Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
0/3/1898 | |||||||||||||||||
De Iwerydd | |||||||||||||||||
Llythyr gan Eluned Morgam o Chubut. Buenos Aires 15 Mehefin 1898. Gyfaill Hoff. WRP George (Gol) | |||||||||||||||||
Cawsom daith ystormus iawn, ond byr, yr oeddum yn cychwyn o Lynlleifiad [Lerpwl] ar y 24ain o Fawrth ac yn cyrraedd Porth Madryn ar y 24ain p Ebrill; dyma`r daith fyraf wnaed eto `rwyn credu....
|
0/1/1899 | |||||||||||||||||
Blaenau Ffestiniog | |||||||||||||||||
Archifdy Dolgellau Z/DV/3:551 | |||||||||||||||||
Dear Sir
As I believe last week stands quite unique in the annals of the wet weeks of Ffestiniog I thought it would interest you to have the following figures. From 9am on Saturday the 14th inst to 9am today the 23rd we have had 11.58 inches of rain as follows:
Jan 14 - 15 2.10
Jan 16 0.25
Jan 17 0.47
Jan 18. 2.47
Jan 19 0.67
Jan 20 3.27
Jan 21- 22 2.35
Total 11.58 inches
and from Friday morning till this morning we had as you see 5.62 inches making a total for the month of 15.81 inches. On Saturday the whole quarry was one sheet of water, the ditches on all floors full to overflow-and the [ s...p] on the L floor filling and filling faster than the pump could cope with, although, at 11:30am when I was there it was going at 13 1/2 strokes, and still the water gaining on it. The strain was tremendous, and I gave instructions to [Smart] not on any account to increase the speed but rather decreased [sic] it as we had the whole of Sunday before us with the hopes that the storm would before long abate. I also arranged for relief gangs with the pumps for Saturday afternoon, night and Sunday. Between six and seven on Saturday night the Belt Laces [races?] gave way and in the 10 minutes that it took to connect the steam engine (we had the boilers ready] the water raised 10 inches in the bump [pump?] - but soon after this we got it under, and the report I had about 8 on Sunday morning was that the pumps were working splendidly and going at 6 1/2 strokes since midnight, the water being kept well under. So we passed the crisis alright. It was an anxious time. In spite of all the rough weather you will be glad to learn that we had a gain in the blocks brought out last week of 62 tonnes I remain Your obedient servant oh Jones. [llythyr dyddiedig 23 Ionawr 1899 i WE Oakeley Esq. Cliff House, Atherstone]
|
29/5/1899 | |||||||||||||||||
Westport, Co. Mayo, Iwerddon | |||||||||||||||||
Carneddog a'i Deulu gan E. Namora Williams (Gwasg Gee 1985) | |||||||||||||||||
Y mae yn odiaethol o heulog a thesog yma. Dyma y dydd brafiaf eto [llythyr at Catherine dyddiedig 29 Mai 1899 oddiwrth Carneddog]
|
9/1/1902 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
Lladd yr Heffer
Cael llythyr o'r Deheudir
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
12/12/1902 | |||||||||||||||||
Moelfra, Aberdaron | |||||||||||||||||
Dyddiadur William Jones, Moelfra, Aberdaron (drwy garedigrwydd Mrs W Miners a Miss D Roberts) | |||||||||||||||||
5
Toi y gwellt
Anfon llythyr i Llwynhendy
Mewnbynnwyd gan Brenda Jones
|
1/9/1908 | |||||||||||||||||
Llangollen | |||||||||||||||||
Gwyndaf R. (2012), Taliesin o Eifion a'i Oes: Bardd y Gadair Ddu Gyntaf Y Lolfa | |||||||||||||||||
Oherwydd y glaw trwm, byr iawn fu seremoni agoriadol Gorsedd Eisteddfod Llangollen, 1908.
{Eisteddfod Gen Llangollen 1908. Dyddiad: 1-5 Medi 1908 (Robin Gwyndaf mewn llythyr 20 Awst 2012)]
|
19/6/1911 | |||||||||||||||||
Falmouth | |||||||||||||||||
Llongwr o Ros-Lan John Jones Williams (Cyhoeddiadau Mei, 1983) | |||||||||||||||||
Gadawodd y Cadwalader Jones Borthmadog ar 13 Mehefin...\"19 Mehefin - cael llythyr oddiwrth JJ o Falmouth; wedi cael tywydd mawr\"
|
29/11/1913 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Sadwrn 29 ? Anfon llythyr i?r South i Thomas. Turn yn y lefel. Niwl adra pnawn.
|
12/1/1914 | |||||||||||||||||
ardal Cynllwyd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Mary Davies, "Y Plas" (trwy law RhG, yn aros am ganiatad) | |||||||||||||||||
12. Llun. Andros o oer. Golchi. Y dynion hefo y defed. Dod a heffer o beudy ucha at y ty - y bluen wen. Cael llythyr oddiwrth dewyrth Dafydd o Bwllheli. Wedi newid ei lodgin eto.
|
5/3/1914 | |||||||||||||||||
ardal Cynllwyd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Mary Davies, "Y Plas" (teipysgrif trwy law RhG, yn aros am ganiatad) | |||||||||||||||||
5. Iau Gwynt a glaw. Pobi bara ceirch. Llo bach beudy ucha wedi trigo, dod a'r heffer i lawr. Cael llythyr oddiwrth Janet eisio i mi fynd yno wythnos nesa. Wil yn mynd i'r Slendy [ELUSENDY?] er mwyn cael bod ar ei draed y nos hefo'i nain.
|
26/3/1914 | |||||||||||||||||
ardal Cynllwyd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Mary Davies, "Y Plas" (teipysgrif trwy law RhG, yn aros am ganiatad) | |||||||||||||||||
26. Iau Braf. Golchi gwrthbane [sic. teipysgrif] llofft y dynion. Symud yr injan ddyrnu i Dyddynllywarch. Ceffyle Coedladur a Chwmffynon. Rhoi y ceffyl gwyllt yn y canol - tyny yn iawn. Yr hen ferlen yn nogio ar caety. Y fi yn mynd heibio ffridd Glwfer a chae Garth i chwilio am wyn bach. Mam yn mynd i Gwmffynon ar ol cinio. Cael llythyr oddiwrth Susan, dewyrth Tomos yn waeth. Wedi cael anwyd trwm. Y Dr. yno.
|
10/4/1914 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Gwener 10 ? Cael llythyr oddiwrth Nel yn dweud fod yr wyau wedi cyrraedd yn saff. Gorffen plannu tatws, Eliza wedi mynd i Tan y Ffordd i osod. Turn yn y lefel.
|
23/4/1914 | |||||||||||||||||
ardal Cynllwyd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Mary Davies, "Y Plas" (teipysgrif trwy law RhG, yn aros am ganiatad) | |||||||||||||||||
23. Iau Braf. Pobi bara ceirch. Rowlio Caemawr. Gorffen troi a llyfnu tir tatws. Wil yn sal braidd. Lis yn dod yma. Dic y Felin ddim yma. Fi a Sali yn smwddio curtains. Cael pattern dress ddu o Gorwen. Cael llythyr oddiwrth Non Cefngwyrgrig. Llythyr digalon iawn. Claddu Elis bach Fedwarian, private 53 ml oed (brain fever). Jethro Tynbwlch gynt wedi marw yn Ffestiniog.
|
23/4/1914 | |||||||||||||||||
ardal Cynllwyd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Mary Davies, "Y Plas" (teipysgrif trwy law RhG, yn aros am ganiatad) | |||||||||||||||||
25. Sadwrn Braf. Planu tatws. Sil ddim yma. Wedi mynd I gladdu Jethro ei frawd i Ffestiniog. Cael llythyr oddiwrth Bolton. Cael £23.10 am y ddau swynog. R. Lewis yma. Die y Felin yn cael 24/-. Cael hanes lloi gan Ann Lletycripil gynt. Sali yn sal. Mynd i'w gwely yn syth o blanu tatws. Claddu Caden Tymawr. Private. 93ml.
|
26/4/1914 | |||||||||||||||||
ardal Cynllwyd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Mary Davies, "Y Plas" (teipysgrif trwy law RhG, yn aros am ganiatad) | |||||||||||||||||
26. Sul Braf. Fi i'r ysgol. Mrs Jones Gym yn yr ysgol. Neb I'r capel pnawn. Fi yn unig i'r capel minos. J. Elis Jones Glynceiriog yn pregethu. Sali yn ei gwely trwy'r dydd yn sal. Cael llythyr oddiwrth Bessie. Anfon Seren a llythyr ati. Cyhoeddi dechre nos Sul nesa 6.15. Y dillade newydd yn dechre dwad. Morus Pantsaer yn sal, "blood poison" ar ei fraich.
|
28/4/1914 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Mawrth 28 ? Turn yn y lefel. Cael llythyr gan Nel yn dweud fod y brat wedi cyrraedd. Cywion Tyn Gamfa yn deor.
|
26/5/1914 | |||||||||||||||||
ardal Cynllwyd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Mary Davies, "Y Plas" (teipysgrif trwy law RhG, yn aros am ganiatad) | |||||||||||||||||
26 Mawrth Braf. Corddi. Whitwasio pen y gegin a golchi y paent. Y dynion yn crega Caety. Joe yn mynd a llwyth o geirch o'r odyn ar ol te, ag i'r efel. Sali yn mynd i'r cor minos. Cael llythyr oddiwrth Jennet. Wedi cymeryd fferm y Gelli, Llawrbetws.
