Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
14/5/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod lled oer ac yn bwrw ambell gawod oer. Fi yn mynd i Ffair Bwllheli ac yn dyfod adref erbyn unarddeg o’r Gloch y nos. yn cael gwlaw trwm. Siani wedi bod a phwn o Haidd yn y Felin isa yn ei Falu. Yr Helm Wenith i fewn
|
15/5/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod budr oer ac eira mawr hyd bennau yr mynyddau [sic.] Ffair y Mhenmorfa [sic.] Fi yn cyflogi dau o’r Gweision cyn iddyn fynd i’r Ffair. Yn Cyflogi y gwas arall yn y Ffair
|
16/5/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod teg sych. Mr.Richd.Williams Twrna o Gaernarvon a Mr.Roberts Caeathro a Mab Graianog yn dwad yma cyn imi godi o fy ngwelu [sic.gwely], ac yn yfed Pottel [sic.potel] o Gin rhyngom ein pedwar
|
17/5/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod teg distaw claiar. Will Sion a Dic yn carrio Gwair o Gaegoronw i’r Beudy newydd. Fi yn gosod Ty y Caeglâs i Sion Jones, Pantllwyd iw drwsio am bumswllt ar hugain.
|
18/5/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod sych lled oer. W.Williams yn mynd a Chlwydaid o Geirch i’r Odyn. Neli y Forwyn yn ymadael. Will Sion a Dic yn hel Cerrig yn Cae’r Hendra. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad Y Forwyn newydd yn dwad i’w lle
|
19/5/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn Diwrnod sych teg. Wil Sion a Dic yn carrio Gwair o Gaegoronw i’r Beudy newydd. W Williams yn Cau yn y Morfa. Harri Edward yn gorphen dyrnu’r Gwenith.
|
20/5/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod clir teg
|
21/5/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod sych oer. Y Meibion yn y Reiniog yn lladd mawn Fi wedi bod yn Dremadoc. Sion William mab Merthyr yn dwad yma gyda’r nos ac yn cysgu yma
|
22/5/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod sych oer. Yn troi y pedwar Eidion i’r Morfa ucha i borfa. Yn nithio ac yn dechreu puro’r gwenith Mr.Owen Aberglâslyn yma yn nol ei wnn [sic. wn, gwn], a’r Cwn yn aros yma ar ei ôl o. Fi yn saethu llygoden yn y Sgubor. Hugh Griffith Ynuspandy [sic. Ynyspandy], Cigydd yn danfon pen llo yma. Yn troi y Buchod i’r Borfa
|
23/5/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod sych oer. Y Ddau Will yn mynd i Gaegoronw i ddechreu lladd mawn. y lleill yn gorphen puro’r Gwenith. Harry Edward yn ymadael. Y Gwartheg Hespion yn mynd i Hafod y budredd
|
24/5/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod oerllyd ac yn bwrw ambell gawod oer. Y ddau Will yn caegoronw yn lladd mawn. Fi wedi bod yn Pwllheli yn y Correcsiwn, yn ymdroi peth yn Criccieth gartref erbyn deg
|
25/5/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener Diwrnod gwyntog oerllyd iawn ac yn bwrw eirwlaw oer yn y Prydnhawn. Y ddau Will yn gorphen lladd mawn yn Caegoronw Cwn Mr.Williams y Twrna yn dwad i’r Foelddu ar ol Llwynog, ac yn ei ladd yn naear Pantllwynderw . Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad
|
26/5/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn Diwrnod cawodog oerllyd ac eira mawr hyd bennau’r mynyddau [sic.] y gwres fesurydd (Thermometer) cyn ised a 49 o raddau [9.4C ?]. Cawodydd trymion o Genllysg yn cuddio’r ddaear yn y Prydnhawn. Fi efo’r Meibion yn rhoi carreg i ddal derbyniad clic^ed [sic.] llidiart adwy’r ffordd Dic wedi bod a Jack yn yr efail. Yn gyrru’r lloia allan gyntaf eleni Harri Edward Hendrasela yma yn settlio [sic, setlo] ei gyfri am ddyrnu a gweithio wrth y dydd.
|
27/5/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod oer ac eira mawr, yn isel hyd y mynyddau [sic.] oerach heddyw na doe[sic.]
|
28/5/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod lled glaiar wedi bwrw cawodydd rai. Will Sion a Dic yn dechreu carrio Mawn o Gaegoronw. Fi efo W.Williams yn gwneud darn o glawdd yn yr adwy sydd yn mynd i Forfa trwyn y Garreg. Un o’r Heffrod wedi dwad a Llô ar ben y Caeglâs
|
29/5/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod sych lled oer. Y ddau Wil wedi mynd i’r Felin i Silio. Dic wedi mynd i Benamser i nol hanner Hobad o Frâg. Denbi wedi dwad ac ebolas bâch...
|
30/5/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd MercherDiwrnod sych lled fwll cymylog. Wm.Owen Cwm mawr yma yn yspaddu’r Ebol, ac yn lladd y Mochyn Dic a Wil yn carrio mawn o Gaegoronw. Yr Heffer wedi dwad a Llô. Yn darllaw [bragu] diod fain. Yn prynu chwech o gywion ieir am ddau swllt a dau am swllt
|
31/5/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. y Derchafael [sic. Dyrchafael] Diwrnod sych oer. Fi efo’r Meibion yn torchi defaid barus [sic. Rhoddid torch o wellt, rhwymyn, rheffyn i glymu dau anifail wrth ei gilydd olygai na fedrai y rhain byth neidio clawdd na stwffio drwy fwlch mewn gwrych neu wal tra yn sownd yn ei gilydd.
|
1/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod dwl claiar tebig [sic.] i wlaw. Wil a Dic yn carrio mawn o Gaegoronw. Wil Williams yn chwalu’r hen Hoewal. Lewis Thomas Cae’r Ferch yma. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad. Elizabeth Williams Carleg y Ty yma yn mynd a Thelaid o Wenith i ffwrdd
|
2/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod teg mwll iawn.tebig [sic. tebyg] i Daranu, Dic wedi bod a Captan yn yr Efail, ac yn mynd ar ol dwad adref i garrio mawn o Gaegoronw. Mr.Owen Aberglâslyn yma. Yr Heffer wedi dwad a llo. Lowry Owen Hendragwenllian yma. Robt.Griffith y Saer yma Fi efo Wil Williams yn cau bwlch yn clawdd y Mynudd [sic.] tu ucha i Gorlan Panthir.
|
3/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod dwl mwll a gwlaw trwm claiar yn y Prydnhawn. Dic yn mynd a’r Ceffyl i gyfarfod fy Mam oedd wedi mynd i Gapel Tremadoc i Bregeth.
|
4/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod dwl mwll ac yn bwrw gwlaw mân yn y boreu. Will Williams yn chwalu Beudy’r hendra, y ddau arall yn gorphen carrio mawn o Gaegoronw. Nai Mr.Williams Towyn yma’n bwyta ei giniaw
|
5/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod lled ddwl claiar ac yn bwrw ‘chydig yn y Prydnhawn. Fi yn mynd i Aberglaslyn erbyn wyth o’r gloch y boreu at Mr Owen i bysgota i Lyn Dinas. Y fo yn dal pump, fina heb ddal yr un Wil Williams yn dechreu tynu [sic.] cerrig o Feudy’r hendra at y Houwel [sic. Hoewal] y ddau arall yn mynd i gaegoronw i hel cerrig, ac yn y Prydnhawn yn dechreu palu thwng bytatws [sic.] yn y Bryncôch. Y Buchod yn mynd i’r Morfa.
|
6/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod lled ddwl claiar ac yn bwrw ‘chydig yn y Prydnhawn. Fi yn mynd i Aberglaslyn erbyn wyth o’r gloch y boreu at Mr Owen i bysgota i Lyn Dinas. Y fo yn dal pump, fina heb ddal yr un Wil Williams yn dechreu tynu [sic.] cerrig o Feudy’r hendra at y Houwel y ddau arall yn mynd i gaegoronw i hel cerrig, ac yn y Prydnhawn yn dechreu palu thwng bytatws [sic.] yn y Bryncôch. Y Buchod yn mynd i’r Morfa.
|
7/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod teg claiar. Robt.Sion Hendrahowel yn dwad yma i ddechreu gwneud yr Houwel [sic.hoewal]. Robt.Griffith y Saer Coed yn dwad yma, y lleill yn palu rhwng y bytatws yn y Bryncoch
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|