Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
25/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod oer gwlyb, ac yn bwrw eirlaw trwm yn y boreu teg brâf yn y Prydnhawn. ac eira tew hyd benau’r Mynyddau [sic.]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Diwrnod claiar lled wlyb. Will a Dic yn Aredig efo’r rhycha yn y Morfa  Will Sion yn chwalu’r calch yn y Buarth gwyn ac yn ei lyfnu, Gyru’r [sic.] Helm Geirch ddiwetha i mewn, Fi yn planu [sic.] Bresych. William Jones Tyddyn Elen yma yn yfed Tê yn y Prydnhawn ac yn mynd i ffwrdd gyda’r nos trwy wlaw mawr, ac yn mynd a’r hen Gôb [sic. got?] flewog am dano. Yn cael Testamentau o Siop Wm.Williams sef hanner gwerth fy rhagdaliad at y Bibl Gymdeithas Tremadoc.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth Diwrnod budr ac yn bwrw eirwlaw [sic. eirlaw] eira mawr hyd benau’r Mynyddau [sic.]. Will wedi bod yn yr Efail. G.Owen Clenenney yma 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher. Diwrnod sych distaw. Fi efo will yn gosod llidiart rhwng drws y Ty a drws y ‘stabal, y lleill yn curo biswail, Doctor Edwards yma’n Ciniawa, Sion Tomas Tyddyndicwm yma efo Dyn o Abergele yn achos y Plwy, ac yn settlio [sic.]am y Trethi Tylodion [sic. tlodion?]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau. Diwrnod oer lled fudr. Will a dic yn Aredig yn y Morfa y lleill yn curo biswail. Fi yn mynd i Benmorfa i’r Festri yr oedd yr Overseers yn rhoi eu Cyfri i fynu [sic.], eu cyfri heb ei wneud yn barod [Cyfrifiad 1821 efallai?], yn gorfod cyfarfod dydd Sadwrn nesaf o’r achos.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd gwener Diwrnod sych distaw. Neli wedi mynd a gwenith i’w falu i Felin rhyd benllig. Will a Dic yn y Morfa yn Aredig. Sion Jones Pantllwyd yn dechreu [sic.] torri’r ffosydd yn yr hen forfa gwair. Will Sion efo’r lleill yn curo biswail. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad ac yn prynu pump Hobad o Haidd gan Robt.Owen Glanllynau am bedwar swllt ar ddeg yr Hobaid. Gwraig Richd.Griffith Telyrni yma’n talu am Hobad [sic.] o Haidd a Hobad [sic.] o Wenith


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
31/3/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod sych lled oer, Y Meibion yn carrio gwair o Gaegoronw, y lleill yn gorphen curo biswail yn y Morfa, Harri yn palu’r Ardd. Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma wrth ddyfod adref o Ffair Wrexham, ac yn mynd adref efo’r nos. Fi yn mynd i Benmorfa i gyfarfod yr Ofers?rs [sic. overseers] i seinio eu cyfri [Cyfrifiad 1821, efallai?], eu cyfri heb ei wneud yn iawn yn gorfod mynd eilwaith iw wneud erbyn dydd llun i ddwad i’r Cyfarfod Ustusiad [sic.] i Griccieth. Yn cael rheol newydd (new rule) a rhybudd arall oddiwrth Wm.Williams Twrna o Gaernarfon, gan Faili yn Tynllan. Yn cael y Brithylliaid cyntaf eleni.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod dwl lled oer


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Diwrnod dwl lled ddryghinllyd. Will wedi bod yn Towyn yn nol tri phegaid o Geirch llwyd hâd ac yn dwad a’r hâd Glofer adref o Siop Morris Jones y lleill yn gorphen nithio’r Ceirch. Fi yn mynd i Griccieth i’r Cyfarfod Ustusiaid yn cael Notice i’w roi i Sion Griffith Tyddyn Mawr y Pennant am dreth ffordd fawr o’r Wernddwirig [sic.] pan oedd ef yno. Ellis Evans Ty’n y Ffidd [sic. Ffridd?] yn dwad yma i orphen mwsoglu’r ‘Sgubor. Yn malu pwn Haidd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth. Diwrnod dwl tebig [sic.] i ddryghin, Y Meibion yn y morfa yn rhiglo’r ffosydd rhwng y cefna. Owen Humphreys Clenenney yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher. Diwrnod dwl lled oer. Y Meibion yn y morfa yn agor y ffosydd rhwng y Cefna. Bachgen R.Williams y Gôf Tremadoc yn nol arian i’w Dad am weithio. Naw Swllt


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau     Diwrnod oer dryghinllyd. Will a dolur o’i fawd ei law. Will Sion a Harri yn y Morfa yn agor ffosydd y Cefna. Yn darllaw [bragu].  Yn rhoi’r dyrcan felen ifanc i eisda [sic. eistedd] yn y ty bâch ar ddeg o wyâ [sic. wyau].  Morwyn E Griffith Llangybi yn dwad yma yn dwad a plans [sic. planhigion?] bresych, a Llythyr fod John Owen Cefnycynferch wedi marw er chwech o’r gloch y boreu heddyw [sic. heddiw]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd gwener. Diwrnod teg distaw yn y boreu, a gwlaw trwm yn y Prydnhawn. Robt.Hughes y Telyrni yma yn danfon sach i roi Hobad [sic.hobaid] o Haidd. Wm,Jones Fedw bâch yma’n mynd a Hobaid o Haidd i ffwrdd . W Williams a dolur o ei fawd. Will sion a Harri yn y Morfa yn agor ffosydd y Cefna. Fi yn cychwyn chwech o’r gloch y Prydnhawn i fynd i’r Bettws Carnarvon. yn ymdroi yn Beddgelert i osod dwy bedol. William Jones Tyddyn Elen yn dwad o hyd imi rhwng Plas y nant a’r Betws a fi yn mynd efo fo i Dyddyn Elen erbyn hanner nos, Buwch.Bedwel efo’r Tarw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod teg distaw. E.Griffith Llangybi yn dwad i Dyddyn Elen y boreu Wm.Jones yn dwad efo hi a minau i Penrhos i siarad efo Mr.Williams o achos cyfraith Ty’n lôn. fi yn dwad oddiyno adref ac yn ymdroi yn y bettws, gartref rhwng wyth a naw o’r gloch. Dyn o Lanfrothon [sic. Llanfrothen] yma’n nol Hobaid o Haidd i Lewis gwehydd o Lanfrothon [sic.]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod claiar budr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Diwrnod dwl niwlog claiar budr. Elin yn mynd i Langybi at gynhebrwng ei hewyrth Sion Owen. Fi yn mynd i Dremadoc i dorri fy ngwallt. Will wedi bod yn hel treth y ffordd fawr y lleill yn y Morfa yn agor ffosydd y cefna. Robt.David Penaber wedi dwad at Sion Pantllwyd a Pyrs Griffith i dorri ffosydd yn yr hen forfa.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth Diwrnod budr hynod a niwlog. Y Meibion yn y Morfa yn agor ffosydd y Cefna. Fi yn mynd i Langybi i Gynhebrwnhg sion Owen y Cefn. Robt.Jones Trefmadawg [sic. Tremadog] yn dwad efo mi. Dyrcan yn eistedd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher. Diwrnod budr gwlawog hynod. Elin a minau yn dwad adref o Langybi ac yn cael gwlaw trwm


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau. Diwrnod oer budr dryghinllyd, eira ar bennau’r Mynyddau, [sic.] Y Meibion y boreu yn torri Clorenod [tatws?], ac yn y Prydnhawn yn mynd i deilo i Glorenod i ben y bryn coch.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd gwener. Diwrnod oer budr cawodog, Will a Dic yn carrio gwair o Gaegoronw. Harri yn cau clawdd y mynudd [sic.] Ffair yn Tremadoc.  Fi ac Elin yn mynd yno...


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod budr gwlawog oer, ac eira hyd bennau y Mynyddau [sic.] Dic a Will sion yn gorphen teilo penybryncoch. Y Fuwch gynffonwen wedi dwad a llo neithiwr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod sych oer. Sul y Blodeu [sic. blodau] Fi wedi bod yn y llan


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun Diwrnod gwyntog oer, dryghinllyd. E Owen yn mynd adref Y Meibion yn y Morfa yn clirio ffosydd y Cefna. Fi yn mynd efo W.Williams i’r Dremadoc i ymofun [sic.ymofyn] pump Hobaid o Haidd hâd o Glanllynia, yn mynd a’r Stillions [clorian] efo ni iw threio, ac yn mynd a dau o gasgia efo ni i fynd i Gaer i W.Cross gwerthwr (Liquor). Yn gosod Cwtar i Sion Jones i’w gwneud o dan y ffordd sydd yn mynd i’r Hen forfa gwair, am 4s/6d


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth Diwrnod claiar distaw tebig [sic.] i sychu. Y Meibion yn nol llwyth o wair o’r Morfa. Mab Griffith Jones Gelli’r Ynn yma’n nol dau Hobad [sic. Hobaid] o Haidd. Fi wedi bod yn Cynhebrwng William Jones Erwsuran – Yn dechreu llyfnu yn y Caemain. Tywydd gwlyb wedi taflu’n lled bell


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher. Diwrnod teg claiar distaw. Yn gorphen llyfnu’r Caemain. Harri yn agor ffosydd y Cefna yn y morfa. Sion Morris Ty’n y mynudd [sic.] yma yn nol Hobaid o Haidd.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax