Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
9/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dwl ac yn bwrw gwlaw oer o’r Dwyrain Y Meibion yn teilio [sic] i’r Caemain Dic wedi bod yn y Ffarm Yard Tanrallt yn nol dau hesbwrn oedd yno wedi eu rhoi i mewn.
|
10/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod claiar, distaw, niwlog, tyner, Y Meibion yn teilo i’r Caemain John Hugh Drwsyrymlid yma’n talu rhan o’i Rent
|
11/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod sych distaw claiar. Dyn oddiwrth Lewis Gwehydd o Lanfrothan [sic] yn nol dau hobad o Haidd. Y Meibion yn teilo i’r Caemain. Fi yn mynd i Benmorfa i’r Festri. Gornfelan wedi dwad a llo yn y dyddia yma
|
12/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener Diwrnod dwl budr ac yn bwrw peth gwlaw. Will yn mynd a Heirns [sic. heyrn] y Gwydd Aradr i’r Efail. Gwraig Richd.GriffithTelyrni yma yn prynu Hobad o Haidd a Hobad o Wenith. Y Fastiffgiast yn rhwygo twll yn ei mantell Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad
|
13/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod sych dwl mwll. Fi yn mynd at Benygroes i fesur ffordd fawr, ac yn dal ysgyfarnog yn gallt Tyddyndicwm wrth fynd Fy Ewythr Tyddynygwynt yma yn talu rhan o ei Ardreth. Buwch CM efo’r Tarw
|
14/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod sych lled oer yn chwythu o’r Dwyrain Fi yn mynd i Aberglâslyn at Mr.Owen yn y Prydnhawn
|
15/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod dwl gwlawog ar hyd y dydd. Will wedi bod yn dechreu Aredig yn y Buarth gwyn
|
16/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Diwrnod Dwl sych claiar Will yn Aredig yn y buarthgwyn Richard Griffith Telyrni yma yn nol Hobad o Haidd a Hobad o Wenith Siani wedi bod yn y Felin isa yn nol pwn o flawd Haidd. Harry Edward yn diwedd dyrnu’r ail Helm Haidd
|
17/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod dwl claiar Humphrey Jones y Marchogwr yn mynd i ffwrdd wedi bod yma bythefnos Harri a Will efo’r Merched yn nithio. Will a Dic yn Aredig yn y buarth gwyn Fi yn mynd i Dremadoc i dorri fy ngwallt.
|
18/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod dwl gwlawog budr, Harri efo’r Merched yn puro’r Haidd. Naw Hobad [sic.] Will yn Aredig y bryncoch
|
19/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod niwliog [sic. niwlog] gwlawog budr hynod, y ddau Will yn nol llwyth o Wair o’r Morfa i’r Beudy Newydd. Harri Edward yn mynd at hanner dydd i chwalu tail i’r Tymawr Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad ar gefn y Ferlan
|
20/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod niwliog [sic.] budr. Dic wedi bod a Denbi yn yr Efail ac yn dwad a thelaid o Frag o Benamser efo fo. Siani wedi mynd a Hobaid o Haidd i’r Felin iw falu i’r Fuwch. Will a Harri yn codi Cerrig yn y Weirglodd ucha
|
21/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod niwliog gwlyb budr. Mr Owen Aberglaslyn yma
|
22/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod gwlyb niwliog budr. Will yn dechreu Aredig y Caemain Harri a Will Sion yn mynd i’r Weirglodd ucha i godi Cerrig Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma. Harri Owen Tyddynadi yma yn dweyd fod Mochyn imi i’w gael yn Nhy Robt.Jones Tremadoc wedi ei ladd. Yn Darllaw diod fain [bragu] Will Sion yn mynd i’r Dre i nol y Mochyn ar ôl Porthi., finau yn ei dorri yn barod i’w hallty [sic. halltu]–
|
23/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod teg clir sych Elizabeth Griffith Llangybi yn cychwyn adref efo’r dydd. Will yn Aredig yn y Caemain, y lleill yn codi Cerrig yn y Weirglodd ucha. Yn cael llythur oddiwrth Mr.Owen Aberglâslyn eisiau benthig Trap haiarn, yn gyru [sic.] ei fenthig iddo efo bachgen William Sion Prenteg. Mam wedi mynd i’r Cefncoch ac i edrych am wraig Griffith Owen Clenenney
|
24/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod claiar niwliog budr, y ddau Will yn teilo i’r Caemain. Harri a Dic yn chwalu tail yn Tymawr. Hwmphra Parry Pîg yma’n prynu crwyn
|
25/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod dwl claiar distaw. Y ddau Wil yn tynu cerrig o’r Weirglawdd [sic. weirglodd] ucha at glawdd terfyn Hendrahowel. Harri a Dic yn Caegoronw yn chwalu tail. Fi yn codi Ysgyfarnog yn Ochor y Caeglas efo’r Milgi. Y Milgi yn ei cholli yn Adwy’r Tymawr Griffith Owen Llangybi yn dwad yma
|
26/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener Diwrnod distaw claiar wedi barigo [sic. barugo] yn drwm Y Meibion yn tynu [sic. tynnu] cerrig yn y Weirglodd ucha. Elin yn mynd yn sâl y boreu, yn gyrru Dic i Gwmystrallun i nol Mary Thomas, a Ganwyd yr Eneth bedwar o’r gloch y Prydnhawn.
|
27/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl distaw tebig [sic] i eira, y ddau Will yn dwad llwyth o wair o’r Morfa. Harri a Dic yn codi cerrig yn y Weirglawdd [sic. weirglodd] ucha Y Mam yn dwad adref
|
28/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod dwl digynwrf, Elizabeth Griffith ac Elizabeth Owen Llangybi yn dwad yma. William Jones Tyddyn Elen a Morris Jones Siopwr Tremadoc a’i Wraig yn dyfod yma yn y Prydnhawn
|
29/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod dwl tebig [sic.] i ddryghin. Y Meibion yn y Weirglodd ucha yn tynu [sic.] cerrig. Coed Afalau yn dwad yma oddiwrth John Nicholas Abereirch
|
30/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dwl lled ddryghinllyd. Y Meibion efo’r cerrig yn y Weirglawdd [sic] ucha. Dic wedi mynd a Farmer i’r Efail ac yn mynd a Llythur [sic.] at Mr.Holland i ofyn iddo ddwad yma i Fedyddio’r Eneth bach [sic]
|
31/1/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod dwl lled ddryghinllyd Will wedi mynd i’r Towyn i nol hanner tunell o Glo [sic]. Harri yn plygu’r clawdd rhwng Cae’r Hendra a buarth Cae derwen. Hogun [sic] Wm.Sion Prenteg yn dwad a Hesbwrn at y Ty oedd wedi mynd tros y graig. Fi wedi planu Coedan [sic. coeden] afalau surion wrth yr Afon Prydnhawn ddoe yn bedyddio’r Eneth bach [sic]
|
1/2/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod dwl lled ddryghinllyd. Y ddau Will yn carrio gwair o Gaegoronw. Robt.Griffith y Saer ai frawd yn dwad yma Ellis y Slater yn dwad yma. Dic wedi bod a Denbi yn’r Efail...
|
2/2/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod teg distaw. Gwyl fair Newydd, Yn gyru’r [sic.] helm Haidd ddiwaethaf [sic.] i mewn Dic yn mynd a Jack a Captan i’r Efail. William Owen y Gwyndy yn dwad yma. Fi yn mynd efo fo i Dremadoc i’r Farchnad. William Jones Tyddyn Elen yn dwad efo mi adref ac yn cysgu yma. Harri Edward yn syrthio ar lawr y ‘Sgubor ac yn brifo peth ar ei glun. Bachgen tollfa Aberglaslyn yn danfon llawddryll Mr Owen Aberglaslyn yma i’w gadw –
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|