27, Mercher
Braf. Papuro y gegin. Papur glas unlliw. Crega Caety. Joe yn mynd a llwyth i'r odyn ar ol te. Jac Cwmffynon yma minos yn torri ar y lloi a tyny bendro ar hesbin. Malen yn ddrygiog iawn. Rhoi llyfether byr iawn arni. Claddu hen wraig Tydu.
28, Iau
Braf. Popty. Gorffen crega Caety. Tada yn y felin yn silio. Mam yn mynd a fo i lawr yn y car yn y bore. Joe yn nol llwyth ar ol cinio. Golchi llestri y dreser etc. Fi yn mynd i Gwmffynon minos. Cymanfa ganu y sentars y bore. Mrs John Elis y Rhos wedi marw.
29, Gwener
Braf. Yn Cwmffynon. Y ceiliog yn sal wedi colli ei lais ers tro.
30, Sadwrn
Braf. Yn Cwmffynon. Hanah a Deio yn mynd i'r Pandy yn y car minos. Heffer yn dod a llo yno. Bob Rhyddefed yn dod yno dros y Sul. Dress newydd yn dod i mi o Brymers, Ffestiniog. Licio dim arni. Llo bach braf yn dod o Ffestiniog.
31, Sul
Glaw bach. Yn Cwmffynon. Bob Rhydydefed a Jack yn mynd i'r Pandy i Glanaber. Alun Jones yn pregethu. Fi yn dod adre minos. Heibio Nantbarcud a Tymawr - Bob a Mary Tymawr yn bur wanllyd. Y ceiliog wedi marw.
|
6/6/1914 | |||||||||||||||||
ardal Cynllwyd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Mary Davies, Plas, Cynllwyd (trwy law Rhys Gwynn) | |||||||||||||||||
6. Sadwrn Braf. Torri ar wyn y Garth. Cael llythyr dewyrth Dafydd yn ol. Joe yn mynd i'r efel cyn un o'r gloch. Fi yn mynd i edrych am Jennet Wernfawr i Gelligollen Llawrybetws hefo y tren 4, hwnw ddim yn stopio yn y junction. Mynd i Landrillo heb stopio - dod yn ol i'r Bala. Cael fy nghario yn car y Cwm, Bethel. Fi yn prynu het wen readymade. Sali yn cael ei het wen newydd.
|
24/6/1914 | |||||||||||||||||
ardal Cynllwyd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Mary Davies, "Y Plas" (teipysgrif trwy law RhG, yn aros am ganiatad) | |||||||||||||||||
24. Mercher Braf. Pobi bara siot at y cynhaea. Mam yn mynd i Ffestiniog tren 9 a 601b o fenyn. Cael 1/-. Mynd i Maentwrog i olwg lloi, ond yn rhy ddrud. John Cefnwyddgrug yn dod yma oddiwrth y tren 5. Cael llythyr oddiwrth Susan - dewyrth Tomos yn well eto. Tomi Brynmelyn yma at y gwair. Dechre ar y gwair. Edward Morgan Pensylvania a Dolly Brynffynon wedi marw.
|
13/7/1914 | |||||||||||||||||
Cynllwyd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Mary Davies, "Y Plas" (trwy law RhG, yn aros am ganiatad) | |||||||||||||||||
13 Llun Braf. Corddi. Dechre ceulo. Torri Caerhyg y Garth a`r injan. Cario Gweirglodd Caety. Glaw at 3 o`r gloch. Twm y Fron yn mynd i Gwmffynon i gneifio yn y bore (mynd a leg of mutton a torth). Cael llythyr oddiwrth Elin Ann.
|
17/7/1914 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Gwener 17 ? Cael llythyr o Chester. Turn Glaw mawr.
|
28/8/1914 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Gwener 28 ? Pysgota efo cwch bach. Talafon dal un wrachan. Cael llythyr gan Nel.
|
15/10/1914 | |||||||||||||||||
Cwm Cynllwyd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Mary Davies, "Y Plas", Cwm Cynllwyd (trwy law RhG) | |||||||||||||||||
15, Iau Niwl ac yn dywyll. Cyfarfod diolchgarwch. Tada a Sali adre y bore. Sall a fi adre pnawn. Clo ar y drws. Jack Cwmffynon yma at de. Mynd i Gefngwyn minos. Dod hefo ni yn y car at y Goat. Anfon pwys o fenyn i Susan i Goedyfoel. Cael llythyr oddiwrth Non Cefnwyddgrug yn cynig hwrdd i ni. Claddu Marged Tynrhos gynt. Private.
|
8/3/1915 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Llun 8 ? Dechrau palu yr ardd. Llythyr oddiwrth Williams o?r America
|
18/3/1915 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Iau 18 ? Angladd Griffith Jones y Groeslon. Bwrw cawodydd eira. Pau ? 2-1-4. Anfon llythyr at William Clwt y Bont.
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|