Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
1/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul  Diwrnod têg brâf ar ol gwlaw trwm neithiwr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth [sic. Dydd Llun]  Diwrnod teg. Owen Humphreys Clenenney yn dwad yma yn y boreu i wneud ei gyfri ynghylch y ffordd fawr, minau yn mynd efo fo i Griccieth i’r Meeting i roi ein cyfri ynghylch y ffordd fawr ac y [sic] dwad trwy Benmorfa adref ... ... wedi bod a phwn o Haidd yn y felin isa. Y Meibion wedi bod yn codi bwlch yn y Clawdd pen isa i’r Mynudd [sic]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth  Diwrnod teg mwll. Guto a Dic yn gorphen cario mawn Caegoronw. Fi yn mynd i Dremadoc i ymofun deunydd eli Yspaddu


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher  Diwrnod teg brâf. Sasiwn yn Nghaernarvon  Will wedi mynd yno. Guto a Dic yn toi y Dâs mawn yn Caegoronw, Fi yn gwneud eli Yspaddu. Thomas William yma yn nol y Milgi i fynd i hela i Mr.Gore


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau  Diwrnod sych gwyntog lled oer. Owen Humphreys Clenenney yma yn y boreu yn gwneud cyfri i’r dreth eglwys  Fi yn mynd efo fo i’r Festri i Benmorfa, ac yn mynd a llyfr Newydd o Siop Morris Jones i gadw Coffadwriaeth o’r Festris. Yn ymdroi peth y Mhenmorfa efo Ffowliwr Mr.Gore ac yn dyfod adref erbyn hanner awr wedi naw. Mrs Edwards Tanrallt yma a dwy eraill yn ymofun am Gaws, Menun a Gwenith, Robt.Griffith y Saer yn dyfod yma. Will a Dic wedi bod yn chwilio am y Maharen ac yn Carcharu’r Wyn oedd yn Caegoronw. Guto yn dyrnu’r Ydwellt


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/10/1820
Prenteg, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Prenteg

6 Dydd gwener  Diwrnod teg lled wynog [sic] Robt. Griffith y Saer yn ei welu [sic] yn sâl trwy’r dydd. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad ac yn dyfod adref rhwng deg ac unarddeg y nos


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: BJ > DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn  Diwrnod teg. Y Meibion yn mynd i nôl mawn i Reiniog. Y Milgi yn dwad adref. Tomas y Suntur yma oddiwrth Robert Caecoch yn edrych pa un a wna ai prynu eboles imi ai peidio....


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod sych gwyntog lled oer  Fi wedi bod yn y llan ac yn dwad adref efo Rob\ Sion Hendrahowel dros yr Alltwen


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun  Diwrnod gwyntog sych lled oer. Fi yn mynd i hel treth.yn ymdroi peth yn y Cefncoch ac yn hela peth efo Owen Griffith yn dal un a’r Milgi yn misio gweld un arall. Y Meibion yn carrio mawn o’r Reiniog


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth  Diwrnod dwl sych oer. Fi yn mynd at Mr.Willilams Towyn i hela yn dal un ac yn misio dal un arall. yn ciniawa yn Towyn ac yn dwad adref cyn y nos. y Meibion yn carrio mawn o Reiniog


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd.Mercher. Diwrnod teg sych. Fi yn mynd i Dremadoc i gyfarfod Richd. a Sian Thomas Penmorfa i edrych am blant Mr.Gore i’r Glyn  yn mynd trosodd y nghwch Robt.Ellis a’r Milgi efo ni. yn byta yn y Glyn ac yn mynd ar ol Loyd yr Adarwr ac eraill i hela, nhw wedi dal un, ac yn dal pump wedi [sic], Yn ciniawa yn y Glyn ac yn dyfod at y Cwch agos erbyn cwbl dywllu [sic] yn cael chwart o gwrw y Nhy Robt.Ellis Will yn dwad a’r Ceffyl at Dy Daniel y Towyn i nghyfarfod y Cael dau gwart o gwrw yno, ac yn dwad a Sian Thomas wrth fy Sgil i Dremadoc ac yn rhoi’r Ceffyl i Richd.Thomas a hitha i fynd i Benmorfa finau yn aros y ceffyl yn ei ol i’r Dre ac yn dwad adref erebyn deg o’r glos [sic] y nos  Y Meibion yn carrio Mawn o Reiniog


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau  Diwrnod teg sych. Elin yn mynd yn y Prydnhawn i Benmorfa ac i’r Tynyberllan i brynu Afalau, Margad Morris yma  Y Meibion yn Carrio Mawn o Reiniog. Robt.Thomas Caecoch yn dwad ac Eboles hanner blwydd yma oedd wedi brynu gan Robt.Thomas Owen Garn am dair punt a swllt ac yn cysgu yma heno.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd gwener. Diwrnod rhywiog claiar ac yn bwrw peth gwlaw  Y Meibion wedi mynd i Reiniog i nol mawn  E Griffith Llangybi yn galw yma.wrth fynd i Ffair Gaer. Fi yn ei danfon trwy’r Traeth ac yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad ac oddiyno i Benmorfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn  Diwrnod dwl tebig i ddryghin Richard William y Gôf yma yn nol arian. Y Meibion yn gorphen Cario Mawn Reiniog ac yn mynd a Deg Pwn i’r Odyn i grasu  Yr Eboles a ddaeth Robt.Thomas Caecoch yma wedi diengyd, Owen Robert y Tinllwyd yn dwad a Dynewad oeddwn wedi brynu yma, Guto wedi bod yn Garn yn nol yr Eboles, dechreu bwrw gwlaw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul  Glaw trwm iawn a dyghinllyd yn y boreu.  Dafudd Baili Wm. Jones Tyddyn Elen yma a llythur o achos cyfraith sydd rhwng y Plwy yma a Phlwy Coedanna Sir Fon [^].


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: DB
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun  Diwrnod gwlawog gwyntog dryghinllyd iawn ar ol Taranau trymion iawn cyn dydd. Fi yn mynd i Dremadoc yn y boreu i ymofyn hoelion ais. Robt.Griffith y Saer wedi dyfod yma. Sion Thomas Tyddyndicwm yma’n chwilio am Dreth


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth  Diwrnod yn bwrw Cawodydd trymion iawn. Robt.Griffith y Saer yma. Robt Sion Hendrahowel yma yn Seilio Llofft y Parlwr  Sionun wedi bod yn y Dre yn nol Hoelion  Dyn o Sir Feirionydd yn dwad yma, oddiwrth Fy Modryb Penarth i ddweyd fod fy nghefnder Edward Ellis wedi marw ai bod yn ei gladdu yn Llanbedr Dyffryn Dudwy y foru  y Dyn yn aros yma heno minau am fynd efo fo i’r Cynhebrwng y foru os byddai bosibl gan yr hin


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher yn bwrw Cawodydd lled drymion, gormod tywydd i mi fynd i’r Cynhebrwng. Robt.Sion Hendrahowel yn mynd adref hanner dydd o achos i galch fynd i’w Lygad, Richd.Sion a Sion Jones yma’n ceisio cymryd yr Yd i’w ddyrnu ac yn misio cytuno


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau. Yn bwrw rhai Cawodydd trymion, Fi yn Yspaddu’r Lloia, ac efo will yn toi’r cwch gwenun ...


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener  Diwrnod oer Dryghinog ac yn bwrw yn drwm at hanner dydd. Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma yn y Prydnhawn wrth ddyfod adref o Ffair Gaer ac yn cysgu yma heno


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn  diwrnod lled sych oer ac yn bwrw ambell gawod



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul Gwlaw trwm iawn yn y boreu ac yn well at ganol Dydd 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun Diwrnod sych. Ffair yng nghricceth. Fi yn mynd yno ac yn prynu pedwar o berchill gan W Williams Tyddyn môd coch am un swllt ar bymtheg ar hugain ac ef yn eu danfon yma. Ffair sâl hynod ar Wartheg a llawer o honynt. yn ddyfod adref cyn deg 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth. Diwrnod lled Sych, Di [sic] wedi bod ar ddau Geffyl ar Gaseg yn yr Efail. Grifith Jones Gelli’r Yn yma yn ymofyn am fwndel o Ais a Mil o hoelion


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher  Diwrnod  Cawodog oer. Will wedi bod yn Criccieth yn nol deuddeg Pwn o Galch, ac yn mynd i’r Plas newyd [sic] i ymofyn blew ac heb gael yr un. Pobl prisio’r Tir yma Griffith Prisiart Pwllglowlas yma, efo Phenwaig ac yn eu gwerthu deuddeg am chwech cheiniog. Dau o Geffylau Pobl y Seiat fisol yn dyfod yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax