Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
8/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd gwener Diwrnod gwresog mwll iawn. Y Fuwch a'r Tarw yn mynd i'r adladd i'r Tymawr. Yn Carrio Ceirch Cae'r hendra ac ar ol darfod yn mynd i'r Morfa i orphen Cynull y Ceirch. Fi ddim yn bur iach gan natur anwyd ac heb fynd i Dremadoc i'r Farchnad. Y Meibion yn gorphen Cynnull y Gelli wastad ac yn mynd i gynull Ceirch y Caecanol Robt Sion Hendrahowel ym yn Degymu Ceirch y Morfa a'r Gelli Wastad. Nancy Caeddafydd yma wrth fynd i'r Farchnad Robt. Griffith y Saer yn codi'r Llofft lle byddaf fi yn cysgu ac yn rhoi lloft newydd yn ei lle


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn Diwrnod gwresog bra^f Y Meibion yn cario Ceirch y Morfa. Yn tebygu i wlaw at y nos Sioncin wedi bod yn y Dremadoc yn siop Morris Jones yn nol Corlyn Gwelu


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul Diwrnod mwll ac yn bwrw gwlaw clair dwys


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

 Dydd Llun Gwresog iawn Yn gorphen carrio Ceirch y Morfa ac yn carrio peth o Geirch y Gelli wastad. Owen Humphreys Cle----eg yma yn fy nol i fynd i siarad efo Merch Peter Evan Bryntwr sydd yn Feichiog am iddi fynd i Dyngu tad ei phlentyn yn dwad adref rhwng wyth a naw o'r Gloch y nos


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mawrth Gwresog a mwll iawn. Yn gorphen cael yr yd Gellir dywedyd am y cnwd eleni ei fod yn dda yn gyffredin yn enwedig yr Haidd a'r Gwenith. Y Ceirch yn fwy eiddil na'r disgwyliad. Cafwyd Cynhauaf da a digolled anghyffredin. Y Farchnad yn dal etto yn lled uchel. Y Blawd ceirch yn costio unswllt ar bymtheg ar hugain y Pwn  Yn Nhremadoc y gwener diwaethaf am ddim Yd arall a fydd yno nid i'w werth son am dano. Sioncin wedi mynd a Farmer i Efail Sion Evan. Evan James y Cowper yn galw yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher Diwrnod gwresog yn y boreu ac yn dylu at y Prydnhawn. Y Meibion yn carrio Brwyn o'r Morfa at yr helmi Yd yn eu trwsio ac yn dechreu eu Toi. Fi wedi bod yn Tremadoc yn mynd i ymofyn ynghylch Merch Peter a oedd hi wedi bod yn tyngu Tad ei Phlentyn yn clywed yno ei bod wedi darfod er doe a rhwymo y Dyn, sef gweithiwr i Owen Richard Ffynon Beuno ai atteb chwarter. Fi yn Ciniawa efo Robt. Jones yn Arwydd Madocks ac yn dyfod adref erbyn dau o'r gloch y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd iau Diwrnod dwl yn y boreu ac yn dwad i fwrw gwlaw trwm at hanner dydd. Y Meibion yn Toi'r Helmi ac yn nol Pyna o Frwyn attyn yn mynd t o'r Morfa. Y Buchod yn mynd i'r Morfa Y Lloia yn mynd i'r Caemain a'r Caea lleppa Robt. Griffith y Saer yn gorphen Llofftio Sionun wedi bod yn Tremadoc yn nol dau Gant o hoelion sengel


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd gwener. Diwrnod teg gwresog Fi yn mynd yn y boreu i'r Dinas ddu i fesur Ffens, hono yn Bedwar rhwd ar ddeg ar hugain a llathen Y Meibion yn carrio gwrysg ac yn cau o gwmpas yr helmi Y^d Lusy n mynd i Dremadoc i'r Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn. Diwrnod teg lled ddwl ac heb fwrw dim gwlaw Sion Morris a Guto yn Cau bwlch rhwng morfa trwyn y garreg a'u Morfa rhif pedwar. Will yn Cau Cadlas y beudy ucha Sionun wedi bod yn y Dre yn ymofyn pwys o Baent, ac yn nol y Gefndres oddiwrth y Sadler wedi bod yn ei thrwsio. Robt. Thomas Caecoch yn dwad yn y Prydnhawn ac yn mynd i ffwrdd gyd a'r nos


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul Yn bwrw peth gwlaw yn y boreu ac yn deg yn y Prydnhawn Twm Jones Bachgen o Langybi yma yn danfon Llythur oddiwrth Elin Finau yn rhoi llythur iddo fynd yn ei o^l


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun Diwrnod lled oerllyd ac yn bwrw ambell gawod Fi efo Will a'r drol wedi bod yn Ffestiniog yn nol Y Gist i roi ar Fedd fy Mrodyr, ac yn ei danfon at Fonwent Penmorfa ac yn dyfod adref cyn y nos. Fi yn ymdroi yn Nhremadog efo Owen Roberts Porthmonac yn cael ta^l ganddo am ddau Eidion, Fo yn dwad efo mi adref ac yn cysgu yma y noson


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd mawrth Diwrnod sych lled oer Ellis Edward Dyn o Ffestiniog yn dwad yma yn y boreu i fynd i osod y Gist Will a minau yno efo fo ar hyd y dydd yn ei gosod. Y Dyn yn Cysgu yma y noson finau yn talu iddo am y Gist Naw Punt ond Coron, a wedi talu i Thomas Owen Ffestiniog driswllt ar bymtheg am dori ar y Gareg. Yr Eira cyntaf eleni yn ymddangos ar ben y Mynyddoedd uchaf. Sionun Morris yn dal Ysgyfarnog efo'r Milgi ar y Traeth


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher Diwrnod gwlawog a gwyntog Dryghinllyd iawn ar hyd y Dydd Y Meibion yn gwneud rhaffa at doi'r Mawn a rhaffio'r Y^d


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd iau Diwrnod lled deg ac yn bwrw rhai Cawodydd. Fi efo'r Meibion yn hel yr Wyn, yn gyru Triugain i Gaegoronw i'w Charcharu, a deg i allt y Tymawr Y Meibion yn mynd ar ol Prynhawnbryd i drwsio hen Dda^s y Beudy ucha oedd wedi chwalu gan wynt ddoe Elin yn dyfod adref Ei mam yn dyfod efo hi yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Gwener Diwrnod dwl lled oer ac yn bwrw ambell gawod Guto a Dic yn dechreu carrio Mawn o Gaegoronw ucha Will yn rhaffio'r helmi Sion Moffis yn torri anialwch Elizabeth Griffith yn mynd adref Sion Morris yn ymadael. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad ac yn dyfod adref cyn y nos.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn Diwrnod dwl tebyg i ddryghin. Fi a Will wedi bod yn hela, yn dal Ysgyfarnog ar ben yr allt a dwy lefran bach yn y mynudd yn ymul Prenteg yn chwilio penrhyn yr Aber a pheth o gae'r coed, a'r Traeth yn dyfod adref erbyn haner dydd heb weld dim. Guto a Dic yn carrio Mawn o gaegoronw. Ffair yn Beddgelert. Yn gyru pedwar chwaneg o Wyn i Gaegoronw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul Diwrnod dwl ac yn bwrw rhai Cawodydd lled oerllyd Gwen Jones Tremadoc Robt. Humphreys Clearenney Captain yr Endeavor a Daniel Morris Towyn yma'n yfed Tea yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun Diwrnod teg Thomas William yma oddiwrth Ffowliwr Mr. Gore eisiau'r Milgi i fynd i hela gael Ysgyfarnogod i fynd i Borkington Will yn mynd efo'r Milgi yn foreu i'r Clenenney i fynd i hela. Guto a Dic yn carrio Mawn o Gaegoronw Will yn dyfod cyn pump wedi dal pump o Ysgyfarnogod, ar ol bwyta yn mynd a nhwy i'r Dinas ddu i fynd i'r Capelcerrig i fynd efo'r (Goach) i Borkington. Elin Cigyddes o Ro^sylan yn dwad a bolia Cower llaeth yma ac yn cysgu yma heno. Ffair yn Pwllheli


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

 Dydd Mawrth Diwrnod lled wyntog ac yn bwrw Cawodydd oerllyd o'r Gogledd. Y Gwartheg hespion yn mynd i Caegoronw Fi efo Will a Sionun yn trwsio tri llaig [footrot] oedd ar draed tri ohonynt yn Tyddynllewelyn cyn eu cychwyn. Guto a Dic yn carrio mawn. Ffair yn Penmorfa fi yn mynd yno, ac yn dyfod adref erbyn hanner nos


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher Diwrnod dryghinllyd yn y boreu ac yn hindda at y Prydnhawn Guto a Dic yn carrio mawn o Gaegoronw Will yn gwneud rhaffa ac yn rhaffio'r helmi


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd iau Diwrnod budur iawn. Siani wedi mynd a Thelaid o Wenith i'w falu i Felin rhydbenllig Dic a guto yn carrio mawn yn y boreu ac yn gollwng [...rhaffau?] cyn hanner dydd o ran ei bod yn bwrw gormod o wlaw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/9/1820
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

 Dydd Gwener Diwrnod teg bra^f. Fi a Will yn hyd gaea Pant ifan y boreu yn chwilio am Ysgyfarnog ac yn misio gweld un. Fi ar o^l hynnu yn mynd ar Milgi i Borth y ge^st Ffowlian i gyfarfod ffowliwr Mr. Gore. Mr. Williams y Stewart yno yn gosod gwal i gau o gwmpas Coed. Fi yn mynd efo Mr. Williams i Griccieth (Dydd gwyl Mihengel) yn Ciniawa ac yn Yfed Cwrw hyd yn agos i Ddeg or gloch


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/9/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

[ …parhad…] yn dwad o Criccieth i Benmorfa ac yn ymdroi yno, ac yn dyfod adref erbyn rhwng un a dau o’r gloch y boreu yn eithaf sobr  Robt. Thomas a Twm Jones Llangybi yn dyfod yma, Y Meibion yn carrio mawn



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: BJ
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/9/1820
Prenteg, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Prenteg

30 Dydd Sadwrn Diwrnod teg yn y boreu ac yn tebygu i ddryghin at y Prydnhawn  Dic a Guto yn Carrio mawn  Robt. Thomas a Twm Jones yn mynd adref.  Sionun wedi bod a Farmer yn yr Efail o achos bod ychydig o gloffni arno o’i droed blaen


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: BJ > DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/9/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn  Diwrnod teg yn y boreu ac yn tebygu i ddryghin at y Prydnhawn  Dic a Guto yn Carrio mawn  Robt. Thomas a Twm Jones yn mynd adref.  Sionun wedi bod a Farmer yn yr Efail o achos bod ychydig o gloffni arno o’i droed blaen


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: BJ
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax