Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
3/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod sych wedi rhewi neithiwr. Fi yn mynd o’r Tynlon efo Owen Roberts i edrych y Cefncynferch ac yn dwad adref
|
4/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod sych wedi rhewi neithiwr
|
5/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod sych wedi rhewi neithiwr, Captain Burton yma n edrych y Tir Fi wedi bod yn Tremadoc
|
6/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod sych wedi rhewi neithiwr, Tair Pedrolfen [trol pedair olwyn?] o Ffestiniog yn nol Gwair o’r Morfa
|
7/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod sych wedi rhewi neithiwr Glynn Griffiths Esqr Stiwart Lord Newborough a Dyn arall yma’n edrych y Tir
|
8/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau Diwrnod sych distaw wedi rhewi neithiwr Sion Hugh yn dyrnu Gwenith
|
9/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod sych gwyntog wedi rhewi neithiwr. Mr.Williams a Mr.Kyffin ac eraill yma’n edrych y Tir ac yn prisio’r Coed. Diwrnod Gwerthiant Tir Mr.Gore yn Tremadoc
|
10/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod sych Gwyntog wedi rhewi neithiwr. Sion Hugh yn darfod Dyrnu’r Gwenith. Mr.Evans Tyn y Coed yn galw yma. Fi yn mynd efo fo i Dremadoc at Mr.Williams y Stiward. Ann bach [merch O.E] yn dechreu Crynnu Fy mam yngnghyfraith yn awad [sic. dwad] yma
|
11/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod sych gwyntog Owen Roberts Tynlon yn dwad yma, Mr.Holland yn dwad yma i Fedyddio yr Eneth fach, sef Elin,
|
13/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod sych distaw wedi rhewi peth neithiwr Yn dechreu Nithio Gwenith
|
14/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod dwl distaw, Yn darfod nithio’r Gwenith –
|
15/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Diwrnod sych oer. Yn rhoi’r Helm Haidd i mewn. Fi wedi bod yn y Wern Penmorfa yn Ciniawa ef [sic] Mr.Robert Lloyd, ac yn Gwerthu’r Tarw iddo
|
16/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod sych oer Sion Hugh yn Dyrnu Haidd. Nancy Caeddafydd yn dwad yma. Fi yn mynd efo hi i Dremadoc.
|
17/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod dwl oer ac yn bwrw eira hyd y Mynyddau, Sion Hugh yn dyrnu Haidd Dafydd wedi bod yn danfon y Tarw i’r Wern Penmorfa
|
18/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod sych Gwyntog wedi rhewi’n drwm iawn neithiwr
|
19/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod sych wedi rhewi’n drwm neithiwr Sion Hugh yn Dyrnu Haidd
|
20/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth Diwrnod sych wedi rhewi’n drwm neithiwr Sion Hugh yn Dyrnu Haidd Fi wedi bod y Nghynebrwng Bachgen Wm.Williams o’r Pandy y Mhenmorfa Owen Griffith o’r Cefncoch isa wedi ybod [sic] yn y Morfa yn edrych ei Ebolion
|
21/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod sych gwyntog Sion Hugh yn Dyrnu Haidd. Fi wedi bod efo Mr.Williams o’r Towyn yn edrych clawdd mynudd Reiniog
|
22/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Iau.Diwrnod sych Sion Hugh yn Dyrnu Haidd. Fi wedi bod yn y Parcia Criccieth yn edrych Buwch gyflo efo Morris Jones
|
23/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Gwener Diwrnod sych distaw Captan Owen Edwards yn dwad yma Finau [sic] yn mynd efo fo i’r Dref i’r Farchnad yn prynu y Fuwch gan Morris Jones o’r Parcia
|
24/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn Diwrnod sych oer. Sion Hugh yn Dyrnu Gwenith
|
25/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
SUL Diwrnod sych wedi rhewi neithiwr
|
26/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
llun Diwrnod dwl tebig i Ddryghin. Sion Hugh wedi bod y [sic] nghyfarfod y Fuwch a brynais gan Morris Jones y Parcia Thomas Bryn yr Hydd yn dwad yma
|
27/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mawrth. Diwrnod gwlawog yn y Boreu sych at y Prydnhawn Yn nithio Gwenith. Thomas BrynrHydd [sic] yn mynd adref
|
28/2/1827 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Mercher Diwrnod dwl sych. Yn darfod nithio Gwenith
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|