Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
3/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn  Diwrnod dwl claiar. Will Sion wedi bod a chaseg Llangybi yn efail Risiart yn gosod Pedol. Yn dwad a llwyth o Wair o’r Morfa i’r Beudy Newydd. Trol Robt.Jones Tremadoc yma yn nol pedwar Hobad o Wenith. Fy Ewythr Owen Edwards Tyddynygwynt yma...


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Gwlaw trwm y boreu, teg at y Prydnhawn...


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun Diwrnod sych.wedi rhewi’n lled galed. Y Meibion yn teilo i’r Cae main. Fi yn mynd i Griccieth i’r cyfarfod Ustusiad  [sic. ustusiaid]...


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth  Diwrnod sych oer. Y Meibion yn teilo oddiwrth y Beudy newydd. E Owen Llangybi a dau Fachgen Brynr’ hydd [sic] yn dwad yma 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher  Diwrnod sych oer lled wyntog Robt.Griffith y Saer yn dyfod yma Y Meibion yn teilo oddiwrth y Beudy Newydd...


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau  Diwrnod sych teg distaw. Y Meibion yn teilo oddiwrth y Beudy ucha. Fi wedi bod yn Tremadoc. Twm Evan James yma. Cainsan wedi dwad a llo


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener. Diwrnod sych distaw teg. Dic wedi mynd a Thelaid o Wenith i’r Felin. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad. Po^thmyn [sic.[ porthmyn] yn y Dref. Y Meibion yn teilo oddiwrth y Beudy ucha


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn  Diwrnod sych teg distaw. Y Meibion yn teilo oddiwrth y Beudy ucha. Gwas Robt.Jones Tremadoc yma yn nol hanner Telaid o Wenith, Dafydd Hafod y llyn yma yn nol Telaid o Haidd. Fy Ewythr Owen Edward Tyddyn y gwynt yma. Wil Sion yn mynd i’r Cwmmawr i ofyn i William Owen ddwad yma i ladd y Fuwch dydd llun. Gwragedd Cwmystrallun yma yn edrych am Elin


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul Diwrnod sych teg distaw...


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun  Diwrnod teg distaw wedi rhewi’n bur galed  William Owen Cwmmawr yma’n lladd y Fuwch  Dic yn mynd a’r croen i’r Plâsnewydd yn pwyso 61lb. Thomas a Robt.Thomas Llangybi yn mynd adref. Harry Edward yn planu [sic.] Clorenod. Y Meibion yn dwad a llwyth o Wair o’r Morfa i’r Beudy newydd. Mari Caeglâs yn dwad a Chocos Yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth  Diwrnod teg distaw wedi rhewi’n bur galed  William Owen yma’n tori’r [sic.] Fuwch. Y Meibion yn dwad a gwair o Gaegoronw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher  Diwrnod teg distaw. Wil yn Aredig yn y Caemain


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau Diwrnod teg distaw. Fi yn mynd i Gynhebrwng William Jones Penystumllyn. Will yn Aredig yn y Caemain


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener Diwrnod teg distaw  Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad. Y Milgi yn dwad i’r Dref ac yn marw yno mewn ‘chydig amser, ei agor, a chafwyd mai wedi rhedeg yr oedd yn erbyn clawdd neu garreg a ddarfu nes y torodd ei weithen [sic. wythïen] waed yr oedd ei waed wedi cerdded i gid [sic] iw fol a hynny fu’n achos iw ddibennu Gellir dywedyd iddo ddarfod yn ei amser goreu ac yn feistr ar ei Gym’dogaeth. Will yn Aredig yn y Caemain. Harri yn darfod dyrnu’r Haidd. Yr ydym yn ameu am y Mili [sic] mai cnoc neu gic a gafodd yn Tremadoc


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod teg distaw. Mr.Williams Coedacers yma yn edrych y Busdych [sic. bustych] ac yn Ciniawa yma. Began Caeglâs wedi bod yn danfon darn bychan o gig Buwch i Mr.Holland [yr Offeiriad a fedyddiodd ei ferch]. Harri efo’r Merched yn nithio’r Haidd. Will yn darfod Aredig y Caemain ac yn mynd i’r Efail yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod dwl distaw oer. Fi wedi bod yn y llan


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Diwrnod teg distaw wedi rhewi’n lled galed. Will yn dedchreu Aredig yn y Morfa, Harri efo’r Merched yn puro’r Haidd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth.Diwrnod distaw dwl wedi rhewi’n lled galed ac yn tebygu i fwrw peth gwlaw. Will yn Aredig yn y Morfa  Harri efo’r Merched yn gorphen puro’r Haidd ac yn cael Deuddeg Hobad o bur Yd. Yn gyru [sic] Helm o Geirch i mewn. Eira hyd benau’r [sic. bennau’r] Mynyddoedd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher Diwrnod distaw lled oer. Fi yn mynd y boreu i Dyddynygwynt i ddangos ymha le i wneud clawdd ar y fonllech hir  Y Meibion yn dwad a llwyth o wair o’r Morfa i’r Beudynewydd  Mr.Williams Towyn ac Ellis Owen Cefnymasydd [sic. Cefnymeysydd] yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau. Diwrnod teg distaw ffeind. Will yn dwad Aredig yn y Morfa. Fi efo Dic yn planu [sic. plannu] Pys cynnar. Will Sion efo Robert Sion Hendrahowel yn cau’r Clawdd terfyn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn –[sic.] Gwener Diwrnod teg distaw ffeind  Fi wedi bod yn y Farchnad ac yn dyfod adref wedi iddi dywllu [sic] ac yn mynd efo Morris Jones i Beddgelert


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod sych teg distaw. Will yn Aredig yn y Morfa. Elizabeth Owens Llangybi yn mynd Adref, Siani wedi bod a phwn o Haidd yn y Felin ac yn dyfod Adref heb gael Malu 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod teg sych distaw ffeind. Howel Parry Isallt bach yma o gwmpas tri o’r gloch y boreu yn nol Mary Thomas [bydwraig?]at ei wraig oedd yn sâl.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Diwrnod teg sych distaw. Sion David gynt o’r Traian yma yn y Plygain yn nol Mari Thomas [bydwraig?] at ei wraig oedd yn sâl  Fi yn planu [sic.] hanner dwsin o goed afalau, a dwy o goed Gerllig [sic. gellyg]yn yr Ardd. Will yn aredig yn y Morfa. Siani wedi mynd i’r Felin i nol pwn o Haidd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth. Diwrnod sych, distaw wedi rhewi’n bur galed  Mwinig wedi dwad a  LLO neithiwr. Will a Dic yn cari [sic] gwair o Gaegoronw  Owen Jones Tyddyn iolun yma yn achos Arian Cathrine David Tynymynudducha oedd ganddi ar Gappel [sic. Gapel] Tremadoc. Will wedi bod a Heurns [sic. heyrn] y Gwydd ardr [sic. aradr] y Morfa yn yr Efail


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax