Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
3/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod sychlyd lled oer. Y Meibion yn lladd gwair yn Caegoronw...
|
4/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod sychlyd gwresog . Y Meibion yn lladd gwair yn Caegoronw.Sioned Griffith Bwlchymoch yn dwad yma i aros dros fis y Cynhauaf [sic.] gwair...
|
5/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod tebig iawn i wlaw yn y boreu ac yn mynd yn deg at y Prydnhawn. Y Meibion yn carrio gwair Caegoronw uha [sic. Ucha] Fi yn mynd i Langybi ac i edrych Tynlôn, Owen Thomas y Morfa bychan yn dwad yma i liwio’r Parlwr a’r llofftydd
|
6/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod dwl ac wedi bwrw peth gwlaw yn y boreu Y Meibion yn lladd gwair yn Caegoronw isa. Mam wedi mynd i’r Farchnad. Fi gartref! gwlaw yn y Prydnhawn
|
7/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl distaw teg. Y Meibion yn gorphen lladd gwair Caegoronw isa, ac yn dwad ar ol Prydnhawnbryd i’r Tymawr i ddechreu lladd gwair...
|
8/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod sych gwresog. Cyfarfod Ysgolion Sabothawl [sic. Sabothol] yn Nhref Madog [sic. Tremadog]
|
9/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod dwl sych. Y Meibion yn lladd gwair yn y Tymawr y boreu, ac yn mynd o gwmpas deg o’r gloch i Gaegoronw isa i dyrru’r gwair ac yn ei gario i gid [sic. gyd] cyn y nôs. Mr William Jones Tyddyn Elen a John Prichard Bronmiod yma yn yfed Te y Prydnhawn ... Owen Tomas [sic. Thomas] y lliwiwr yma
|
10/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dwl sych. Y Meibion yn gorphen lladd gwair y Tymawr ac yn dechrau lladd gwair yn y Morfa -Fi yn mynd i Benmorfa i’r Festri
|
11/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod lled ddwl sych Y Meibion yn lladd gwair yn y morfa, yn mynd ar ol Ciniaw i droi gwair y Tymawr Cathrine Humphrey Borth y gêst yn dwad a Physgodyn yma
|
12/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Gwres mawr iawn yn y boreu ac yn cymylu at hanner dydd. Cennad yn dwad yma oddiwrth G Griffiths y Gesail i ofyn a gae [sic.gai) Owen Thomas fynd i wydro Ffenestr mewn brys. Y Meibion yn lladd gwair yn y Morfa y boreu, ddeg o’r gloch yn mynd i’r Tymawr ac yn carrio ei wair i gid [sic. gyd] cyn nos. Cynhauaf [sic. cynhaeaf] da anghyffredin.
|
13/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod dwl ac yn gwlitho peth yn y boreu gwres yn y Prydnhawn. Tri o’r Meibion yn mynd ar ol Ciniaw i Gaegoronw i wneud pen y dâs gwair. y lleill yn tyru gwair yn y Morfa Fi heb fynd i’r Farchnad! rhai Cywion dan y Dyrcan
|
14/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod gwresog hynod. Y Meibion yn gorphen lladd gwair y Morfa cyn brecwest [sic.]. Wm.Williams a Sion Morris yn torri anialwch i’w roi tan y dâs gwair, y lleill yn troi gwair yn y morfa. Yn dechreu ei garrio ddeg o’r gloch. Sionun wedi bod ar Picffyrch yn yr Efail yn eu blaenllymu Yn Tapio’r Balir [sic. baril?] Cwrw William Robert y MARCHOGWR yn mynd i ffwrdd ac yn cael padwar swllt ar bymtheg am bythefnos. Yn dwad i wlitho ‘chydig y P[sic.] bump o’r gloch y Prydnhawn. Yn diwedd cario gwair y ddau forfa cyntaf.
|
15/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod dwl ac yn lled fwrw peth gwlaw. Dydd gwyl Swithin, Dywediad ein hynafiaid am yr wyl hon, ydyw, mai yn gyffelyb y byddai’rhin [sic. byddai’r hin] ar y dywededig wyl, y byddai am ddeugain Diwrnod ar ol
|
16/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod sych teg. W.Williams a Sion Morris yn tynu darn o Ddâs y Morfa, wedi bod cyn brecwest [sic.brecwast] yn dechrau lladd gwair Dâs y Beudy newydd. Yn lladd gwair Hendratyfi a Buarth tair derwen a darn o Gae’r Hendra.
|
17/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod distaw dwl mwll. Y Meibion yn lladd gwair yn Cae’r Hendra hyd hanner awr wedi un o’r gloch, ac yn mynd wedi hynny i Dyrru, ac i garrio [sic.] gwair y morfa bach, Diwedd carrio [sic.] gwair y Morfa, Fi yn mynd ar ol Prydnhawnbryd i roi tro ar yr Ebol i goffau iddo ei arferiad neu ei ddysg gan y Marchogwr ac yn ymdroi ‘chydig efo Mr.Owen yn Aberglaslyn...
|
18/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod distaw dwl mwll. Elizabeth Griffith Llangybi yn mynd i Gaernarfon. Y Meibion yn gorphen lladd gwair Cae’r Hendra, ac yn lladd gwair y Buarth gwyn, a’r Gelliwastad. yn tyrru gwair Hendratyfi a buarth tair derwen. Gwres mawr yn y Prydnhawn Mam yn lled sal, finna yn gollwng gwaed arni. Yn trwsio Carr [sic. car] llysg oedd wedi torri, yn dechrau lladd gwair Caelleppa
|
19/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod gwresog iawn ar ol wybr goch yn y boreu Y Meibion yn dechreu troi gwair Cae’r Hendra ar ol brecwest [sic.], yn carrio gwair Hendratyfi, Cae’r Hendra. y buarth gwyn, a’r buarth tair derwen Hugh Griffith.Druggist Carnarvon [sic.] a Robt.Roberts. Custom House yr un lle yn dwad yma. Fi yn mynd efo hwy i Dremadoc ac i’r Towyn, ac yn dyfod yn ol yma wedi meddwi yn lled drwm, yn cysgu yma’r noson YN CORONI’R BRENHIN George y Pedwaredd
|
20/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod dwl mwll lled wyntog. Y Meibion yn diwedd lladd gwair y Caelleppa, ac yn mynd i dddechreu lladd gwair Wernclowna. W.Williams yn mynd efo dau o’r Meibion i yru’r [sic.] Mwdyla [sic. mydylau] gwair i’r Tygwair Tymawr. Hugh Griffith a Robt.Roberts yn mynd i ffwrdd, Owen Thomas y Lliwiwr yma yn settlio [sic.] am Baintio [sic. baentio] yn talu iddo am ei waith ddau swllt yn y dydd am ei werth bythefnos a dwy bunt a thri swllt a naw ceiniog am liw ac olew, a gwydr ar Gwpr Llyfra yn y Parlwr
|
21/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod teg gwresog W.Williams efo dau o’r Meibion yn mynd ar ol brecwest [sic.] i drwsio dâs y Morfa a’r lleill yn mynd i droi gwair y Gelli wastad a’r ddau Gaelleppa. yn ei garrio i gid [sic.] cyn y nos a hynnu [sic.] yn ddiwedd Dâs y Beudy newydd. Y cnwd yn hynod anghyffredin o fychan. Fi yn mynd i Dremadog. Mr.Williams Benar Steward yno mewn cyfarfod ynghylch cau y Morfa bychan. Siotig [wedi] dwad a llo
|
22/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod dwl gwyntog ar ol Dryghin lled drwm neithiwr. Mr Owen Aberglâslyn yma
|
23/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod dwl mwll cymylog tebig [sic.] i fwrw Cawodydd Sion Hugh ac Ellis yn mynd cyn brecwest [sic.] i gau bwlch yn clawdd Mynudd [sic.] Tymawr, yn mynd wedi hynnu [sic.] i hel to at Ddâs gwair Cae goronw. W.Williams a Sion Morris yn gwneud pen Dâs y Morfa ar ol darfod yn mynd i gau o ei gwmpas. Sionun wedi bod a Captan yn yr Efail
|
24/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dwl ac ^ bwrw rhai Cawodydd lled drymion yn yr hwyr. Griffith Jones Gelli’r Ynn yn dwad yma’r boreu Finau yn mynd efo fo i Gyfarfod yn achos y Mynyddoedd oedd yn cael ei Gynal [sic. gynnal] yn yr Abermaw. Yn dwad y noson i’r Ty Cerrig Ynus [sic.] Llanfihengel [sic. Llanfihangel] y Traethau. W.Williams a Sion Morris a Dic yn Toi Dâs gwair Caegoronw.y lleill yn gorphen Cae o gwmpas Dâs y Morfa ac yn hel To atto [sic.]. Gwragedd o’r Abererch yma yn prynu gwlan
|
25/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod dwl lled wyntog Fi yn dwad adref Y Meibion yn lladdd gwair Cae ty coch ac yn dechreu lladd gwair y Weirglawdd [sic. weirglodd] ucha. W.Williams sion Morris a Dic yn mynd yn y Prydnhawn i gau clawdd y mynudd [sic.]
|
26/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod sych gwyntog. Y Meibion yn lladd gwair yn y Weirglawdd [sic.] ucha yn y boreu, Yn troi ac yn tyrru gwair Gwernclowna a gwair Cae ty coch ac yn dechreu eu tyrru, yn dwad yn gawod drom at ddau o’r gloch y prydnhawn ac yn parhau yn gawodog hyd yr hwyr
|
27/7/1821 | |||||||||||||||||
Fron Olau, Penmorfa | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod dwl lled wyntog. Y Meibion yn diwedd lladd gwair y Weirglawdd [sic.] ucha. W.Williams, Sion Morris a Wil Sion yn gwneud pen Dâs y Morfa, y lleill y [sic.] mynd i hel gwrysg i roi pleth ar y clawdd rhwng y Morfa Yd a’r Morfa pella. Yn dechrau toi Dâs y Morfa, Fi yn mynd i’r Farchnad
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|