Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
8/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod dwl wedi lled oeri, a bwrw peth gwlaw neithiwr Robt.Griffith a Robt.Sion yma. Fi yn mynd i Tremadoc i’r Farchnad, ac yn dwad a llyfr newydd o waith P.B.Williams
|
9/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn Diwrnod dwl oer iawn ac yn bwrw ambell gawod oer. Robt.Griffith a Robt.Sion yma Wil Sion yn tynu [sic.] Cerrig Dic wedi bod yn y Morfa mawr yn nol y Cefylau [sic. ceffylau]. Eira ar bennau’r Mynyddau!!! [sic.]
|
10/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod sych oer iawn. Fi wedi bod yn Llan y Sulgwyn.
|
11/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun y Sulgwyn. Diwrnod dwl lled oer. Y pedwar Eidion a’r Dynewid gwerthu yn mynd i’r Henerw. Y chwech Bustach arall yn mynd i flaen y Coed. Y Gwartheg hespion yn mynd i Gae’r hafodty [sic.] a’r Dyniewid [sic.] yn mynd i’r Caeglâs. Siani Griffith wedi mynd i Griccieth i’r Cyfarfod Calfiniad. Yn gosod y Degwm blith [degwm y stoc anifeiliaid] yn Nhy Arthur Hughes Penmorfa, Robt.Sion Hendrahowel yn mynd yno i dalu am y Degwm Yd. Y pedair Dynewad gwerthu yn mynd i Flaenycoed ar Dynewid eraill yn mynd i’r Caeglâs yn tynu Bytatws newyddion gyntaf eleni [Naw wythnos ar ôl ‘…torri clorenod…’ ac ‘…i deilo i Glorenod yn ben y bryn coch’ ar 12 Ebrill 1821].
|
12/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod sych lled oer. Robt.Sion yma a Robt.Griffith yn dwad hanner dydd. Wil Sion yn tynu [sic.] Cerrig. Dic wedi bod a Farmer yn yr Efail. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Cyfarfod blynyddol Bibl Gymdeithas. Gwraig Sion Hugh Drwsyrymlid yn dwad yma ac yn disgwyl Sion Hugh yma ar ei hol, ynteu heb ddyfod.
|
13/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod sych teg Robt.Sion a Robt.Griffith yma Dic wedi mynd a thri hanner Telaid o Wenith i Felin Rhydbenllig iw falu Wil Sion a Siani yn Caegoronw yn codi mawn. Sion Hugh Drwsyrymlid yn dwad yma i orphen talu ei Ardreth. Yn rhoi’r Dyrcan i eistedd Fi yn saethu Llygoden ffreinig [sic.] wrth y Pistill [sic. pistyll].
|
14/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod sych teg. Yn cneifio torra [sic. torrau, boliau] ac yn nodi un arddeg a thriugain o Wyn, ac yn marcio naw. Yn marcio ugain o Fyllt at eu gwerthu a Maharen, Wil Sion a Dic yn dechreu palu rhwng bytatws yn y Buarth gwyn. W.Williams yn tynu [sic.] cerrig. Robt.Griffith yma
|
15/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener Diwrnod distaw gwresog. Robt.Griffith a Robt.Sion yma Wil, Dic a Siani yn gorphen codi mawn Caegoronw. Fi yn mynd i Dremadoc i’r Farchnad, yn Siarad efo Harry Owen am ddwad yma i brynu’r Defaid
|
16/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn Diwrnod distaw gwresog iawn. Y Meibion yn mynd y boreu i hel y Defaid. Harry Owen yn dwad rhwng saith ac wyth o’r gloch y boreu ac yn prynu ugain o Fyllt am ddeuddeg swllt y pen, yn eu golchi nhw yn y Pistill [sic. pistyll] wrth y Ty, a Wil Sion a Dic yn eu danfon i Dyddynadi...
|
17/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod distaw gwresog iawn. Robt. a Thomas Llangybi yn dwad yma ar eu Traed, wedi cael eu danfon yn agos i Benmorfa
|
18/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod distaw gwresog . Yn hel y Defaid ac yn eu golchi, Griffith Griffiths Taltreuddyn a Silvanus Jones Caegwyn yma yn yfed Tê. Yn gwerthu Ceffyl a Merlan i Silvanus Jones ac i fynd i ffwrdd ddiwrnod ffair Griccieth. Soseidd [sic. Seiat?] fisol yn y Penrhyn
|
19/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd mawrth Diwrnod distaw gwresog. Yn Cneifio’r Defaid Edward Owen y Degymwr yn codi y Degwm gwlan ac finau yn Cymeryd y cwbl arall am bumdegchwech o Sylltau yn yspaddu trideg saith o Wyn a thri o Hesbyrniaid. Yn cwplysu’r Maheryn [sic. meheryn] ac yn eu gyru [sic.] i allt y Tymawr. Yr Wyn oll i’w wyth deg un
|
20/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod dwl distaw yn tebygu i wlaw. Dic wedi mynd i’r mynudd [sic.] i chwilio am ddefaid gwlanog, y lleill yn palu rhwng Bytatws [sic.] . Y Buchod yn mynd i flaen y Coed. Fi yn yspaddu chwech o’r lloia gwrrywiad [sic. gwrywaidd?]. Mam wedi mynd i Gae’r Eithin tew i ddanfon anrheg at wylnos Griffith Jones oedd wedi marw ddoe, Dic wedi mynd i nol tri ugain pwys o Halen.
|
21/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod dwl sych claiar. Ffair yn HARLECH. Robt. Sion yma efo’r Hoywel [sic. Hoewal]. Sion Morris yma efo’r lleill yn palu rhwng bytatws
|
22/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod dwl sych claiar. Robt.Sion yma. Robt.Griffith ac Evan James yma’n Llifio. Y Meibon [sic. meibion] yn gorphen palu rhwng bytatws ac yn dechreu codi attynt [sic. atynt] Fi yn mynd i GYNHEBRWNG Griffith Jones Cae’r Eithintew i Benmorfa
|
23/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Sadwrn. Diwrnod gwresog mwll. Y Meibion a’r Merched yn Reiniog [sic. Ereiniog?] yn gwneud mawn. W.Davies Cerrig y pryfaid yn dwad a rhybudd imi o Frynkir i fynd i gyfarfod y Cyrnol Parry ynghylch y ffordd fawr, yn eu cyfarfod hwy yn ymyl Brynkir ac yn dwad efo hwy yn eu Cerbyd hyd at y ffordd newydd Gwernddwirig yn Ciniawa yn nhy Richd.Thomas Penmorfa. gartref erbyn deg. J Hugh Drwsyrymlid yma)
|
24/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod gwresog mwll.
|
25/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod sych oer. Y Meibion yn gwneud Mawn Caegoronw ucha. Fi yn mynd i Dremadoc i brynu deunyddd Siecad [sic. siaced] a throwsis [sic. trowsus]. a Griffith Jones Tailwr [sic. teiliwr] yn dwad efo mi yma. W.Williams yn dwad a benthig [sic. benthyg] gwialen bysgotta [sic. bysgota] (genwair) oddiwrth Mr.Owen Aberglâslyn imi. Robt.Griffith yn coedio’r Hoewal
|
26/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod sych dwl oer, Wm.Williams a Dic wedi mynd i Frondanwydd i nol hanner Mil o lechi toi at yr Hoewal y lleill yn palu rhwng bytatws, Robt.Griffith a Robt.Sion yma efo’r Houwel [sic.]. Griffith Jones y Tailiwr [sic. Teiliwr] yma. Fi yn mynd i Benmorfa i’r Festri
|
27/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod sych gwresog. Y Meibion yn gorphen gwneud Mawn Caegoronw isa. Robt.Griffith a Robt.Sion yma yn Parottoi [sic. paratoi] llechi i doi’r Houwel [sic. hoewal]. Fi wedi bod ^ Maentwrog
|
28/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod sych gwresog Wm.Williams a Sionun yn gwneud rhaffau rhawn. Dic wedi bod a phwn o Haidd yn y Felin. y lleill yn ail godi at y bytatws. Mr.Owen Aberglâslyn yma yn ymdroi yn y Prydnhawn
|
29/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod sych gwresog. Ffair yn Criccieth. Fi yn mynd yno. Y Ceffyl a'r Ferlan oeddwn wedi eu werthu yn mynd i Dremadoc i gyfarfod y Ceffylau eraill i fynd i ffwrdd. yn cael arian yn eu lle yn Criccieth. yn cyflogi Pladurwr yno am swllt y dydd Robt.Sion yn diwedd toi yr Houwel [sic. hoewal]
|
30/6/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd S^adwrn [sic.]. Diwrnod sych gwresog yn y boreu. yn dylu ac yn tebygu i wlaw yn y Prydnhawn. Fi yn mynd i Dremadoc ar ol Ciniaw ac yn prynu dwy Bladur newydd. Yn cyflogi Jonet Griffith Bwlch moch i ddyfod i’r Cynhauaf [sic. cynheuaf] gwair dros fis am wyth geiniog y dydd...
|
1/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Gwlaw lled drwm yn y boreu. Teg at y Prydnhawn. Gwraig Dafydd tan yr Ogôf [sic.] yn danfon Llythur [sic,] yma oddiwrth Mr.William Jones Tyddyn Elen
|
2/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod dwl mwll. Sion Hugh a Sion Morris yn dwad yma yn llifo’r Pladuriau Yn mynd ar ol brecwast i Gaegoronw i ddechreu ar y GWAIR. W.Williams a dolur y nghamedd ei arr* [sic.ar, gar] yn misio mynd. William Robert y MARCHOGWR yn dwad yma at yr Ebol melyn. Elizabeth Griffith Llangybi yn mynd adref. Ellis Evans y Pladurwr yn dwad yma yn y Prydnhawn [*Mae 'camedd y gar' yn GPC (gall 'gar' fod yn wrywaidd neu'n fenywaidd). Yr ystyr yno yw 'bend of the knee, ham'. Rwy'n credu y gall 'gar' gyfeirio'n benodol at gefn y ben-glin (bu Ann Parry Owen yn trafod y term yn ddiweddar mewn darlith ar John Jones Gellilyfdy). https://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?camedd_gar Dylan Foster Evans]
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|