Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
3/3/1940 | |||||||||||||||||
rhywle yn Ffrainc | |||||||||||||||||
Llythyrau Pierre le Strat | |||||||||||||||||
Aujourd'hui mes copins sont en promenade et je suis rester [sic] l'attendre le temps est efficassement [sic] tres beau mais comme il est seul dans sa piece comme infirmier il se peut qu'il ne pourra pas venir
[Nid yw lleoliad danfon y llythyr hwn wedi ei nodi (rheolau'r fyddin efallai)]
|
8/5/1940 | |||||||||||||||||
rhywle yn Ffrainc | |||||||||||||||||
Llythyrau Pierre Le Strat i'w , ac oddiwrth, ei deulu yn Llydaw (diolch i Dominig Kervegant , ei ?yr) | |||||||||||||||||
C'est lamentable de voir ce que font l'artillerie elles étaient au milieu d'un champ de blé pour tirer et les obus de l'autre extrémité tombaient naturellement en plain dans le champ. Ce sera de joli quand il faudra faucher le moisson avec des obus au milieu des champs...Il est tout quand même joli de voir la campagne au mois de mai pendant cette manoeuvre la nous avons parcouru la plaine d'une distance de soixante kilometres, souvent on regardait a perte de vue sans s'apercevoir d'un arbre Par ici il n'ont fait cette année que du blé de printemps mais il est très beau ainsi que les champs de trèf et de luzerne. En culture et en paturage ils sont très rich par ici ils ont des fermes des de deux a trois cent hectares
[Nid oedd lleoliad i'r cofnod hwn (oherwydd rheolau'r fyddin efallai) ac yn ôl llythyr 17 Gorff 1940 roedd o'n cael ei symud o un lle i'r llall yn aml.]
|
22/1/1943 | |||||||||||||||||
Padog | |||||||||||||||||
Dyddiadur D.O.Jones, Padog,Ysbyty Ifan.[gyda chaniatat papur bro Yr Odyn, a'r teulu] TJ | |||||||||||||||||
Malu gwellt gyda injan oel. Dal gydar annwyd yn fy stumog. Sgwennu 3 llythyr braf a chware cardiau. cau cwitch tatws.
Prydeinwyr 8th Army yn meddianu tref Tripoli.
|
15/12/1945 | |||||||||||||||||
Hanover, yr Almaen | |||||||||||||||||
llythyr rhyfel adref gan TO Hickebottom | |||||||||||||||||
10 milltir o Hanover.."Rushed off in a howling gale...rain I've never seen the likes of it before...I was soaked" (dyddiad 15 neu o bosib 16 neu 19 Rhag o'r marc post) [llythyr rhyfel adref gan TO Hickebottom]
|
3/3/1947 | |||||||||||||||||
Llanelidan | |||||||||||||||||
Dyddiadur Natur disgybl o Ysgol Llanelidan (diolch i Morfudd Sinclair a phapur bro Y Bedol 34 4) | |||||||||||||||||
Fy Nyddiadur Natur 1947
Dydd Llun Mawrth 3ydd - Yn ól yn yr ysgol ar ól mwy o wyliau oherwydd y rhew a'r eira. Yn ó1 y papurau dyma'r Chwefror gwaetha ers can mlynedd. Pan fydda i'n hen nain mi ddweda i wrth y plant bach, "Rydw i'n cofio yn 1947 na fedrwn i fynd i'r ysgol am fis cyfan ym mis Chwefror oherwydd yr eira trwchus a barodd am wythnosau lawer."
[Rhagarweiniad i'r dyddiadur:"Rywbryd Y llynedd fe wnaethoch gyhoeddi llythyr ynghylch hen dyddiadur natur sydd gen i ac mi ges atebion yn cadarnhau mai o ysgol Llanelidan y mae'n dod yn wreiddiol ac mai yn Ysgol Borthyn y daeth o i'm meddiant i. Ond wnaeth neb ei hawlio, felly mae'n dal yn un o nhrysorau i. Meddwl wnes i y buaswn yn ei gyfieithu ac efallai y buasech yn hoffi ei gyhoeddi - mae'r dyddiadur yn rhedeg o lonawr 8 hyd Ebrill 17, 1947, a dyma ran mis Mawrth yn unig i chi gael golwg arno. Mae lluniau hefyd ond heb gael amser i'w sganio. Cofion Morfudd Sinclair"]
|
0/6/1947 | |||||||||||||||||
Penmachno - Blaenau | |||||||||||||||||
Y Cymro 1947 | |||||||||||||||||
Dyma dystiolaeth cadarn o Gymru am fewnfudo’r rhywogaeth hon [y GWYN MAWR] yn yr anecdót hwn yng ngolofn TG Walker yn Y Cymro (1947) [4]: “Y GLOYNNOD byw a adwaenir yn Saesneg wrth yr enw Cabbage White sydd dan sylw yn y llythyr a ganlyn:— ‘Ni wn i ar y ddaear a fedraf wneud i neb goelio y peth yma; ond hwyrach o ran hynny ei fod yn beth digon cyffredin mewn rhai mannau. Er bod hyn wedi digwydd tua Mehefin neu Orffennaf 1947, y mae`r olygfa yn dal hefo mi o hyd, ac yr wyf am gael gwared o`r dyfalu trwy ofyn i chwi am eglurhad. Noson hafaidd ydoedd, tua chwech o`r gloch, minnau mewn mangre unig ar y mynydd rhwng Penmachno a Blaenau Ffestiniog, rhyw 1500 troedfedd uwchlaw`r mor. Eisteddwn mewn edmygedd o`r unigrwydd a`r tawelwch, a dim byd i dorri ar y tawelwch ond bref ambell ddafad. Yna, sylwais ar loywod byw, y brid hwnnw svdd yn gymaint gelyn i`r garddwr a`i gabaits, y rhai gwynion. Sylwais yn fwy manwl; ac yn wir, nid oedd modd peidio a sylwi erbyn hyn, oherwydd daethant fel cawod o blu eira, hwythau oll yn hedfan o`r un cyfeiriad ac yn mynd i`r un cyfeiriad. Barnaf mai o`r gogledd a thua`r dehau y cadwasant eu cwrs. Yr oedd yn ddiddorol i`w gwylio. Pan oedd un gawod ohonynt yn teneuo a bron cilio, fe ddeuai mintai, arall i`r golwg. Gwelais gannoedd ar filoedd yn pasio heibio yn ystod rhyw ddwy awr o amser. Ni welais yr un ohonynt yn disgyn ar y grug nac ar y ddaear o gwbl. Yr oedd gennyf wydrau prismatig nerthol, ac yr oeddwn yn dewis un fintai a`i dilyn cyn iddi fy nghyrraedd ac yna ei dilyn ar ol iddi fynd heibio imi. Y rhvfeddod mawr mi ydoedd gymaint eu nifer, y naill fintai yn dilyn y llall,a phob mintai oddeutu chwarter milltir o led, a chreaduriaid mor wantan a`r rhain yn gallu dal ar yr adain am gymaint pellter, y pellter yr oeddwn i yn medru eu dilyn trwy`r gwydrau, achos ni welais yr un ohonynt yn codi oddi ar y ddaear nac yn disgyn ychwaith. Hwyrach eto ei bod yn anodd credu`r stori. Beth bynnag am hynny. mae`n berffaith wir; ac am ei bod yn wir, y mae fel problem ar fy meddwl ers dros dair blynedd yn disgwyl am esboniad’.”
|
0/7/1947 | |||||||||||||||||
Migneint? | |||||||||||||||||
Colofn TG Walker Y Cymro (1951?) (dyfyniad o lythyr di-enw) | |||||||||||||||||
Y GLOYNNOD byw a adwaenir vn Saesneg wrth yr enw Cabbage White sydd dan sylw yn y llythyr a ganlyn :— Ni wn i ar y ddaear a fedraf wneud i neb goelio y peth yma; ond hwyrach o ran hynny ei fod yn beth digon cyffredin mewn rhai mannau. Er bod hyn wedi digwydd tua Mehefin neu Orffennaf 1947, y mae`r olygfa yn dal hefo mi o hyd, ac yr wyf am gael gwared o`r dyfalu trwy ofyn i chwi am eglurhad.
Noson hafaidd ydoedd, tua chwech o`r gloch, minnau mewn mangre unig ar y mynydd rhwng Penmachno a Blaenau Ffestiniog, rhyw 1500 troedfedd uwchlaw`r mor. Eisteddwn mewn edmygedd o`r unigrwydd a`r tawelwch, a dim byd i dorri ar y tawelwch ond bref ambell ddafad. Yna, sylwais ar loywod byw, y brid hwnnw svdd yn gymaint gelyn i`r garddwr a`i gabaits, y rhai gwynion. Sylwais yn fwy manwl; ac y? wir, nid oedd modd peidio a sylwi erbyn hyn, oherwydd daethant fel cawod o blu eira, hwythau oll yn hedfan o`r un cyfeiriad ac yn mynd i`r un cyfeiriad. Barnaf mai o`r gogledd a thua`r dehau y cadwasant eu cwrs. Yr oedd yn ddiddorol i`w gwylio. Pan oedd un gawod ohonynt yn teneuo a bron cilio, fe ddeuai mintai, arall i`r golwg. Gwelais gannoedd ar filoedd yn pasio heibio yn ystod rhyw ddwy awr o amser. Ni welais yr un ohonynt yn disgyn ar y grug nac ar y ddaear o gwbl. Yr oedd gennyf wydrau prismatig nerthol, ac yr oeddwn yn dewis un fintai a`i dilyn
cyn iddi fy nghyrraedd ac yna ei dilyn ar ol iddi fynd heibio imi. Y rhvfeddod mawr mi ydoedd gymaint eu nifer, y naill fintai yn dilyn y llall,a phob mintai oddeutu chwarter milltir o led, a chreaduriaid mor wantan a`r rhain yn gallu dal ar yr adain am gymaint pellter, y pellter yr oeddwn i yn medru eu dilyn trwy`r gwydrau, achos ni welais yr un ohonynt yn codi oddi ar y ddaear nac yn disgyn ychwaith. Hwyrach eto ei bod yn anodd credu`r stori. Beth bynnag am hynny. mae`n berffaith wir; ac am ei bod yn wir, y mae fel problem ar fy meddwl ers dros dair blynedd yn disgwyl am esboniad.
|
21/7/1947 | |||||||||||||||||
Ty Uchaf, Padog | |||||||||||||||||
Dyddiadur DO Jones, Padog (o deipysgrif electronig, gyda chaniatad y teulu) DB | |||||||||||||||||
21. Godro. Mynd i Llanrwst yn y pnawn i nol neges, prynu esgidiau brown newydd.Anfon llythyr i America i Mr Richiard G.Jones,2627 Helen St Seattle,Washinghton. Gorffen trin maip yn cae llwybr. Tanu gwair a rhedyn yn cae crwn. tywydd gwlyb.
|
24/11/1947 | |||||||||||||||||
Ty Uchaf, Padog | |||||||||||||||||
Dyddiadur DO Jones, Padog (o deipysgrif electronig, gyda chaniatad y teulu) DB | |||||||||||||||||
24. Mynd i ddyrnu yn T? Nant yn y gwellt. Gwerthu Queen yr eboles i Mr W.H.Roberts Bryn Bras am £15.0.0d. Cael llythyr o America o Butte, Montana.
|
1/9/1948 | |||||||||||||||||
Padog,Ysbyty Ifan | |||||||||||||||||
Dyddiadur D.O.Jones, Padog Ysbyty Ifan, [gyda chaniatad papur bro Yr Odyn a'r Teulu] mewnbwn T.J. | |||||||||||||||||
Godro, torri ca llwyd hefo'r injan ar wedd, dau ddaliad, un yn y bore ar llaa gyda'r nos. Cael llythyr i ddweud fod y gwartheg wedi pasio y test.
|
2/11/1949 | |||||||||||||||||
Ty Uchaf, Padog | |||||||||||||||||
Dyddiadur DO Jones, Padog (o deipysgrif electronig, gyda chaniatad y teulu) DB | |||||||||||||||||
2. Derbyn llythyr o America. Talu am galch i W.E.Hughes, Plas Iwrwg [sic iorwg], Llanrwst. Danfon Mrs Roberts i Blaen Eidda Isaf.
|
3/12/1949 | |||||||||||||||||
Ty Uchaf, Padog | |||||||||||||||||
Dyddiadur DO Jones, Padog (o deipysgrif electronig, gyda chaniatad y teulu) DB | |||||||||||||||||
[2. Derbyn llythyr o America.]
3.Godro, colli y lori laeth. Mynd i Sbyty i nol neges ac i bostio calenders i 719 Maryland Ave, Butte, Montana, USA. Gweld ffilm yn Llanrwst The Blue Lagoon. Drycin, ystormus, llif .
|
27/7/1953 | |||||||||||||||||
Rome | |||||||||||||||||
llythyr RCAMWM | |||||||||||||||||
llythyr at Mary (Parry) am Garreg Fawr yn sylwi "I am now getting ready for my visit to Italy, though I read with some apprehension that Rome is in the throws [sic] of a heatwave with shade temperatures of about 95 degrees [fahrenheight] Peter Smith
|
26/1/1954 | |||||||||||||||||
Padog | |||||||||||||||||
Dyddiadur DO Jones, Ty Uchaf, Padog (gyda diolch i`r teulu) | |||||||||||||||||
26. Eira , rhewi. Oer. Carthu y beudy. Cerdded at bont Penmachno, cael lifft i Llanrwst hefo Parch Brymor Jones Ysbyty i Llanrwst. Dod adra ar bws pedwar i Padog, anfon llythyr i`r Draw i Heddlu Gwynedd. Tynnu dwr o`r car a`r tractor. Llithrig.
|
2/2/1954 | |||||||||||||||||
Llys Myfyr, Groeslon | |||||||||||||||||
Dyddiadur y Parch. John Richards XM12309 | |||||||||||||||||
Pobman yn wyn hefo barrug ac eira wedi rhewi yn galed. Rhai mannau yn ein gwlad a thrwch o dros fodfedd o eira yn ei gorchuddio...[llythyr o Amsterdam - cefnder Albert Edward Price] cwyno fod yr hin yn ddifrifol yn Europe
|
28/8/1954 | |||||||||||||||||
Padog Ysbyty Ifan | |||||||||||||||||
Dyddiaduron D.O.Jones gyda diolch i`r teulu. mewnbwn A.J. | |||||||||||||||||
Tori gwaelod cae tan wal. Tanu a cario llwyth trol cae ty i`r helm wair. Cwlasu. Mynd i Penmachno a llythyr dipio i`r plisman. Mynd i Llanrwst ac i`r Helmydd at Brenda. Braf, heulog, teg.
|
10/9/1954 | |||||||||||||||||
Padog Ysbyty Ifan | |||||||||||||||||
Dyddiaduron D.O.Jones gyda diolch i`r teulu. mewnbwn A.J. | |||||||||||||||||
.Gaeafol, oer, cawodydd. Godro, Mynd i bostio llythyr i Padog. Nol dwr glan o wern isa hefo tractor . Glaw trwm, tywydd anobeithiol tu hwnt i ddeall dyn.
|
10/8/1955 | |||||||||||||||||
Padog, Ysbyty Ifan | |||||||||||||||||
Dyddiaduron D.O.Jones Padog, Ysbyty Ifan. Trwy garedigrwydd y teulu. [Mewn bwn gan Tom Jones] | |||||||||||||||||
10. Dechrau trin y sweds. Chwynu yr ardd yn y cae. Pricio runner beans. Sgwenu llythyrau, Mynd i Padog i bostio 4 llythyr. Mwllwch, trymedd.
|
14/1/1956 | |||||||||||||||||
Padog Ysbyty Ifan | |||||||||||||||||
Dyddiaduron D.O.Jones, Padog Ysbyty Ifan. {Gyda chaniatad y teulu} [mewnbwn T.J.] | |||||||||||||||||
Mynd at y doctor hefo`r annwyd, cael potel ffisig a mynd ar y panel. Llifio a thori coed. Mynd i Padog i bostio llythyr. Oer, cawodydd, cymylog, gwlyb.
|
3/8/1956 | |||||||||||||||||
Padog, Ysbyty Ifan | |||||||||||||||||
Dyddiadur DO Jones, Padog (o deipysgrif electronig, gyda chaniatad y teulu) BJ | |||||||||||||||||
Mynd a llyfrau y neuadd i’r auditors, postio llythyr i Garner Evans yngl?n ar neuadd.
|
3/8/1956 | |||||||||||||||||
Padog, Ysbyty Ifan | |||||||||||||||||
Dyddiadur DO Jones, Padog (o deipysgrif electronig, gyda chaniatad y teulu) BJ | |||||||||||||||||
Mynd a llyfrau y neuadd i’r auditors, postio llythyr i Garner Evans yngl?n ar neuadd. Gosod gwesti yn yr afon, rhoi sangral yn yr ardd. Gosod ystyllen ar y siderake. Gwlyb iawn, manlaw, gwlithog.
|
13/2/1957 | |||||||||||||||||
Padog,Ysbyty Ifan. | |||||||||||||||||
Dyddiadur DO Jones, Padog (o deipysgrif electronig, gyda chaniatad y teulu) BJ | |||||||||||||||||
Mynd i Padog i bostio llythyr. Gwneud llidiart hefo hen beips dwr. Barddoni, oer, cymylog a eirlaw.
|
29/5/1958 | |||||||||||||||||
Padog, Ysbyty Ifan | |||||||||||||||||
Dyddiadur D O Jones, Padog (o deipysgrif electronig, gyda chaniatad y teulu) BJ | |||||||||||||||||
Mr Morris Caernarfon yma yn newid contract y llaeth, anfon llythyr i Wrecsam ac i J.Richard, vet. Peintio giât cefn a pheintio ffenestri a bondo’r porch. Cymylog, clos, trwm.
|
0/0/1959 | |||||||||||||||||
Ynys Enlli | |||||||||||||||||
Llythyr Brenda Chamberlain | |||||||||||||||||
Dyddiad yn seiliedig ar dystiolaeth amgylchiadol (FB Dewi Lewis): “Bardsey…. After a completely drought-ridden summer when there was almost no water available on the island, we are now wading through waterlogged fields. Thank goodness the house itself is dry”
|
0/11/1959 | |||||||||||||||||
Ynys Enlli | |||||||||||||||||
Brenda Chamberlain >> Dewi Lewis FB | |||||||||||||||||
After a completely drought written summer, when there was almost no water available on the island, we are now wading through waterlogged fields. Thank goodness the house itself is dry. [Amcan DL o’r dyddiad: “Mae yna lythyr arall yn ddyddiedig 25 o Hydref 1959 mae'r llythyr uchod wedi'r dyddiad yna oherwydd mae'r ddau lythyr yn cyfeirio at y llyfr "Jiving to Gyp". Dechrau tachwedd 1959 swn i'n tybio”. Kington 2010: 10th of October: “Cyclonic situation, drought broken by the first general fall of rain over England for several months”.]
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|