Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
8/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl claiar ac yn bwrw peth gwlaw. Yn nithio’r Gwenith. Fi yn mynd at Mr.Williams i [sic] Steward i Benmorfa
|
9/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod dwl sych. Yn Nithio’r Gwenith
|
10/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher. Diwrnod dwl wedi bwrw gwlaw’n drwm y boreu sych y Prydnhawn Yn nithio ac yn puro Gwenith. Y Meddyg Williams o’r Plâshên yma’n ail roi brech y Buwchod ar y Plant lleiaf. Fy Ewythr Owen Edwards TyddynyGwynt yma’n talu ei ardreth Wm.Williams Bwlchllechog yma
|
11/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod lled wyntog ac yn bwrw cawodydd trymion o Eira.nes oedd y mynyddau yn wynion. Yn darfod puro’r Gwenith. Mr.William Jones o’r Ysgubor hen yn galw yma i edrych gwair dros Martha Owen Ffestiniog
|
12/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod dwl ac yn bwrw Cawodydd o Eira, ac Eira tew hyd y Mynyddau. Yn darfod puro’r Gwenith. Fi yn mynd efo Robt.Thomas y Caecoch i Dremadoc i’r Farchnad
|
13/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod.diwrnod [sic] dwl ac yn bwrw peth gwlaw weithia, Robt Thomas a Thomas Bryn’r Hydd yn dwad yma
|
14/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod dwl ac yn bwrw cawodydd o Eira ac yn chwythu’n drwm iawn yn y Prydnhawn
|
15/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl claiar. Robt.Thomas Caecoch yma’n nol Hobad o Wenith finau yn mynd efo fo i Dremadoc. Sion Hugh efo Pilkington Tynannau
|
16/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod dwl claiar ac yn bwrw ambell gawod o wlaw. Yn pwyso Gwellt Pilkington Tynannau yma yn prynu deg Cant. Dafydd wedi bod yn y Cwmmawr yn gofyn i Wm,Owen ddyfod yma i ladd y Fuwch
|
17/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod dwl sych Yn pwyso Gwellt Risiart Owen Penrhynheli yma yn nol Gwellt Mr.Pilkington
|
18/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod dwl distaw claiar. William Owen yma’n lladd y Fuwch Dafydd wedi bod yn danfon y Croen i Dremadoc i fyn [sic] i John Williams Plas newydd
|
19/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod niwlog claiar. William Owen yma’n torri’r Fuwch Fi yn mynd i Drefmadoc i’r Farchnad
|
20/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod clir sych John Griffith Tymawr Llanfrothon [sic] yma o achos papur pump punt drwg oedd wedi ei roi i mi ddiwrnod y ffair yma Edward Jones y Gelli lydan, a Gweision Mr.Baines Festiniog [sic. Ffestiniog] yn nol llwythi o wair gyntaf o’r Morfa
|
21/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod sych oer wedi rhewi peth neithiwr.
|
22/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod sych oer lled wyntog Eira hyd y Mynyddau ac wedi rhewi peth neithiwr. Yn Pwyso pump Cant o wellt i William. Melinydd Tanrallt Sion Hugh yn mynd wedi [sic] i hel Gwiail
|
23/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod distaw ac yn bwrw peth Eira yn y Prydnhawn wedi rhewi peth neithiwr. Sion Hugh a Dafydd yn hel gwiail Fi wedi bod yn Tremadoc
|
24/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod dwl ac yn bwrw Eira drwy’r boreu, wedi rhewi neithiwr. Yn pwyso uncant ar bymtheg o wellt Gwenith i Edward Jones y Gellilydan
|
25/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod sych lled oer wedi rhewi’n galed neithiwr, Sion Hugh a Dafydd yn hel Gwiail
|
26/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod sych oer wedi rhewi neithiwr. Sion Hugh a Dafydd yn hel Gwiail. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad
|
27/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod sych wedi rhewi neithiwr. Sion Hugh a Dafydd yn rhoi’r Helm Wenith i mewn. Fi wedi bod y Nhrefmadog [sic. ‘Fi wedi bod y Nhrefmadog’ wedi tanlinellu]
|
28/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw’n drwm ar hyd y dydd
|
29/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw’n drwm ar hyd y dydd. Sion Hugh yn dechreu dyrnu’r Gwenith
|
30/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw’n ddwys. Sion Hugh yn dyrnu dyrnu [sic] Gwenith. Mr.Lloyd y Wern yma yn y Prydnhawn
|
31/1/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw weithia Sion Hugh yn dyrnu Gwenith
|
1/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod sych wedi rhewi peth neithiwr Sion Hugh yn dyrnu Gwenith
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|