Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
26/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau Diwrnod Cawodog budr hynod  Seiat fisol yn Tremadoc  Mam, Neli a Will wedi mynd yno  Wil wedi bod yn Criccieth yn chwilio am flew ac heb gael yr un yno


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener Diwrnod gwlawog budr hynod trwy’r Dydd Y Meibion yn y Beudy newydd. Robt.Griffith yn Saer yn darfod gweithio yn y Ty. Dryghinog ac oer ar hyd y Dydd.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. diwrnod oer dryghinog iawn Fi efo’r Meibion yn troi’r Defaid o’r Mynudd heb eu Cneifio gan wlaw a dryghin Richd.Humphrey Ynuspandy isa (Cwnstabl) yma yn hel henwau at y Milisia neu Filwyr Cartrefol, teg at y Prydnhawn Geneth Pyrs Penmorfa yn danfon y Milgi yma, oedd wedi diengyd i Benmorfa er boreu ddoe. Fi yn mynd i ffowlio ac yn misio lladd y Cyffylog yn Coed y Caeglâs. John Jones Glwfer Tremadoc yma yn ymofun am wlan  Wyn. Y Meibion yn mynd a phlancia i’r Beudy ucha i wneud llawr dyrnu


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod claiar budr iawn ac yn bwrw gwlaw dwys ar hyd y dydd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun  Diwrnod claiar sych. Harry Edward Hendrasela yn dechreu dyrnu, wedi cymeryd yr Yd am geiniog a dimeu yr ‘Stwc a cheiniog a dimeu’r sached am nithio. Y Meibion yn tynu Clorenod i’w cadw, yn bwrw ambell gawod o wlaw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
31/10/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth  Diwrnod sych ac yn debig i fwrw gwlaw. Y Meibion yn tynu Clorenod, Robt.Sion Hendrahowel yma yn’n [sic] cymysgu Calch at Plastro. Fi wedi bod allan yn Ffowlio ac yn dwad adref heb weld dim  Pobl Mesur Tir yma, yn dechreu mesur yn y Morfa. Fi yn mynd i Dremadoc ac i’r Efail i beri gwneud heirns at Lidiart. Yn ymdroi yn Tremadoc ac yn dyfod adref erbyn hanner nos. Will wedi dod a’r Ceffyl i fy nol yn cael Warning  


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher Diwrnod teg sych Robt.Sion Hendrahowel yn pinio talcen y Ty. Y Meibion yn tynu Clorenod iw cadw. Pobl mesur Tir yma.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau  Diwrnod teg ffeind. Yn hel y defaid ac yn cneifio pum ugain ac unarddeg ac yn marcio dwy ar hugain o Famoga at eu gwerthu, yn marcio wyth a deugain o Fyllt ac y neu gyru i Gaegoronwy. Y Mesurwr Tir yma yn buta ganol dydd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd gwener  Diwrnod teg distaw ffeind. Griffith Prichard Pwllglowlas yn dwad a phum cant o benwaig Llanaelhaiarn yma am dri swllt a chwecheiniog y cant, Y Meibion yn tynu Clorenod   Robt.Sion Hendrahowel yma’n Plastro. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad. Y Gwartheg hespion yn dwad o Gaegoronw i’r Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn  Diwrnod teg distaw ffeind wedi barigo yn drwm neithiwr. Mam wedi mynd i Garleg y Ty. Y Meibion wedi tynu Clorenod. Y Mesurwr Tir yma efo’r Map yn edrych a oedd yn ei le. minau yn mynd i ddangos twll y maengrisial iddo. Robert Griffith yn ymadael wedi bod yma ddeunawdiwrnod ar hugain am swllt a chwecheiniog y dydd. Dic yn danfon Warnings i’r Tenantiaid sydd ar y Tir yma, a Robt.Griffith yn mynd ac un i Gerrigyrhwydwr i Sion Hugh   


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul  Diwrnod budr ac yn bwrw gwlaw mân ar hyd y dydd, Guto wedi mynd trwy’r Traeth neithiwr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun  Diwrnod mwll lled fudr. Y Meibion yn tynu Clorenod Fi yn mynd i Benmorfa i gyfarfod Owen Humphreys i edrych y ffordd fawr yn ymul y Pwllbudr i gael ei gosod iw thrwsio, yn mynd i’r Tyn llan i ymofyn treth ac yn edrych ar henwa oedd ar ddrws y llan at y Milisia ac yn cael drws y llan yn agored achos esgeulustra a diofalwch y Clochydd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth  Diwrnod sych claiar distaw  Y Meibion yn gorphen tynu Clorenod. Mr.Edwards Tanrallt a Dyn arall hyd y Caea yn Ffowlio ac yn lladd Ceffylog yn blaen y coed. Robt.Griffith y Saer yma yn nol unpwysarddeg o Wer am wyth geiniog y Pwys  Will a Guto yn mynd heno i Benmorfa i dalu arian at y Milisia


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher  Diwrnod lled ddwl budr. Neli wedi mynd i Langybi Will a Guto wedi bod yn Tymawr yn blingo’r llo Tarw oedd wedi marw o’r dolur bur.digwyddodd o gwmpas hanner dydd imi fynd i’r Ardd sylwais ychydig ar y Gwenun, gan ei bod yn ddiwrnod claiar yr oeddynt allan ac yn carrio beichia fel pe buasai yn ddiwrnod teg ddechreu hâf, nid ydwyf yn gwybod i mi sylwi arnynt felly erioed o’r blaen.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau  Diwrnod sych, gwynt lled oer o’r Dwyrain. Guto wedi bod y boreu yn danfon croen y llo i’r Plâsnewydd yn pwyso tri phwys ar ddegarhugain, Harry Edward yn mynd i’r Beudy ucha i ddechreu dyrnu, y lleill yn nithio yn y Sgubor Elizabeth Griffith Llangybi yma yn ymdroi ‘chydig wrth ddanfon ei ‘Menun i Dremadoc.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener  Diwrnod teg distaw. Fi yn mynd i’r Traeth i chwilio am ysgyfarnog. Harry Owen Tyddunadi yn galw arnaf i ddwad yma i edrych y moch   yn buta ei giniaw yma, ac yn mynd i ffwrdd heb ei prynu Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad, ac yn Cyhoeddi’r ffordd fawr heibio i’r Pwllbudr ar osodiad dydd Mercher nesaf at ddeg o’r Gloch


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sdwrn [sic] Diwrnod teg brâf Ffair y mhwllheli, Siani wedi mynd yno. Will yn hel gwiail, Guto yn torri anialwch efo’r Cloddia, Dic a Sionun yn llosgi’r Gwlydd Bytatws, Elin a minau yn mynd i Dremadoc ar ol ciniaw, Yn yfed Tê efo Gwraig Morris Jones Siopwr ac yn dyfod adref ar ein Traed. Yr hen nos Galangaiaf


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Yn dwad yn wlaw trwm yn y boreu ac yn parhau felly ar hyd y dydd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun  Diwrnod oer, budr iawn ac yn bwrw gwlaw trwm ar hyd y dydd  Ffair y mhenmorfa  Fi yn Cyflogi Gweision yno.ffair lled ddiofun arnynt yn gwerthu’r Caws yno am Bedwarswlltarddegarhugain i Robt.Lloyd Maentwrog


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth  Diwrnod sych oer. Guto yn ymadael. Will yn mynd i Dremadoc peth dolur yn fy mhen ar ol doe [sic]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher  Diwrnod sych lled oer wedi bwrw neithiwr Fi yn mynd i osod y ffordd fawr heibioi’r Pwllbudr yno rhwng deg ag unarddeg ac yn ei gosod i Robt.PenyCafn am dri swllt yn mynd oddiyno ef Mr.Owens i’r Gesailgyfarch yn Ciniawa yno, ac yfed Te yno ac yn.dyfod adref erbyn.saith o’r nos


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau  Diwrnod teg Claiar wedi barrigo neithiwr. Yn dwad ar wyn i lawr o Gaegoronw ac yn ei marcio Pedwar a Thriugain Will Sion y Gwas Newydd yn dyfod iw le. G.Jones Tailiwr yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener  Diwrnod sych  Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad ac yn gwerthu Buwch a Tharw tew i Thomas Cigydd ac yn gwerthu Pedwar mochyn tew i Harry Owen am ddwy geiniog a dimeu y pwys


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn Diwrnod budr gwlyb Fi efo Will yn mynd a’r Moch iw pwyso, 17-6, 18-4, 15-7. 16-1.i gid 66,,18au 2½ pwys


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul  Diwrnod sych fi wedi bod yn y llan


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax