Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
31/3/1926 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Mercher 31 ? Turn yn gorffen symentio dechrau ail roi y teils yn y llawr. Llythyr o Clun gan Eliza. Bwrrw heddiw.
|
14/4/1926 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Mercher 14 ? Hanner. Glaw. Anfon llythyr i Eliza.
|
3/6/1926 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Iau 3 ? Llythyr oddiwrth Dick eisiau baco. Anfon baco a dwy bibell a 2/-. Hel y defaid.
|
14/6/1926 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Llun 14 ? Chwynu y tatws. Llythyr oddiwrth Dick.
|
16/6/1926 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Mercher 16 ? Chwynu bore shop newydd pnawn. Bob yn hel chwyn. Llythyr i Nell.
|
17/6/1926 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Iau 17 ? Turn yn shop newydd gosod pobty.. Bwrrw glaw pnawn. Bob yn cael llythyr oddiwrth Dick.
|
13/7/1926 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Mawrth 13 ? Dim llawer gwell. Rhoi leins yn cloc Tan y Ffordd. Llythyr oddiwrth Nell. Tywydd poeth.
|
29/7/1926 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Iau 29 ? Llythyr oddiwrth Nell. Pysgota efo Griff John. Niwl a glaw.
|
30/7/1926 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Gwener 30 ? Niwl eto chwalu cae big codi yn braf pnawn. Anfon llythyr i Nell.
|
20/8/1926 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Gwener 20 ? Niwl a glaw drwy?r dydd. Llythyr oddiwrth dyn o Ddinbych.
|
19/2/1927 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Sadwrn 19 ? Dau faich. Bwrrw glaw gyda?r nos. Llythyr oddiwrth Nell.
|
21/2/1927 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Llun 21 ? Anfon llythyr i Nell. Cael llythyr oddiwrth Maggie. Dau faich.
|
9/4/1927 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Sadwrn 9 ? Gwynt oer dal y ferlan. Llythyr oddiwrth Nell.
|
1/11/1927 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Mawrth 1 ? Turn yn Benallt. Bwrrw glaw Tedi yn gwlychu wrth ddadlwytho balks o foto Nant y Carw. Anfon llythyr i Nell.
|
29/2/1928 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Mercher 29 ? Turn yn Benallt. Bwrrw glaw. Llythyr o Clun.
|
12/3/1928 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
lun 12 ? Adref heddiw Eliza yn sal. Diwrnod oer. Anfon llythyr i Birches Clun.
|
14/3/1928 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Mercher 14 ? Turn yn gosod powltiau. Diwrnod oer. Llythyr gan Nell.
|
29/5/1928 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Mawrth 29 ? Turn. Yn Llywenan 4 dan 7. Tywydd poeth. Anfon llythyr i Nell.
|
9/6/1928 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Sadwrn 9 ? Turn. Llythyr oddiwrth Nell. Bwrrw glaw neithiwr.
|
6/9/1928 | |||||||||||||||||
rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
au 6 ? Pysgota gwrachod yn y bore fi a Tedi, John Terfyn, Willie Clwt y Bont a Cwellyn Port dal 8. Tynnu tatws. Anfon llythyr i Nell.
|
2/1/1929 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Mercher 2 ? Rhewi. Llythyr oddiwrth Eliza o Clun.
I
|
4/1/1929 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Gwener 4 ? Efo Owen yn gorffen efo?r felin. Rhew caled. Anfon llythyr i Eliza.
|
7/1/1929 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Llun 7 - Cael llythyr oddiwrth Nel yn dweud fod ei mam o dan y crudcymalau. RHT yn anfon potelad o ffisig o Fotwnnog.
|
11/2/1929 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Llun 11 ? Llythyr oddiwrth William Ty Croes. Eira mawr heddiw. Eliza wedi codi.
|
12/2/1929 | |||||||||||||||||
Rhiw | |||||||||||||||||
Dyddiadur Griffith Thomas, gwefan Rhiw | |||||||||||||||||
Mawrth 12 ? Oer ac eira heddiw. Anfon llythyr i Llywenan. Eliza wedi codi.
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|