Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
23/10/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod dwl ac yn bwrw cawodydd trymion, Ffair y Nghriccieth. Fi wedi bod yno. Mr. William Roberts Twrna o Gaernarfon a'i Wraig yn dwad yma. Y Meibion wedi bod yn y Reiniog yn nol llwyth o Fawn. Evan James yn dwad yma i weithio


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/10/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod dwl ac yn bwrw Cawodydd trymion. Mr. William Roberts ai Wraig yn mynd adref. Y Meibion wedi bod yn y Reiniog yn nol llwyth o Fawn. Yn mynd wedi i dynu cloron.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/10/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod dwl sych. Y Meibion wedi bod yn y Reiniog yn nol y Llwyth Mawn diwaethaf ac yn danfon Mawn i'r Odyn. ddau bron


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/10/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau. Diwrnod dwl ac yn bwrw cawodydd trymion o'r Gogledd. Y Meibion wedi bod y boreu yn tynu Cloron yn Cae'r Hendra. Yn mynd wedi i gau rhwng y Caea porfa a'r Caea Adladd. Dafydd yn dyrnu Ceirch gwyn. Fi yn prynu gwerth deunaw ceiniog o Benwaig, deuddeg am chwech cheiniog


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/10/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener. Diwrnod dwl wedi bwrw gwlaw'n drwm iawn trwy'r boreu. Y meibion yn cau rhwng Caea Gwair a'r Caea porfa. Fi yn mynd i'r Tynlon


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/10/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod sych gwyntog. Y Meibion yn tynu Cloron. Fi yn Tynlon a Llangybi


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/10/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod dwl claiar ac yn bwrw peth gwlaw mân weithia. Y Meibion yn tynu Cloron yn Cae'r hendra y boreu, yn mynd wedi i hel y Defaid i'r Caea heb eu Cneifio, yn gyru pedwar a thrigain o Fyllt i Gaegronw.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
31/10/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod dwl sych. Y Buwchod yn dwad o'r Morfa i Flaenycoed, a'r Lloia i Wernclowna. Y ddwy Fuwch dew i'r Caealleppa a'r Cae main. Y Ceffyla a'r Gwartheg Hespion i gid yn mynd i'r Morfa. Y Meibion yn tynu Cloron. Fi wedi bod yn Tremadoc


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/11/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher. Diwrnod dwl ac yn bwrw Cawodydd trymion o'r Gogledd. Y Meibion yn tynu Cloron yn Cae'r hendra at eu Cadw.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/11/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod dwl sych. Y Meibion yn darfod tynu Cloron at eu cadw. Fi wedi bod yn Penmorfa mewn Festri. Gwen Williams Caeddafydd yn dwad yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/11/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod sych. Y Meibion yn gwneud y Cloron yn Ddas yn Ardd pen ucha Hendratyfi. Magdalen Robins Cefncynferch yma. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/11/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod sych gwyntog. Yn Cneifio. Nansi Caeddafydd yn dwad yma. Gwen yn mynd efo hi adref. Gutto wedi bod yn y Plashen efo'r Doctor yn nol Ffisig i Elin oedd yn sal. Y chwech bustach at y Gwanwyn yn myn [sic] o'r Morfa i Weirglawddia'r Tymawr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/11/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul. Diwrnod dwl sych. Gutto wedi bod yn y Plâshen yn nol y Meddyg Williams at Elin


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/11/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun Diwrnod cymylog ac yn bwrw Cawodydd trymion efo'r nos. Y Meibion yn Toi'r Dâs Cloron Gutto wedi bod yn y Towyn yn nol Galwyn o Boethlyn. Y Meddyg Williams o'r Plashen a fy Mam ynghyfraith yn dwad yma. Mrs. Jones Shop Tremadoc yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/11/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth Diwrnod sych distaw, wedi bwrw Eira tew hyd bennau'r Mynyddau. Y Meibion yn Cau rhwng y Caea Porfa a'r Caea Gwair Fy Mam ynghyfraith yn mynd adref ac yn mynd heibio i'r Plashen i Ofyn i'r Meddyg Williams ddwad yma at Elin oedd yn sâl. Yn gyru Gutto wedi i'r Plashên ar ei ol, yma rhwng saith ac wyth o'r Gloch. yma hyd rhwng deg ac unarddeg o'r Gloch o'r nod, Pan yr ymadawodd Elin a'r hen Fyd hwn ar ol byrr salwch

[Mae'r cofnod uchod wedi amgylchynnu gan blwch ddu]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/11/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher. Diwrnod sych. Fy Mam ynghyfraith a Cattrin Thomas Bryn yr Hydd yn dwad yma efo'r twyll nos


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/11/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod sych teg. Owen Owens wedi bod yn Trawsfynudd yn nol yr Elor Gerbyd, Morris Jones Tremadoc wedi bod yn Llangybi yn gorchymun Parrottoi torri Bedd i Elin. Fy Mam ynghyfraith a Cathrine Thomas yn mynd adref


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/11/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw trwm yn y boreu. Robert Prisiart a'r Meibion yn dwad a'r ARCH yma yn y boreu. Fy Ewythr Tyddynygwynt a fy Nghefnder Griffith Ellis o Benarth yn dwad yma. Fy Mam ynghyfraith, Sion Thomas Bryn yr hydd a Griffith Owen Llangybi yn dwad yma.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/11/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sadwrn Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw'n drwm yn y Prydnhawn. DYDD CLADDEDIGAETH fy Ngwraig ELIN. Cychwynasom oddiyma wyth o'r Gloch y boreu, yn Llangybi rhwng hanner dydd ac un o'r gloch

[Gadewyd gofod ar ôl y cofnod uchod]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/11/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Sul Diwrnod sych lled oer. Fi yn Llangybi a'r Tynlon, gartref erbyn saith o'r gloch y nos


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/11/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

llun. Diwrnod dwl budr ac yn bwrw gwlaw agos ar hyd y dydd. Ffair y Mhenmorfa  fi heb fod yno


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/11/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mawrth. Diwrnod dwl oer ac yn bwrw cawodydd trymion, Y Gweinidogion yn ymadael i gid ond Dafydd a Mari sydd yn aros yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/11/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Mercher Diwrnod dwl oer ac yn bwrw Cawodydd trymion. Sion Hugh yn dwad yma i ddyrnu. G Griffiths o'r Gesail wedi bod yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/11/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Iau Diwrnod dwl sych. Sion Hugh yn Durnu [sic] Sion Hugh Drwsyrymlid yn dwad yma efo'r hwyr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/11/1826
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Gwener Diwrnod dwl sych. Sion Hugh yn dyrnu Ceirch. Dafydd yn dechreu hel Gwiail. Evan James yn galw yma Harry Owen yma yn edrych y Môch


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax