Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
20/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun  Diwrnod tebig i ddryghin  Fi yn mynd i Bwllheli i Siarad efo Mr.Ellis ynhylch y ffordd fawr wrth y Pwllbudr o achos teuly Brynkir. Fi yn cael gwlaw trwm iawn wrth ddyfod adref yn dwad trwy Penmorfa i yru cennad i Frynkir iddynt ddyfod at y ffordd i’n cyfarfod y foru rhwng hanner dydd ac un o’r gloch


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth. Diwrnod gwlyb dryghinllyd. Fi yn mynd at y ffordd fawr wrth Pwllbudr i gyfarfod teuly Brynkir a hwytha heb ddyfod yno yn dwad adref cyn nos. Sion gwas Elizabeth Griffith Llangybi yma yn ymofun y ddyniewad foel oedd yma yn y borfa. Bachgen Thomas y Cigydd yma yn nol y fuwch a’r Tarw tew. Will wedi bod yn Caegoronw yn ymofun gwair i’r Gwartheg allan gyntaf


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher Diwrnod teg distaw. Richd.Thomas Penmorfa yma oddiwrth Lloyd Brynkir o achos y ffordd fawr finau yn gyru Llythyr efo at Mr.Huddard, Y Meibion yn carrio gwellt o’r Beudy Newydd i’r Beudy ucha i’w wneud yn ddâs, Henry Edward yn darfod Dyrnu yn y Beudy ucha, Howel Owen y Gorllwyn yma yn nol Cosun, Fi yn saethu tair o Lygod ffreinig yn y cafn môch ar un ergyd  Yn gyru’r helm haidd gyntaf i mewn ac yn lladd un Lygoden ffreinig yn honno


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau  Diwrnod claiar budr, Y Meibion yn troi y Dâs [?] gwellt, Hunt i fod yn Llangybi. Ellis Evans Ty’n ffridd yn dwad yma i fwsoglu’r Tai. Fi yn mynd i Dremadoc i edrych y Fuwch a’r Tarw oedd wedi eu lladd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd gwener. Diwrnod distaw têg braf. Siani wedi mynd a Thri hanner Telaid o Wenith i Felin rhyd.benllig iw falu. Yn nithio pwn o Haidd i fynd iw falu. Fi yn prynu Mochyn gan Mary Caeglâs ac yn mynd i’r Farchnad i Dremadoc.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadawrn  Diwrnod oer ac yn chwythu o’r Dwyrain. Y Meibion yn nithio yn y Beudy ucha. Fi yn mynd i gyfarfod Owen Humphreys at y ffordd fawr, ac yn cael fy siomi o herwydd ei fod wedi mynd i Briodi ei fab Griffith, Thomas William yma yn nol y Milgi


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod tebig i ddrychin  Mr.Owen Aberglaslyn 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun  Diwrnod dwl claiar. Y Meibion yn gorphen nithio yn y Beudy ucha, Ellis y slatar yn trwsio Beudy ty’n bwlch, Will yn dwad a llwyth o’r Yd o’r Beudy ucha. Fi yn trwsio’r Peiriant malu gwellt. Bachgen Richd Thomas yn dwad a’r Milgi adref. Begi Owen Portreuddyn yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth  Diwrnod sych distaw. Will yn mynd a llwyth o Yd i’r odyn. Fi yn mynd i fesur y ffordd fawr wrth y Pwllbudr, ac yn gosod darn o ben isa clwt y ffolt hyd at y ffrwd tu yma i Efail Morris Llewelyn am hanner coron y rhwd. Yn mynd efo Owen Humphreys i nol bwyd i’r Clenenney. Yn dwad a’r Milgi efo mi adref o Benmorfa. G Jones Tailiwr yn dwad yma i wneud Mantell i Elin


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher  Diwrnod sych distaw claiar. Mr.Owen Aberglâslyn yn dwad yma i fynd i’r Aberdeunant i ffowlio finau yn mynd efo fo yno, yn gweled un aderyn, fo a minau yn mynd adref heb ladd yr un  Will yn mynd a llwyth o yd  i’r odyn. Griffith Jones y Tailiwr yn mynd adref ar ol swper.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/11/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau..Diwrnod dwl, sych distaw claiar. Y ddau Will yn cau Trains yn cae porfa’r Tymawr. Ellis y Slater yn darfod mwsoglu’r Ty a Beudy Ty’n y bwlch. Hary Edward yn darfod dyrnu’r helm Haidd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/12/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener  Diwrnod dwl digynwr claiar hynod. Y ddau Will a Siani wedi mynd i’r Felin i silio. Dic wedi mynd a’r Drol yno, Harry Edward gartref eisio nithio. Elis y Slater yn trwsio Beudy yr Ty Mawr. Fi yn mynd i Dremadoc i’r farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/12/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod claiar tyner. Y Meibion yn nithio Haidd.ac yn puro pump Hobad. Yn cael Llythur oddiwrth Edward Davies Gweinidog y Capel helig o Dremadoc.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/12/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod budr ac yn bwrw gwlaw dwys claiar, ...


