Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
18/11/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod sych teg Sion Hugh yn dyrnu. Dafydd yn hel gwiail
|
19/11/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod sych dwl lled oer.
|
20/11/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl sych. Sion Hugh wedi mynd a llythur i Mr. Williams i Dolgelley. Dafydd wedi bod yn Trawsfynudd, achos iddo roi papur£5 punt yn lle papur punt i ddyn oddiyno wrth newid y Nhref Madog Ffyn galw yma ac ymdroi peth efo hwyrair Galanmai diwaethaf. Y Meddyg Williams o'r Plashen
|
21/11/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod dwl distaw sych. Dafydd yn hel gwiail. Sion Hugh yn dwad adref o Ddolgelley. Fy Nghefnder Richard Ellis o Benarth a fy Nghefnither Mary Ellis yn dwad yma efo'r nos
|
22/11/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod dwl distaw sych. Sion Hugh yn dyrnu. Dafydd yn hel gwiail. Mr. Williams o'r Towyn yn galw yma efo'r hwyr
|
23/11/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Diwrnod dwl sych. Sion Hugh yn dyrnu. Fi yn cychwyn ar ol Ciniaw i Langybi i fynd i Gaernarfon y foru [sic]. Fy Mam ynghyfraith yn fy nghyfarfod wrth Ystumllyn. yn troi yn fy ol efo hi ac yn dwad adref yn fy ol
|
24/11/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Diwrnod dwl ac yn dwad i fwrw Cawodydd trymion o Eira yn y Prydnhawn. Fy Mam ynghyfraith yn mynd adref. Fi yn mynd i Gaernarvon i Brintio Cyhoeddiad fy Anifeiliad ar werth. Yn cysgu yn arwydd yr Afr
|
25/11/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod dwl ac yn bwrw Cawodydd. Eira tew hyd y Mynyddau Fi yn dwad adref o Gaernarfon. Sion Hugh yn dyrnu
|
26/11/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul. Diwrnod dwl ac yn bwrw Cawodydd
|
27/11/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl ac yn bwrw eira'n drwm hyd hanner dydd. Dafydd Lloyd o'r Ty Oby[Obry?] yn dwad. Fi yn mynd efo fo i Dremadoc. Sion Hugh a Dafydd wedi bod y Nghynebrwng hen Wraig Glangors yn Ynuscynhaiarn [sic]
|
28/11/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw ar hyd y dydd Sion Hugh yn dyrnu
|
29/11/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod dwl ac yn bwrw ambell gawod. Sion yn dyrnu. Dafydd yn hel gwiail
|
30/11/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod dwl ac yn bwrw cawodydd trymion yn y Prydnhawn. Sion Hugh yn dyrnu. Dafydd yn hel gwiail. Wil Williams y Bwlchllechog yma. Fi yn mynd i Langybi ar ol Ciniaw ac i'r Tynlon y noson
|
1/12/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw'n drwm iawn ganol dydd Fi yn dwad o'r Tynlon i Langybi ac oddiyno adref. Sion Hugh yn dyrnu
|
2/12/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod dwl ac yn bwrw rhai Cawodydd lled drymion. Sion Hugh yn dyrnu, Dafydd wedi mynd i Gaernarfon. Sion Morris, Sion William yn dechreu codi Cerrig i orphen y Clawdd yn y Caea porfa'r Tymawr
|
3/12/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul. Diwrnod dwl sych oer. peth Eira hyd bennau'r Mynuddau
|
4/12/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod ac yn bwrw eirwlaw'n drwm iawn ar hyd y boreu. Sion Hugh yn Dyrnu. Dafydd yn hel gwiail. Evan Williams Caeddafydd yma, yn ymofyn am le i droi gwartheg i'r Morfa. Dyn o Leyn yma yn ymofyn am y Tir yma
|
5/12/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod dwl ac yn bwrw peth gwlaw ar hyd y dydd Sion Hugh yn Dyrnu. Dafydd wedi bod yn Trawsfynudd.
|
6/12/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod dwl claiar ac yn dwad i fwrw gwlaw'n drwm at y Prydnhawn. Sion Hugh a Dafydd yn nithio Ceirch. Fi wedi bod y Mhenmorfa
|
7/12/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Iau. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw ar hyd y dydd Sion Hugh a Dafydd yn nithio Ceirch
|
8/12/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw y rhan amlaf. Sion Hugh a Dafydd yn nithio Ceirch. Owen Roberts Tynlon yn dwad yma. Fi yn mynd efo fo i Dremadoc i'r Farchnad. Howel Owen yma'n edrych y Moch tewion
|
9/12/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod dwl sych. Y Meibion yn nithio. Dafydd yn dwad ar ol Prydnhawnbryd efo mi i ddanfon i'r Dref iw pwyso. Tomos Llangybi yn dwad yma i ddanfon dillad i'r Plant
|
10/12/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Sul Diwrnod dwl ac yn bwrw peth gwlaw
|
11/12/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod sych teg. Y Meibion yn darfod nithio'r Ceirch
|
12/12/1826 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod dwl gwyntog. Dafydd wedi bod a Jac a Captan yn Efail Sion Evan, yn mynd wedi a chlwydad o Geirch i Felin Tanyrallt. Sion Hugh yn dyrnu Ceirch. Sion Morris yn dwad ac Awrlais rhybydd yma o'r Tynlon. Finau yn ei osod ar ben y Grisiau
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|