Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
28/9/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw trwm hyd hanner dydd teg yn y Prydnhawn. Fi wedi bod y Nghriccieth mewn cyfarfod Ustusiad, dim Ustusiad yno yn ymdroi peth y Mhenmorfa wrth ddwad adref Cyfarfod yno yngylch y Mynyddau
|
29/9/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener. Diwrnod dwl sych Fi wedi bod y Nghriccieth yn Ciniaw Gwyl Mihengel
|
30/9/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod dwl sych Fi wedi bod y Mhenmorfa efo Mr. Williams o'r Benar. Yn rhoi rhybydd iddo fy mod yn rhoi fy Ffarm i fynu iddo
|
1/10/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod dwl sych
|
2/10/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnoddwl sych. Fi wedi yn TyddynyGwynt efo Robert Risiart Tremadoc yn gwerthu Coed Ynn oedd wedi eu torri yno iddo. Y Meibion yn trwsio Dâs Gwair y Beudy ucha, oedd y Gwynt Ddydd Sadwrn wedi ei dorri
|
3/10/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod sych. Wil Williams yn rhaffio Das gwair y Beudy ucha. Y ddau arall yn Toi Dâs mawn Caegronw ucha
|
4/10/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod Sych. Wil Williams yn darfod rhaffio Dâs gwair y Beudy newydd, y fo a Gutto yn mynd ar ol Prydnhawnbryd at y Clawdd i'r Tymawr. Dafydd yn dechreu Dyrnu Ceirch Du Fi wedi bod y Mhenmorfa y Nghynhebrwng Mary Evan Cefnyfanedd
|
5/10/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod dwl sych. Wil a Gutto efo'r Clawdd yn y Tymawr Dafydd yn Dyrnu Ceirch Fi yn mygu'r Gwenun [sic]
|
6/10/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod dwl sych. Wil a Gutto efo'r Clawdd yn y Tymawr Dafydd yn Dyrnu Fi wedi bod yn y Farchnad y Nhrefmadoc
|
7/10/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod dwl sych gwyntog. Y Meibion yn Nithio'r Ceirch du i gyd Yn cael pedwar sachaid bychain oddiwrth hanad pump Pegiad. Y gwres mawr yn yr haf wedi effeithio cymmaint arno. Yn gyru'r Helm Wenith bach i'r 'Sgubor. gwlaw yn yr hwyr
|
8/10/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod dwl sych yn y boreu gwlaw trwm at y Prydnhawn. Fi wedi bod yn Aberglaslyn yn edrych am Mr. Owen oedd yn sâl gan y Crynu
|
9/10/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod cymylog sych. Dafydd yn dyrnu Gwenith. y lleill efo'r Clawdd yn y Tymawr
|
10/10/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod dwl budr ac yn bwrw gwlaw agos ar hyd y dydd. Dafydd yn Dyrnu Gwenith y lleill beth efo'r Clawdd yn y Tymawr.
|
11/10/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod dwl sych yn y boreu, bwrw gwlaw mân yn y Prydnhawn. William Robert y Marchogwr ai Fab yma'n torri Cloran y Gaseg Fflower. Dafydd yn Dyrnu Gwenith. Y lleill efo Clawdd yn y Tymawr. Fi wedi bod yn Maencloi darn o hono
|
12/10/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau. Diwrnod dwl budr ac yn bwrw gwlaw mân ar hyd y dydd. Gutto wedi bod a Fflower yn Efail Sion Evan. Yn Nithio Gwenith. Sion Robt. Evan yn dwad yma i fynd i edrych y clawdd Terfyn rhwng Mr. Gore a Mr. Parry y Mhen isa'r Mynudd. Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma'r nos i fynd i Ffair Gaer
|
13/10/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod sych teg Dafydd yn Dyrnu Ceirch. Y lleill efo'r Clawdd yn y Tymawr. Fi wedi bod yn Maencloi peth o honi. William Owen o'r Gwyndy a'i Wraig yma. Fi heb fod yn y Farchnad!!!
|
14/10/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod sych teg. Dafydd yn Dyrnu Ceirch Gwyn y lleill efo'r Clawdd yn y Tymawr. Fi wedi bod yn hel y Dreth Eglwys. Elin wedi bod y Nhremadoc
|
15/10/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul. Diwrnod dwl sych mwll. William Owen Llidiartysbyth yma. Elin wedi bod yn y Dref mewn Pregeth.
|
16/10/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun. Diwrnod sych teg. Y Meibion yn dechreu tynu Cloron at eu Cadw
|
17/10/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod sych teg gwyntog. Y Meibion wedi bod yn y Reiniog yn nol y Llwyth Mawn cyntaf eleni. Yn mynd wedi i dynu Cloron at eu Cadw Tomos William Llidiart y Cwpwl a Robert y Siop yma'n torri polion Ynn i fynd i'r Pennant Fi wedi bod a'r Ebol coch yn Efail Sion Evan, Yn dwad trwy Benmorfa adref
|
18/10/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod sych teg. Y Meibion wedi bod yn Reiniog yn nol llwyth o Fawn yn mynd wedi i dynu Cloron at eu Cadw i'r Caelleppa isa
|
19/10/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw beth o'r Dwyrain. Y Meibion wedi bod yn y Reiniog yn nol llwyth o Fawn. Yn darfod tynu Cloron yn y Caelleppa isa, ac yn dechreu yn Cae'r Hendra.
|
20/10/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod dwl sych. Y Meibion wedi bod yn y Reiniog yn nol llwyth o Fawn, yn mynd wedi i dynu Cloron at eu Cadw. Elizabeth Griffith Llangybi yn galw yma wrth fynd adref o Ffair Gaer. Fi wedi bod y Nhref Madoc yn y Farchnad
|
21/10/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod sych mwll. Y Meibion wedi bod yn y Reiniog yn nol llwyth o Fawn, Yn dwad a'r ddwy Ferlan efo hwy o'r Mynudd i'r Caea. Yn mynd wedi i dynu Cloron
|
22/10/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul. Diwrnod sych mwll wedi bwrw Cawod o wlaw yn y boreu, Goleuo Mellt a tharana peth efo'r nos, Gutto yn dal Ceinach ieuangc y mlaenycoed
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|