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/12/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Diwrnod dwl claiar. Robert Sion Hendrahowel yn dwad yma i orphen rundro’r Ty. Y lleill yn gorphen puro’r Haidd ac yn cael o gwbl unarddeg o Hobeidia. Elizabeth Griffith Llangybi yn mynd adref  Griffith Jones Gelli’r Yn, yn dyfod yma a Llythyr oddiwrth Mr.Williams Steward Mr.Gore. Tomas wedi bod yma prydnhawn ddoe yn nol y Milgi !


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/12/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth. Diwrnod budr gwlawog. Ffair y Ngharnarfon  Robt. Sion Hendrahowel yn mynd y boreu i’r Tymawr ar feder ei drwsio  Yn dwad i fwrw gwlaw, yn dwad i lawr i bwintio’r pobty. Will yn lladd hespwrn oedd wedi syrthio dros graig . Y buwchod yn dwad i Gae’r hendre  Buwch Mr. Bedwel Tanrallt yma efo’r Tarw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/12/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher. Diwrnod niwlog budr. Howel Owen Gorllwyn yma’n nol Hobad o Haidd. Fi efo Will yn y Beudy ucha yn trwsio’r presebi  Yn rhoi gwair gynta i’r Fuwch dew


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/12/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau. Diwrnod dwl niwlog, a gwlaw trwm at y nos  Y Meibion wedi bod yn darfod cau’r trains yn caea porfa Tymawr  Fi wedi bod yn Tremadoc y prydnhawn  Ellis y Slater yn darfod trwsio’r Ystabl ar Ty mawn. Fi yn diwedd gwneud rhidill 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/12/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd gwener. Diwrnod niwlog budr ac yn bwrw gwlaw dwys claiar. Y Meibion yn trwsio llaesod y Beudy ucha a’r Beudy Ty’n y bwlch. Twm Jones Llangybi yn dwad a Llythur yma yn achos opiniwn oddiwrth Mr.Williams Twrna o achos Tynlon. Fi heb fod yn y Farchnad. Yn rhwmo’r lloia gynta...


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/12/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod niwlog budr a Dryghin trwm at y nos. Robt Griffith Cwmcath yma yn siarad am hobad o Haidd  Fi yn gwneud tylla i’r Colomenod yn talcan y Ty Mawn  Bachgen William Sion yma’n danfon Llythur oddiwrth Mr.Owen Aberglâslyn. John Owen Braich y Saint ac Edward Davies Gweinidog y Capel helig yn dwad yma trwy ddryghin trwm efo’r twyllnos 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/12/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Gwlaw trwn a niwlog.dau Wyddel yma yn gofyn Tamaid. Ar ol swpper o gwmpas naw o’r gloch fel yr oeddwn yn eistedd wrth y tan, teimlais fel pe buasai y llawr ar Gadair yn crynu odditanaf ac yn hynnu swn tebig i swn Taran a’r llestri yn swnio yn y Cwpyrdda ac ar y Treselydd. Barnwyd gennym ni mai Daeargryn ydoed [sic]. Fe ei clywyd gan lawer yn y Gymdogaeth  


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/12/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Diwrnod sych distaw ar ol gwlybaniaeth trwm  Guto brawd Robt.Griffith Cwmcath yma yn nol Hobad o Haidd  Richard bachgen Richd. Thomas Penmorfa yma’n danfon y Milgi  Y Meibion yn trwsio hen houwel Ty’n bwlch. Yn rhwmo’r Buwchod  Ffair yn harlech. Elin Evan Peter yma. Yn dwad a’r Bustych o’r Tymawr i’r Henerw  yn dechreu tori das y Morfa. Yn rhoi’r Ceffyla i mewn yn y Stabal. Ellis y Slater yn dwad yma at ei Swpper


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/12/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth.Diwrnod niwlog gwlawog budr. Fi yn mynd i’r Efail i beri gwneud caib.yn ymdroi yn Nhref Madawg [sic]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/12/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher   Diwrnod sych a gwynt oer o’r Dwyrain.yn rhwymo gwartheg yn y Beudy ucha Dechreuad y Rhew


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/12/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau. Diwrnod sych distaw wedi rhewi peth, Y Meibion yn teilo yn y Tymawr. Doctor Edwards Tremadoc yn galw yma wrth ddyfod o Furygwenyn oddiwrth Wraig Morris David oedd yn sal o Glefyd y gwaed ac yn Ciniawa yma Rhew yn Dechreu


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax