Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
13/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

 Dydd Sul Diwrnod mwll yn gwlitho ychydig yn y Prydnhawn. Fi yn mynd i'r Llan yn Ciniawa y mhenmorfa efo Richd Thomas a Mr. Holland y Person yn dwad adref erbyn Tea


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun Gwlaw trwm a Dryghinllyd ar hyd y Dydd Will yn gwneud rhaffa a Guto yn gwneud Panelau.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd mawrth Diwrnod niwlog ac yn bwrw peth gwlaw Y Meibion yn torri anialwch yn blaenycoed Fi yn mynd i Gynhebrwng Dafydd Humphrey'r Borthygest i'r Ynus gunhaiarn ac yn dwad adref cyn y nos.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher Diwrnod niwlog mwll ac heb fwrw dim Y Meibion yn torri anialwch Willyn settio'r Cloddia Y Bachgen yn mynd i'r Efail i nol heirns at ofergarfanau y Drol ac heb eu cael i gyd. Fi yn gwerthu Maharen i Robt Jones Gorllwyn am Ddeuddeg swllt Owen Robert Porthmon yn galw yma finau heb fod yn Ty - Siani wedi bod yn y Factory y Garn yn ymofyn rholia


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd iau Diwrnod dryghinllyd yn y boreu mwll a theg at ganol dydd. Y Meibion yn torri anialwch. Fi yn mynd i Bwllheli i'r Correcsiwn ac yn mynd i Langyby y noson


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd gwener. Yn bwrw gwlaw yn y boreu ac yn deg braf at y Prydnhawn Fi yn dwad adref o Langybi. Yn dechreu Medi y Gwenith Fi yn mynd i Dremadoc i'r Farchnad ac yn mynd heibio i Tanrallt i ymofyn arian dau hobad o Wenith. Ffowlar Mr. Gore yn dwad efo mi adref i nol benthyg gwn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn. Yn bwrw cawodydd yn y boreu, ac yn deg braf at y Prydnhawn Y Meibion yn medi gwenith Fi yn mynd i Langybi


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul Diwrnod teg Fi yn Llangybi ac yn dyfod adref yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun. Diwrnod teg. Y Buchod yn mynd i flaen y coed. Y chwech bustach yn mynd i Gaegoronw ucha. Y tair Heffer yn mynd i'r Morfa at y Tarw. Y Meibion yn gorphen Medi y gwenith Ffair y Mhenmorfa Fi yn mynd yno. Y 2 ddynewad yn mynd i ffwrdd ac yn cae[sic] arian yn eu lle yndwad adref erbyn deg. Robt Wynne Cefncymerau yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mawrth Diwrnod teg ac yn chwthu yn drwm o'r dwyrain. Robt Wynne yn mynd i ffwrdd yn foreu. Owen Robert Tynllwyd yma yn cymmell tri dynewad gwrw. Fi yn mynd yno ac yn prynu'r Tri, dau ohonynt yn dyfod yma y llall yn aros yn i'w yspaddu yn talu unbuntarddeg am danunt. Y Meibion yn lladd Haidd hyd amser Ciniaw yn mynd wedi i gneifio'r Wyn.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher Diwrnod teg Sych Fi yn mynd i Gaernarfon i'r Sesiwn y Meibion yn torri yr Haidd yn y Morfa Du yn mynd a thri o'r Ceffyla i Efal [sic] Sion Evan. Elin a Betsan yn dwad i Gaernarfon


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd iau. Yn debygu i wlaw ac yn dwad i fwrw gwlaw trwm yn y Prydnhawn. Y Meibion yn carrio'r Gwenith Fi yn nghaernarfon


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd gwener Gwlaw trwm Fi ynghaernarfon ac yn dwad adref rhwng naw a deg o'r gloch y nos yn cael fy ngwlchu yn drwm o ben y Waen fawr i Bettws


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn Diwrnod teg ac yn bwrw Cawodydd  Y Meibion yn torri anialwch yn y boreu ac ar ol ciniaw Sion Morris a Guto yn mynd i'r llain hir i ddechreu lladd Ceirch. Will yn trwsio'r helmi Gwenith. Yn rhoi math o Garchar ar y Tarw rhag iddo fynd tros Gloddiau Cawodydd trymion yn y Prydnhawn a rhai Taranau Prentis Richd Robert Crydd Tremadoc yma'n danfon Esgidia newyddion i mi


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul Diwrnod teg Dafydd y Baili yn dwad yma a chenad oddiwrth Mr. Williams Penrhos imi i fynd i Sesiwn Beaumaris. Fi yn mynd i Gaernarfon ac yn cysgu y nhy Robt Griffith


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

 llun. Yn bwrw Cawodydd trymion yn y boreu. Fi yn mynd i Beaumaris y boreu. yn gorfod dwad yn fy o^l i Gaernarfon i ymofyn Ellin a Betsan. Yn Beaumaris yn fy o^l erbyn saith o'r gloch y Prydnhawn. Fi yn cysgu yn arwydd y Tarw ef Mr. Wm. Jones Tyddyn Elen. hwythau yn cysgu mewn Ty^ Cyfrinachol


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mawrth. Diwrnod teg. Elin Betsan Mr. William Jones Tyddyn Elen a Miniau[sic] yn dyfod o'r Beaumaris i Fangor ar ein Traed erbyn nos ac yn dyfod oddiyno yn y Car i Gaernarfon erbyn deg o'r Gloch y nos. Yn cysgu y nhy Robt Griffith.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher. Yn bwrw rhai Cawodydd. Fi yn dyfod adref yn ymdroi y nhy Mr. Owen Aberglaslyn ac gartref cyn y nos.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
31/8/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd iau Diwrnod teg brâf. Y Meibion yn Cynull yr Haidd yn y Morfa. Robt Griffith y Saer yn dyfod yma. Yn  Taranu'n drwm iawn o gwmpas dau o'r gloch a bwrw Cawod drom. Cathrine Humphrey'r Borth fechan yma'n prynu Cosun pymtheg Pwys am dair Ceiniog a dimeu'r pwys. Robt Sion Hendrahowel yma'n medi ac yn cynull.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd gwener Diwrnod distaw gwresog. Y Meibion yn lladd Ceirch yn y Morfa yn y boreu. y Prydnhawn yn Cynull Haidd yn y Morfa Fi yn mynd i Dremadoc i'r Farchnad ac yn mynd ir Efail i beru gwneud heurns at y Wintill


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn Diwrnod gwresog yn y boreu, yn bwrw Cawod o wlaw yn y Prydnhawn. Mr. Gore dyn arall a Mr. Williams y steward yn dwad yno wedi bod yn Ffowlio ac yn mynd i ffwrdd heb ymdroi dim Fi yn cael y gwn neweydd [sic] oeddwn wedi ei roi'n fenthig i ffowliar Mr. Gore i Dyfod adref Fi yn  talu i Drafaeliwr Mr. Cross Caer am Liquor


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul Diwrnod teg bra^f. Wm. Robert gwas Mr. Bidwell Tanrallt yn dwad a buwch at y Tarw. Mr. Owen Abergla^slyn yma y Prydnhawn Mudan Ffestiniog yma'n Cael llety


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun. Gwres mawr. Y Buchod yn mynd i'r Henerw troi'r Fuwch frech a'r Tarw oddiwrthynt yw pesgi, Y gwartheg hesbion oedd yn Hafod y budredd Deg ohonynt yn mynd i'r Cae glas a chwech i'r Morfa ucha. Y Meibion yn gorphen tori Ceirch y Morfa ac yn gorphen Cynull yr Haidd ac ar o^l hanner Dydd yn mynd i gynull Ceirch i'r llain hir a gwernclowna.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mawrth Diwrnod gwresog iawn Fi efo Sioncin yn troi'r chwech Bustach o Gaegoronwy ucha i'r isa. Sion y Clochydd yma yn nol Arian oedd yn dwad iddo am lanhau'r Llan. Y Meibion yn gorphen lladd y^d y Gelliwastad a'r Caecanol Fi efo Robt Griffith y Saer yn gosod y Wintill yn y Sgubor Robt. Hendrahowel yma'n Degymu'r Haidd, a cheirch Gwernclowna a'r Llainhir


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher Gwres mawr. Y Meibion yn carrio Haidd o'r Morfa Fi yn mynd i Dremadoc i nol lliain a strap at Wintill Yn codi hen lofft y Parlwr ac yn Dechreu rhoi lloft newydd. Robt. Lloyd Fowliwr Mr. Gore yma a rhew ddyn dieithr efo fo yma wedi bod yn ffowlio. Tri o Lanhawyr Simneau  yn glanhau simneu y llawr Clips mawr ar yr haul nid oedd i'w weled ond ychydig cyn ei ddiwedd o ran ei bod yn ddwl ac yn bwrw peth gwlaw. Y Meibion yn dechreu cynull Ceirch y Morfa. Mr. Owen Aberglaslyn yma nol benthig yr Yspienddrych ac yn gofyn i minau ddwad efo fo at Lyn y Gadair tu ucha i Feddgelert i saethu hwyad gwylltion


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax