Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
28/2/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher. Diwrnod sych lled wyntog wedi rhewi’n bur galed  Will yn mynd i’r Morfa i Aredig a yn dwad i fynu [sic. fyny] yn ei ol gan ormod rhew. Harri efo’r Merched yn nithio Pedwar pegaid a Thelaid o Geirch hâd ac yn rhoi Helm geirch arall i mewn. Y ddau Will yn nol llwyth o Wair o’r Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau gwlaw trwm yn y boreu wedi bwrw eira lled drwm neithiwr. Fi yn mynd i Benmorfa i’r Cyfarfod blynyddol Cymdeithas Eifionydd er Cospi Lladron, dau ar bymtheg ar hugain o’r Aelodau yno yn Ciniawa. William Jones Tyddyn elen yn dwad efo mi adref... 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd gwener Diwrnod budr yn y boreu. Will Williams y gwas yma’n Priodi  Fi yn wâs Priodas iddo, yn mynd yno ar ein Traed. Dic yn dwad ar Ceffyl i fy nol.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn  Diwrnod dwl claiar budr. Harri efo’r Merched yn nithio’r Ceirch


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul Diwrnod dwl claiar budr. Fi yn mynd efo Elizabeth Owen i Langybi


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Diwrnod dwl sych. Fi yn mynd o Langybi i Ffair Bwllheli, yn dwad adref erbyn naw o’r gloch  Will yn Aredig yn y Morfa. Will sion yn Tymawr yn llyfnu Tail. Robt.Griffith y Saer yma yn trwsio’r Drol


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth  Diwrnod claiar dwl budr. Yn mynd ar gwartheg allan i ffair Penmorfa ac yn eu gwerthu i Silfanus Jones Caegwyn am naw punt a phymtheg swllt. Hugh Griffith, William Jones ac Elizabeth Owen yn dwad yma o’r ffair


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher. Diwrnod claiar dwl budr. Will yn aredig yn Gwern Clowna. Will Sion yn llyfnu tail yn Caegoronw, Harri yn codi Drain at glawdd yn y Morfa. Hugh Griffith William Jones ac Elizabeth Owen yn mynd adref. Fi efo Harri yn polio clawdd oddiwrth y Pistill du i hen ffôs y Clawdd gwrysg y Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau Diwrnod gwlawog budr  Wil yn mynd i Aredig i’r llain hir a Harri yn mynd i’r Morfa i ddechreu’r Clawdd. Gwlaw yn ei gyrru adref at hanner dydd. Fi efo Will yn rhoi clapia ar Gyrn rhai o’r Buwchod [sic. buchod].


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd gwener. Diwrnod dwl gwlawog budr iawn. William Owen y Gwyndy yma. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad ac yn derbyn Cant Punt oedd gan Cathrine David Tynymynudd [sic.Tynymynydd] ar Gapel Tremadoc  Will yn Aredig yn y llain hir, Harri efo’r Clawdd yn y Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl lled wyntog heb fwrw  Will wedi bod yn Towyn yn nol hanner Tunnell o Glo [sic.]. Harri efo’r Clawdd yn y morfa. Will Sion yn cau’r clawdd terfyn yn y Morfa efo Owen Portreuddyn  Y Clomenod yn dechreu dodwy. Gwas Carleg y Ty yma yn nol hanner Hobaid o Wenith. 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod teg distaw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun Diwrnod teg claiar. Yn hel y Defaid ac yn gwerthu tair ar bymtheg o hen mammoga i Harri Owen am wyth swllt a chwech cheiniog y pen ac yn ei danfon i Dremadoc  Harri Owen yma’n Ciniawa, Will yn Aredig yn y llain hir  Harri Edward efo’r Clawdd yn y Morfa Dau Oen bach wedi dwad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth. Diwrnod mwll claiar ac yn bwrw peth gwlaw  Will wedi bod yn Towyn yn nol Pymtheg pwn o Galch ac yn dwad a’r llwyth diwathaf [sic. diwethaf] o’r hen Wair o’r Morfa i’r Beudy newydd. Harri yn y Morfa efo’r Clawdd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher. Diwrnod teg distaw claiar wedi barrigo’n [sic. barugo] drwm yn y boreu. Will wedi bod yn Towyn yn nol pymtheg pwn o Galch  Mab Griffith Roberts Cwmcath yma yn nol Hobaid o Haidd iddo ei hun a Hobaid i Robt.Griffith y Saer ac yn mynd a Hobaid i Will Williams hefyd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau Diwrnod teg distaw. Fi yn mynd i Maentwrog i ddanfon cant [sic.] Punt Cathrine David Tynymynudd ucha iw rhoi ar y llôg ar Gappel [sic.]yr Ymneullduwyr [sic, Ymneilltuwyr]  yn Ffestiniog. Mr.Williams Towyn yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dyddd Gwener Diwrnod teg distaw. Fi efo Dic yn mynd a’r Gwartheg allan i Dremadoc i fynd i ffwrdd. Will yn aredig yn y Cae canol  Harri efo’r Clawdd yn y Morfa. Neidr yn brathu Fury


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn  Diwrnod teg distaw. Dafydd Tan yr Ogof (alias Dafydd y baili) yn dwad a Gâst bach yma o Dyddyn Elen. Will (alias Will y Sais yma yn dal Tyrchod Daiar [sic. daear]. Yn rhoi Wyau tan yr Wydd i ôri. [sic.] Lewis Gwehydd o Lanfrothon [sic. Llanfrothen] yma yn talu am ddau Hobaid o Haidd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod oerllyd gwyntog ac eira hyd benna’r Mynyddau  Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma. Gwnaeth daran, lled drom o ddeuty un o’r Gloch y Prydnhawn, a chawod drom o eira ar ei hol.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Diwrnod oerllyd gwyntog dryghinog, eira ar bennau’r mymydda. Elizabeth Griffith Llangybi yn mynd adref. Will yn Aredig yn Caecanol. Will Sion a Harri efo’r clawdd yn y Morfa. Ffury [sic] yn marw wedi i’r Fastiffgiast fynd am ei phen ddydd gwener diwaetha [sic] pan oedd yn lladd neidr, ac fe ei brathwyd gan y neidr, yr hyn a fu yn achos o ei diwedd Daeargâst ydoedd oeddwn wedi ei gael gan Edward David Braich y dinas ers wyth neu naw o flynyddoedd, gwnaeth lawer o ddaioni ar y tir trwy ddinistrio pob mâth o bryfaid niweidiol o bob math a gwenwynig 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth. Diwrnod oerllyd gwyntog cawodog (anghysurus) Will yn diwedd Aredig y Caecanol, ac yn mynd i’r Morfa i Aredig  Will Sion a Harri yn y Morfa efo’r Clawdd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher. Diwrnod teg distaw. Will yn Aredig yn y Morfa Y Merched sef y ddwy forwyn wedi mynd neithiwr ar ol Swpper [sic.] i Dre madoc [Sic.] heb wybod i mi, minau [Sic.] ar gwybod yn eu cloi allan Fi yn mynd i Dremadoc ac yn prynu rhaw newydd, plans [Sic. planhigion ?] bresych yn dwad yma o Langybi. Yn gosod ffosydd iw torri yn yr hen Forfa gwair i Sion


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau. Diwrnod sych distaw, Will yn Aredig yn y Morfa  Will Sion a Harri efo’r Clawdd yn y Morfa. Fi yn gosod ffosydd iw torri yn yr hen forfa gwair i Sion Jones Pantllwyd. William Jones Fedw bâch yma’n Siarad am Hobaid o Haidd. Fi yn dechreu palu lle yn yr Ardd i roi Bresych


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener. Diwrnod sych lled oer, Will yn aredig yn y Morfa Harri a Will Sion efo’r Clawdd yn y Morfa, Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad. Dau o Gerbydau yno. Dynes fawr chwech Troedfedd a saith modfedd o hyd, heb fod yn llawn Ddwyarbymtheg oed, a Dynes fechan heb fod yn llawn dair troedfedd o hyd ac yn ddauddegdau Oed yn un, a gwaith Cwyr yn y llall, sef lluniau amryw ddynion a Merched o deulu Brenhinol [Roedd y Brenin George IV i’w goroni ymhen pedwar mis, ar Orffennaf 19 1821], a rhai hynod eraill, heb for yn rhyfeddod fawr. Olew i ddenu Llygod ffreinig [sic]  [tri gair wedi eu hysgrifennu mewn symbolau, 4/6. Tri gair mewn symbolau, 1 / 2 Tri gair mewn symbolau, 4d.] 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod dryghinog ac yn bwrw gwlaw ar hyd y dydd. Will y Sais yn rhoi cyfri’r Tyrchod daear i fynu [sic.], naw dwsin a hanner.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax