Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
26/1/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher  Diwrnod claiar niwlog  ac yn bwrw peth weithiau. Yn mynd i hela efo Ffowler Mr.Gore. Yn dal dwy ysgyfarnog ac yn gweld tair, ac yn ymdroi ynhy R.Thomas  yn cychwyn adref o gwmpas deg o’r gloch y nos. Huwcyn y gwas yn dyfod a’r Ceffyl i fy nôl. Y Meibion yn teilo oddiwrth y Beudy ucha i’r llain hir


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/1/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau  Diwrnod gwyntog dryghinllyd ac yn bwrw gwlaw weithiau yn bur drwm Mam a Betty yn mynd i Bregeth i Erwsuran. Y Mam yn mynd oddiyno i’r Cefncoch a’r gesail. Owain yn mynd i Dremadoc i nôl Mochyn oeddwn yn ei gael gan Harry Owain Tyddynadi. Y Meibion yn teilo oddiwrth y Beudy ucha i’r llain  Huwcyn yn mynd i’r Cwmmawr i ofyn i Wm. Owain ddyfod yma i ladd y Mochyn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/1/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd gwener Diwrnod teg claiar. Yfi yn mynd i Tremadoc i’r Farchnad, yn peri Cyhoeddi y Ffordd fawr o Benygroes i’r Wernddwirig [Gwernddwyryd]ar osodiad wythnos i ddydd llun nesa Y meibion yn teilo oddiwrth y Beudy ucha i’r llain hir ac yn nol llwyth o wair o’r Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/1/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd sadwrn Diwrnod teg claiar. Yn mynd i hela efo Ffowler Mr Gore a R Thomas Penmorfa Y Ffowler yn saethu Cyffylog yn waen Erwsuran, ac un arall ar ben y caeglas yn misio gweld yr un ysgyfarnog yma  yn buta bara chaws yn y Prydnhawn ac yn mynd adref...


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/1/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul  Diwrnod claiar niwlog


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
31/1/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun Diwrnod dryghinllyd ac yn bwrw y rhan amla. Wm Owain Cwm mawr yma yn lladd y mochyn. Will yn dechreu Aredig yn Hendra tyfi a Mam yn dyfod adref o’r Gesail a chennad oddiwrth Mr. Holland imi fynd i Ddolbenmaen i seinio Assessment am dreth y ffordd fawr, yn mynd yno efo Owen Humphreys ...

 


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/2/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth Diwrnod teg distaw ffeind ... Will yn gorphen Aredig Hendra tyfi ac yn mynd i ddechreu aredig i’r llain hir Huwcyn yn chwalu tail. Minau yn gollwng y Buchod allan

 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/2/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher Diwrnod teg lled ddwl ac yn bur glaiar Gwyl fair Newydd ... Wm. Humphrey Hendragwenlliain wedi bod yma yn dal ei Ddafad  Wm Jones Tyddyn Elen yma. Will an Aredig yn llain hir Huwcyn yn gwernclowna

 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/2/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau Diwrnod teg distaw claiar. Y Meibion yn gorphen teilo oddiwrth Feudy ty’n y bwlch ac yn mynd i nol llwyth o wair o’r Morfa. Sion William yn gorphen dyrnu’r gwenith. Y Merched yn hallty’r Mochyn ... Y finau yn mynd i Benmorfa at y Steward (heb ddim neges) ac yn dyfod adref erbyn oddeuty hanner awr wedi un o’r gloch y boreu Will yn dyfod ar Ceffyl i fy nol



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/2/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd gwener Diwrnod teg distaw claiar hynod. Y Meibion yn mynd i nol gwair i Gaegoronwy. Sion William yn sgwrio clawdd rhwng Gwernclowna a’r llain deriadd minau yn mynd i’r Farchnad ar fy nhraed. Yn cael gwlaw trwm wrth ddyfod adref



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/2/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn  Diwrnod claiar distaw niwlog Will yn mynd i Aredig i’r llainhir a’r lleill yn mynd i nithio’r Gwenith. yn dwad i fwrw gwlaw ac yn fudr iawn at hanner dydd. Will yn dyfod at y Ty Will sion Japheth wedi dyfod yma



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/2/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul  Diwrnod niwlog budr iawn yn y boreu ac yn clirio yn deg braf at Hanner dydd  ... cyn hanner awr wedi saith o’r nos daeth y Fuwch ddwydeth a llo ac a fwriodd ei llestr llo minau a’r gweision ai rhoeson yn ei ol yn llwyddianus i Ddechreu yn llwyddianus ac nis gwn etto sut a fydd 10 o’r nos



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/2/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun  Diwrnod lled. Minau yn mynd i Benmorfa i osod y ffordd o ben y groes i Wernddwirig [Gwernddwyryd]. yn ymdroi ymhenmorfa Huwcyn yn dyfod a’r Ceffyl y fy nol ... Y meibion yn gorphen nithio’r Gwenith 



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/2/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth  Diwrnod lled ddryghinllyd yn y boreu. Will yn mynd i Aredig i’r llain hir. Huwcyn yn chwalu tail yn llain hir  gelli wastad. Minau a’r Merched yn puro’r Gwenith  Sion Pantllwyd yma yn cymeryd ffosydd y Morfa i’w torri yn carrio’r Gwenith i’r Ty ddeg hobad a hanner



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/2/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher  Diwrnod dwl teg. Will yn mynd i Aredig i’r llain hir. Sion a Huwcyn efo mi yn rhoi peth yn nhrwyna’r moch ac yn mynd i’r Morfa i ddechreu codi’r brwyn. Minau yn gollwng y gwartheg allan. Sion a Huwcyn yn dyfod ac uno’r polion Ysdol [?] i fynu wrth ddyfod o’r morfa. ... Huwcyn yn mynd i’r Cwmmawr i ofyn Wm.Owen ddyfod yma i ladd y Fuwch y foru. Will yn iro’r Fuwch frech i ladd llau



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/2/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau  diwrnod teg distaw iawn. Wm,Owen Cwmmawr yma’n lladd y Fuwch. Will yn mynd a’r Croen i’r Plasnewydd ac yn Pwyso 66 lbs Huwcyn yn mynd i’r Morfa at Sion William i godi brwyn. ... Gornfelan wedi dyfod a llo tua saith o’r Gloch y boreu



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/2/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd gwener  Diwrnod niwlog budr iawn. Llo yn sal yn y ty mawr o’r Dolur burr[?] minau yn ei waedu ac yn agor y Dolur ar ei gefn ac yn rhoi halen ynddo. gyrru Owain i Dremadoc i nol Phisic iddo. Wm, Owen Cwmmawr yma yn torri’r Fuwch, Howel Owen ac yntau yma yn butta ei ciniaw. minau yn mynd efo’r ddau i Dremadoc i’r Farchnad Sion William yn Plannu pytatws  Will yn mynd i olchi’r Buchod rhag llau minau yn dyfod adref erbyn naw o’r gloch. Porthmyn yn y dref Yn cael gwlaw trwm wrth Ddyfod adref  Y llo wedi marw



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/2/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn  Diwrnod teg Claear brâf  Y fi yn mynd i’r Ty Mawr i waedu’r lloia efo Huwcyn ar ol darfod yn blingo’r llo oedd wedi marw. Will ac Owain yn cario gwair o Gaegoronw Sion William yn codi brwyn yn y morfa  Y Merched yn hallty ag y Fuwch


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/2/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul  Diwrnod lled deg. Yfi wedi bod yn y llan ymenmorfa, wedi dyfod adref yn mynd efo Elin i gerdded i ben blaen y Coed. Yn gweled hesbwrn wedi marw ar Cae main



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/2/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun Diwrnod teg ffeind yn  i Ddol Evan Gethin i edrych am Edward David. Yn galw wrth fynd yn Brithdir a Braichydinas, ac wrth ddyfod adref yn Braich y bib ac yn dyfod adref erbyn naw o’r gloch y nos. Y Meibion yn dwad a gwair o’r Morfa i’r Beudy Newydd ac yn mynd a llwyth o’r hen wair i’r Beudy ucha Sion William yn codi brwyn yn y Morfa. Yr hen wyl fair



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/2/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

5      Dydd Mawrth  Diwrnod teg braf distaw. William Owain yn mynd i Aredig i Wernclowna Huwcyn yn gyrru’r gwartheg allan ac yn mynd at Sion William i’r Morfa i godi brwyn. Sion Jones Pantllwyd yn y Morfa yn dechreu torri’r ffosydd Will yn dyfod at y Ty .wedi torri’r Arnodd. Minau yn mynd at Harry Hughes y Saer Coed i Dremadoc i chwilio am un Newydd ac yn cael torri fy ngwallt Y Meibion yn teilo oddiwrth y Beudy newydd i’r gelli wastad. Owain wedi mynd a Farmer [ceffyl?] i’r Efail ac yn mynd a sofl newydd yno i’w durio



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/2/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

DyMercher[sic.] Diwrnod teg braf wedi rhewi peth a barrigo Harry Hughes yma yn rhoi arnodd newydd i’r Aradr. Y Meibion yn mynd i’r morfa i gario brwyn



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/2/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau Diwrnod teg braf wedi rhewi peth Will yn mynd i Aredig i’r llainhir Wernclowna. Huwcyn a Sion yn y Morfa yn codi brwyn. Yfi yn mynd i Benmorfa i’r Vestry yn ymdroi yn hy [sic.] Richd. Thomas ym henmorfa[sic] Will yn dyfod ar Ceffyl i fy nol yn dwad adref erbyn tri o’r gloch y boreu



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/2/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd gwener Diwrnod teg wedi rhewi peth Will yn Aredig yn wernclowna Huwcyn a Sion yn y morfa yn codi brwyn. yn cael Llythur oddiwrth G.Parry Dolgelley  (alias Parry Bach Penmorfa) ac yn mynd i Dremadoc efo Elin i’r Farchnad Owen Griffith gwas Elizabeth Griffith Langybi yn dwad a chadeiriau Elin yma ac yn mynd a Hobad o wenith adref. minau yn dyfod adref erbyn hanner awr wedi unarddeg or gloch y nos



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/2/1820
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn  Diwrnod teg wedi rhewi’n lled galed. Y Meibion yn y morfa yn carrio brwyn. ... ac yn Siop Morris Jones Tremadoc. Yn cael y Milgi yno gan Thomas William wedi bod yn Glyngowarch yn rhedeg yn erbyn cwn Nanney Wynne Maesneuadd ac wedi eu curo ac yn dyfod adref erbyn naw o’r gloch y nos. Will yn dyfod a’r Tinbrenni a’r Cefndresi newyddion adref  Elizabeth Griffith o Langybi wedi dyfod yma



Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax