tired, but the weather is grown very warm again; and then, between getting up early when we are marching, and sitting up late at the stations, I am never otherwise than tired. [Llythyr 11 Chwefror]
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr:
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
14/5/1855
Parsele
Dyddiaduron Edward Evans, Parsele, St Edrens, Sir Benfro (gyda diolch i Amgueddfa Werin Cymru) [HJ]
Parselle. 14 Llun. 28 o`r Lleuad.. Yn trin tir Mangles &c. ? Shemy Rees yn Dyrni. ? . Sych a`r Gwynt o`r Dwyrain Ogledd ? cymylau Tarthog melynllyd yn marchog yr Awel ? Ymddengys fel am dywydd Sych etto ? er nad ydyw wedi gwlychi dim ar y dda?ar, ? ac y mae dyffyg porfa yn ofnadwy ar fanau ? ar creaduriaid ar Starfo ? Y mae da iach gyda rhai yn bwytta H?n wellt Gwenith! rhag Starfo ? . Bu Shemy Mathias i lawr oddeutu Hwlffordd, yn edrych am y Fuwch ? (edr Sad.) ? ni chafodd un hint am dani. ? . Bu Thomas yma, a Llythyr oddiwrth James ? nid ydyw wedi o Liverpool etto! ? cewn lythyr, yn hysbysi ei ymadawiad o`r wlad.
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr:
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : 0
Is Tym : 0
Uch Tym: 0
Safle grid:
15/5/1855
Parsele
Dyddiaduron Edward Evans, Parsele, St Edrens, Sir Benfro (gyda diolch i Amgueddfa Werin Cymru) [HJ]
15 Mawrth. 29 o`r Lleuad. Yn trin Mangles ? Aredig a llyfni a chlasci C?ff. &c. . Sych a`r gwynt o`r Gogledd ? gwressog a hyfryd yn y boreu ? yna prydnawn cododd awel Sharp ? a daeth clyttiau o niwl ar ei aden, ? ac oeraidd yn Show.. Buom yn cneifio`r Defaid prydnawn ? Cafwyd Llythyr oddiwrth James yn hysbysi fod llong wedi hwylio oddiar dd?e ? Fortune yw ei henw, ? dros 300 o Bassengers. ?
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr:
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : 0
Is Tym : 0
Uch Tym: 0
Safle grid:
23/5/1855
Parsele
Dyddiaduron Edward Evans, Parsele, St Edrens, Sir Benfro (gyda diolch i Amgueddfa Werin Cymru) [HJ]
23 Mercher 7 o`r Lleuad. Setti gymaint o Rhynau ac oedd yn barod ? 20 ? John yn gorphen Claddi ? Hefyd gorphenodd agor y cyfan ? Gorphenodd S. Rees a Crasi, ? a bu yn yr Ardd, ? yn paratoi at Blants Bu Mary yma ? daeth a`r ddau grwt ganddi ? Daeth a llythyr oddiwrth James ganddi ? yr hwn a drosglwyddodd i ni y newydd galarus fod y llong ?Fortune? wedi myned yn wreck yn Dun-Drum [Dundrum, County Down], Gogledd Iwerddon, oddeutu 20 milltir o Belfast a rhwng drugaredd y Rhagluniaeth, achubodd y Pssengers eu bywydau ond rhyw 3 neu 4 ? y rhai a boddodd wrth neidio i`r cychod yn y môr, &c gormod gwaith fyddau crybwyll y Particulars ? ceir gwybod etto pa fodd fydd James yn bwriadi anturio ar y dyfodol amser ? Cafodd ei Luggage ? yn dd#ata# o rhan Damage, a chonsidro ? Hynod fath Brofedigaethau sydd yn ymgyffwrdd a James ? y Voyage i L.pool nid oedd fawr yn well ? . Y gwynt o`r D? ? twysged lawer o gymylau yn y Regions uchaf a cryn dwysged yn isel, o gymylau pwysig ? trymlwythog, ac ymddan- gosai`r Awyr fel pe bai natur taranau ynddi ? Daeth i wlaw gan wneuthur Rwshis br#ata#s oddeutu 11eg. Bwrodd cryn dwysged yna aeth yn hinda prydnawn ? Daeth eilwaith i wlaw gyda`r Nôs ? y mae llawer o arwyddion am wlaw ganddi heddyw. ?
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr:
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : 0
Is Tym : 0
Uch Tym: 0
Safle grid:
11/8/1856
Capel Curig
Joan Abse: Letters from Wales (Seren 2000)
Fish would not rise; but the rivers are flooded, and therefore we shall have noble sport. But the glory was what I never saw before, all those grand mountains, "silver-veined with rills", cataracts of [it.]snow-white cotton threads [it.] ...the whole air alive with the roar of waters...after our dusty burnt up plain, is most refreshing [llythyr Charles Kingsley dyddiedig 12 Awst 1856 - mae'n debyg mai at y diwrnod cynt y cyfeiriai, 11 Awst]
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: natur
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
2/4/1859
Parselau,St Edrens,gog Sir Benfro
Dyddiadur D. Edward Evans, Parsele, St Edrens, Gog Penfro (Amg. Werin Cymru:mewnbwn JLlJ)
Cafwyd llythyr, ynghyd a "Newspaper-oddiwrth fy mrawd James o Australia(Dated Dec22/58)- Y mae James yn gwneud yn hi yn hynod o dda ar y "Gold Fields". Y mae mewn Diggens newydd ei darganfod - a elwir yn "Indigo" nid pell o Beechworth,-Y mae share mewn claim ganddo- ac yn gwneud yn hynod o dda- anfonodd sample o'r "Indigo" gartref yn y llythyr- Y mae popeth yn ddigon i gynhyrfu undyn i fyned ffwrdd- a myn cebyst- ni threigl llawer o fisoedd dros fy mhen cyn y byddaf am picas yn twrio am y "man melyn!! Hynod o ddwrllyd- niwlach a thywyll iawn-gyda bras law tinwyn a dwrllyd- gan barhau braidd yn diseibiant trwy'r dydd- Y mae'r pridd mor wlyb a thoes- Gwynt o'r S.West- Y mae yn hynod ddiflas. (wedi cynnwys y cyfeiriad at ei frawd yn Awstralia)
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr:
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: SM904282
7/1/1864
Caergybi
Llythyr gan Nicander yn “Lluaws o Brif Enwogion Cymru” casgledig gan Myrddin Fardd

Y mae Mrs. Williams a minnau yn teimlo gyda gofid fod y tywydd hwn yn anffafriol i'ch anwyl fachgen. Mae y rhew ar y pyllau yma yn 8 modfedd o drwch. Rhew distaw, tebyg i'r hyn fydd yn America. A golwg am iddo barhau ryw hyd etto. Ond mae'n dymhoraidd, ac yn adferiad o'r gauaf hen ffasiwn, pan oeddym ni yn hogiau. Yr wyf bron a phrophwydo y bydd y rhew hwn a'r hin hon yn feddyginiaeth i glefyd y tattws. Collodd y tattws y dydd pan gawsom auafau rhy rywiog. 

[MDCCCLXXXIII]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
0/8/1864
Bala > Ffestiniog
Joan Abse (2000): Letters from Wales (Seren)
..Maentwrog, Merionethshire, where I arrived last Monday, August 1st...I was lost in storms of rain on the mountains between Bala and Ffestiniog. It really happened what is related in novels and allegories 'the dry beds of the morning were now turned into the channels of swollen torrents,' etc. At last a river ran across the road and cut me off entirely...[a] shepherd and family gorged me with eggs and bacon and oaten cake and curds and whey... [Llythyr gan Gerard Manley Hopkins i Alexander Baillie]
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: natur
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
18/8/1864
Llanberis
Joan Abse (2000): Letters from Wales (Seren)
We have just returned from a delightful little excursion ...The day [18 Awst?] was perfectly fine and clear..we went to that beautiful waterfall on the way up Snowdon, about half a mile from the hotel. The fall was beautiful even in this weather, and indeed the green of Llanberis was fresh and bright as Switzerland, in spight of the drought..Next morning...[19 Awst?] [Llythyr gan Matthew Arnold at ei fam dyddiedig 20 Awst 1864]
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: natur
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
19/8/1864
Llanberis>Llanrwst
Joan Abse (2000): Letters from Wales (Seren)
..Next morning...[19 Awst?] we started at eleven in a carriage and pair for Llanrwst. A soft grey morning with a little mist passing on and off the highest hills. [Llythyr gan Matthew Arnold at ei fam dyddiedig 20 Awst 1864]
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: natur
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --
25/2/1872
Parsele
Dyddiadur D.Edward Evans,Parsele,St Edrens,Gog.Penfro (C.E)
Gartref. Darllain a ysgrifenni llythyr i Efor Thomas. Gwlubaid ir Eithafion, gwynt S.W gwlaw mawr pryd a tharanau.
Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr:
Cyf. Gwynt:
Nerth.Gwynt :
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -999
Safle grid: --

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax