Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
19/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau. Diwrnod dwl tebig i ddryghin. Y Meibion yn mynd i Lyfnu’r Caecanol. Harri wedi mynd i’r Morfa at ffosydd y Cefna. Y Meibion ar ol hanner dydd yn mynd i lyfnu’r llainhir. Gwlaw a drychin [sic. drycin] trwm yn y Prydnhawn. Fi yn hau cefn o Wyniwns yn yr Ardd. Y Cywion gwydda yn mynd allan gyntaf.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd gwener. Diwrnod sych clair [sic. claear]. Y Meibion yn carrio y darn o Ddâs y Morfa oedd y gwynt wedi ei daflu, i’r Beudy newydd. Fi yn mynd i Gynhebrwng William Jones Dolwgan  i Lanfrothon [sic.Llanfrothen] , ac yn mynd oddiyno i Benmorfa at Mr.Ellis Jones Dolgelley


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod teg claiar, Y Meibion yn gorphen llyfnu y tir sych erbyn canol dydd. Will a Dic yn mynd ddaliad y Prydnhawn i’r Buarth gwyn i aredig i Golrenod. Harri yn cau clawdd buarth yr hen Erw. Yn trwsio llidiart y mynudd [sic.] Caeglâs. Fi yn codi at Ffa gyntaf eleni


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul y Pasg. Diwrnod teg sych. Dafydd, Baili William Jones yn dwad a llythur [sic. llythyr] yma for Cyfraith Tyn lon wedi ei henill. Fi yn mynd i’r llan. Mary W.Tomas yn dwad yma o Langybi o achos Tynlon


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
23/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun y Pasg. Diwrnod sychwynt oer. Yn hel y mullt [sic. myllt] i’r mynudd [sic.] Thomas Humphrey’r Ynus [sic. Ynys] ddu yma. Yn clywed y GÔG. Will sion yn mynd a’r oga i’r Morfa. W.Williams yn trwsio llidiart y Ty mawr, Dic wedi mynd a Farmer i’r Efail. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Gwylmabsant ac yn dyfod adref erbyn dau o’r gloch.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth Diwrnod budr gwlawog claiar W.Williams yn Aredig i Fwytatws [sic. tatws] yn y Buarth gwyn, ac ar ol hanner Dydd yn mynd i Aredig yr hen dir bytatws [sic. tatws] i Hendratyfi , Siani a Wil sion yn hel Cerrig yn Cae’r hendra. gwres brâf yn y Prydnhawn. Owen Roberts Porthmon yn galw yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher. Diwrnod gwresog mwll. Will yn Aredig yn Hendra tyfi Y Gwartheg hespion yn mynd i Gaegoronw. Wil sion, Dic a Siani yn hel cerrig yn Cae’r hendra. Yn hau ac yn llyfnu Hendratyfi. Mwll iawn yn y Prydnhawn ac yn Taranu yn bur drwm. Harry Edward Hendrasela yn mynd a cheirch hâd oddiyma adref Hobad [sic.] a Thri Hanner Telaid


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau. Diwrnod gwresog mwll. Yn dechreu llyfnu Ceirch llwyd yn y Morfa. Fi yn mynd i Benmorfa i’r Festri ar fy nhraed, Yn dwad yn Fellt ac yn Daranau trymion anghyffredin, yr oedd y Mellt yn sefyl [sic. sefyll?] yn oleu am amser ac y gallasid dal sulw [sic.] ar riwbeth[sic.] ac yn hynod o aml Will yn dwad a’r Ceffyl i fy nol adref o Siop Morris Jones gartref erbyn unarddeg o’r gloch y nos


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener Diwrnod mwll, dwl claiar. Y Meibion yn y Morfa yn llyfnu ceirch llwyd. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad ac yn dwad a Weather Glass adref o Siop Morris Jones


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod niwlog mwll claiar. Y Meibion yn planu Bytatws [sic.] yn y Bryncôch. Harri yn y Morfa yn glanhau y rhycha  Mr.William Jones Tyddyn Elen yma yn ei Frecwest [sic. frecwast] wrth ddyfod adref o Sesiwn y Bala  Doctor Edwards Tremadoc yma’n yfed tê y Prydnhawn. Fi yn cael Esgidia newyddion oddiwrth Richard Robert Crydd Tremadoc


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod teg claiar tarth tebig [sic.] i sychu, teg brâf yn y Prydnhawn. Elin a minau wedi bod ar ben bwlch y moch ar ol Ciniaw


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/4/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun. Diwrnod teg mwll. Yn troi y Defaid i’r Mynudd [sic.] ac yn marcio unarbymtheg a thriugain o Wyn...Y Meibion yn mynd i’r Morfa i ddechreu llyfnu Haidd ...


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/5/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth. Diwrnod teg sych. Meibion yn y morfa yn llyfnu Haidd. W.Williams yn dechreu hau hâd Glofer yn y Morfa. Fi yn mynd i Dremadoc i brynu hâd gwair iw roi yn Hendratyfi. Mam wedi mynd i’r Gesail


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/5/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher. Diwrnod teg sych distaw, Y Meibion yn gorphen llyfnu’r Haidd yn y morfa.Will sion ddaliad y Prydnhawn yn y Morfa yn llyfnu hâd Glofer, ar ddau arall yn y buarthgwyn yn llyfnu tir Bytatws [sic.tatws], Elin yn darllaw [bragu] diod fain


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/5/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau. Diwrnod dwl sych claiar. Wil yn gorphen hau hâd glofer yn y morfa ac yn hau had gwair yn hendratyfi  Wil Sion yn llyfnu’r hâd yn y morfa. Dic a Siani yn gorphen llyfnu’r tir Bytatws [sic.] yn y buarthgwyn  W.Williams yn dechreu Teilo yno ddaliad y Prydnhawn. Fy nghefnither [sic. nghyfnither] , Mary Williams Caeddafydd yn dwad a dwsin o Frithylliad llyn Gwynant yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/5/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener. Diwrnod sych claiar. W.Williams yn teilo i Fytatws [sic.] i’r Buarth gwyn y lleill yn planu Bytatws yn y Bryncoch. Yn gosod clawdd i Sion Jones iw wneud ar draws yr hen Forfa gwair oddiwrth y Pistill du i ffôs yr hen glawdd gwrysg. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/5/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod sych claiar. W.Williams yn teilo i’r buarth gwyn i Fytatws [sic.] Y lleill yn planu Bytatws [sic.] yn y bryncoch, tebygu i ddryghin trwm yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/5/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod dwl gwyntog lled oer ac yn bwrw ambell gawod led oer.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/5/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd llun Diwrnod gwyntog dryghinllid [sic.] Y Meibion yn rhychu Bytatws [sic.] yn Buarthgwyn, Fi yn mynd i Griccieth i gyfarfod Ustusiad [sic.] o achos bod Sion Griffith Tyddynmawr y Pennant yn naccau talu treth ffordd fawr er yr amser yr oedd yn dal Gwernddwirig [sic.]...


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/5/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mawrth. Diwrnod teg distaw. Y Meibion yn plannu Bytatws [sic.] yn y Buarth gwyn. Fi yn mynd a’r dyrcan efo ei chywion i Gae’r hendra gynta, Mr.Owen Aberglâslyn yn galw yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/5/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Mercher. Diwrnod sych lled wyntog. Y Meibion yn gorphen planu Bytatws. Fi wedi bod yn hel treth ffordd fawr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/5/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd iau. Diwrnod dwl lled wyntog. Will Sion, Dic a Siani yn y Ty mawr yn hel Cerrig. Mam wedi mynd i Dy’r Gwehydd i Lanfrothon [sic.]


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/5/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Gwener. Diwrnod dwl claiar budr. Y Meibion yn Maencloi clawdd Mynudd [sic.] Tymawr. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/5/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl lled glaiar. Y Fuwch ddwydeth wedi dwad a llo neithiwr. Y Meibion yn nol gwair o Gaegoronw i’r Beudu [sic.] newydd Fi efo W.Williams yn gwneuthur Cwtar yn y Morfa. Yn mesur y Ffosydd a’r Clawdd yn y Morfa. Y ffosydd ar draws y Morfa yn 250 o Rydau, y Clawdd yn 13 o Rydau a 6 Llath Y ffôs efo’r Ffordd yn 29 o Rydau.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/5/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sul. Diwrnod dwl oer. ychydig o eira ar bennau’r Mynyddau [sic.mynyddoedd] Cawodydd oerion ac ambell gawod Genllysg


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax