Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
15/12/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd gwener. Diwrnod sych wedi rhewi yn bur galed. Y Meibion yn teilo yn y Tymawr. Will wedi mynd i ddanfon Elin i Langybi. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad.Robt. Lloyd yn dwad efo mi adref i bwyso’r Caws. Sion Griffith Tyddyn mawr y Pennant yn cynnyg talu tair Ceiniog y bunt o dreth dros y Wernddwirig yn lle naw ceiniog oedd pawb drwy’r plwy yn ei dalu am y flwyddyn 1818
|
16/12/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Eirlaw a rhewynt trwm, Yn pwyso Caws yn y boreu. dri chant a hanner. Fi yn mynd i Langybi yn yr hwyr
|
17/12/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Yn meirioli Elin a minau yn Llangybi
|
18/12/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth llun Diwrnod claiar dwl, Elin, Elizabeth a minau yn mynd o Langybi i Gefnycynferch i edrych am Sion Owen eu hewyrth. Will wedi bod yn danfon y Caws yn y Towyn
|
19/12/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod claiar niwlog. Elin a minau yn dyfod adref o Langybi a’r Gaseg a’r Forwyn yn dwad i’n danfon tu yma i Griccieth. Will wedi bod a llwyth o Geirch yn yr Odyn
|
20/12/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod niwlog budr. Fi efo’r Meibion yn gyru’r helm Wenith i mewn, ac yn mynd ar ol darfod i fesur y ffordd fawr oedd wedi ei thrwsio wrth Efail Morris Llewelyn. Will yn mynd a llwyth o Geirch i’r Odyn, ac yn dwad a hobad o Frâg o Benamser efo fo. Richd. Williams y Gôf yma yn trwsio’r Padelli Efydd
|
21/12/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod claiar heb fwrw, Gwyl Domas Fi yn mynd i Benmorfa i’r Festri. William Jones Tyddyn Elen yn Nhy Richd.Thomas ac yn dwad efo mi adref. Elin a’r Merched wedi Darllaw
|
22/12/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd gwener. Diwrnod claiar distaw Y Meibion yn gorphen teilo yn y Tymawr. Fi yn mynd efo William Jones i’r Farchnad i Dremadoc Yn gwerthu yr Ymenun yno i John Jones o’r Ganllwyd am wyth geiniog y pwys...
|
23/12/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod teg distaw tebig i sychu. Will, Harri a Siani wedi mynd i’r Felin i silio. Thomas William yma yn nol y Milgi i fynd ir Glyn i Hela. Will yn dwad a Thriugain pwys o halen o Siop Morris Jones.
|
24/12/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod sych oer
|
25/12/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod sych oer wedi Rhewi’n bur galed. Fi yn mynd i Gynhebrwng Guto Hendrahowel a Sian Parry Murygwenyn y ddau y Mhenmorfa Dyddnadolig Newydd. Dyddnadolig Newydd
|
26/12/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Diwrnod sych oer wedi rhewi’n bur galed Fi yn mynd i Gynhebrwng Sian Owen. Merch Cwmmawr i Benmorfa. Y Meibion yn nol llwyth o Wair o’r Morfa i’r Beudynewydd ac yn mynd i Deilo Lludw
|
27/12/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod sych oer wedi rhewi’n galed Y Meibion yn teilo yn Caegoronw. Sion Morris yn dwad a Stillions Newydd yma o Wolverhampton
|
28/12/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod sych oer gwyntog wedi rhewi’n galed. Y Meibion yn teilo yn Caegoronw Harri efo’r Merched yn nithio dau Hobad o Wenith
|
29/12/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener Diwrnod sych oer gwyntog wedi rhewi’n galettach nac un diwrnod eleni. Yn mynd a phum llestr o’r Ymenun i Dremadoc i’w bwyso, ac yn mynd a dau Hobad o Wenith, a dau Hobad o Haidd i Morris Jones Siopwr Tremadoc. Yn prynu dau Ogor Newydd ac yn prynu Clo
|
30/12/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod sych distaw wedi rhewi yn galed iawn Y Meibion yn teilo lludw Humphrey Jones y Marchogwr yma. Lewis Gwehydd o Lanfrothen yma yn siarad am Begaid o Haidd...
|
31/12/1820 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod sych distaw wedi rhewi’n galed
|
1/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod sych distaw tyner. Y Meibion yn nol gwair gyntaf o Gaegoronw. Fi yn gweld dwy Hwyadan [sic. hwyaden] yn ffôs y morfa gan amhaeaeth pa un ai dôf ai gwylltion oeddynt heb fentro eu saethu yn mynd yno i’w codi ac yn saethu ar eu hola ac yn misio lladd yr un John Bachgen Richd.Thomas yma’n danfon y Milgi. Y Meibion a minau yn gweddeithio [llosgi] Cors Tyddyn Llewelyn. Dyddcalan Newydd
|
2/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Diwrnod sych distaw tyner. Y Meibion yn nol llwyth o Wair o’r Morfa i’r Beudy Newydd, ac yn teilo i’r Bryncoch. Harri yn gorphen dyrnu’r helm Wenith
|
3/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod sych, oer gwyntog wedi rhewi’n galed iawn Cathrine David Tyn y mynudd [sic.] yma’n talu ei rhent Humphrey Jones y Marchogwr yma yn dechreu iwsio’r Eboles. Harri a’r Merched yn nithio’r Gwenith y lleill yn teilo i’r bryncoch. Fi yn saethu Hwyaden wyllt wrth lidiart bryn magl gyda’r twyllnos.ac yn mynd efo canwylla a lantar i chwilio am dani ac yn ei chael yn farw yngwaelod y Ceunant
|
4/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod sych distaw wedi rhewi. Y Meibion yn teilo i’r Caemain. Harri a’r Merched yn puro’r Gwenith. Mr.John Williams a Mr.Cadwalader Ellis Pwllheli yma’n seinio Gweithredoedd Robt.Williams Mur y Cypla –
|
5/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod sych oer gwyntog wedi rhewi’n galed Yn gyru [sic.] Helm Haidd i mewn. Lewis gwehydd o Lanfrothon [sic. Llanfrothen] yn danfon sachau yma i roi Haidd. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad ac yn mynd oddiyno i Benmorfa at Mr.Williams y Steward yn dwad adref erbyn tri o’r Gloch.
|
6/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Yn Meirioli Fi yn mynd i Benmorfa, diwrnod talu y rhent. yn dwad adref erbyn deuddeg. Yr Hen Nadolig.
|
7/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod distaw ac yn meirioli. Fi yn mynd i Benmorfa i ----------!!! [sic] Elizabeth Owen a Robt.Thomas Llangybi yma
|
8/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod dwl distaw ac yn meirioli Y Meibion yn teilo i’r Caemain...
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|