Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
28/7/1821
Fron Olau, Penmorfa
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon)

Dydd Sadwrn. Diwrnod teg distaw. Y Meibion yn gorphen toi Dâs y Morfa, a’r lleill yn gorphen rhoi pleth ar glawdd y Morfa. Yr Ebol dwyflwydd (oedd Robt.Thomas Caecoch wedi ei bryni [sic.brynu] i mi gan Ann o’r Gell) yn syrthio yn y lle cul wrth Gorlan y panthir ac yn stopio y nghanol [sic.yng nghanol] y rhedyn uwchben y ffordd ac yn mynd ddarn o’r ffordd i fynu [sic.] yn ei ol yn ail syrthio ac ^yn stopio agos yn yr unll [sic. un lle?], ac yn mynd yr ail dro i fynu [sic.] i ben y tir!!! heb ond ‘chydig o friwiau nis gwyddom etto [sic.] pa faint ei ysigdod. Bachgen Richd.William y Gôf yma yn nol arian i’w Dad am weithio. Yn carrio gwair y Weirglawdd [sic.] ucha Caetycoch a gwernclowna. Sion Hugh a Sion Morris yn ymadael Diwedd cael y Gwair,  parhad y Cynhauaf [sic.] ydoedd Mis...


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Brenda Jones
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/7/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul. Diwrnod dwl distaw mwll.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
30/7/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun Diwrnod budr niwliog ac yn bwrw gwlaw lled drwm ganol dydd. Ellis Evans yn mynd ar ol brecwast at Robt y Gorllwyn i gau, y lleill yn cau bwlch y nghlawdd pen isa'r Mynudd, yn mynd ar ol Prydnhawnbrydd i dori anialwch i Fuarth yr hen Erw. Elin yn mynd efo Elizabeth ei chwaer i Langybi.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
31/7/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mawrth. Diwrnod dwl niwliog. Fi yn mynd efo Robt. Sion Hendrahowel at y llyn du i bysgotta, fo yn dal pedwar, fi heb ddal yr un Fi yn mynd efo William Sion Prenteg i osod y Gwtter wrth Gwtt y Defaid iddo i'w hail wneud, ac yn gosod y ffordd fawr yno iw thrwsio iddo. Y Bustych a'r Dyniweid gwerthu yn mynd i Gaegoronw ucha. Y meibion yn torri anialwch yn yr Hen erw.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher. Diwrnod budr niwliog ac yn bwrw gwlaw ma^n claiar. Dic wedi mynd a'r Eboles flwydd i'r Efail i'w phedoli Ellis a Wil Sion yn torri anialwch yn Cae'r lloia a chae'r Coldy^ Wil Williams yn torri brwyn yn y Morfa. Gwlaw trwm ar ol hanner dydd.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd iau, Diwrnod dwl heb sychu ond 'chydig. W. Williams yn cau clawdd y Mynudd cyn brecwest, y lleill yn torri anialwch yn y cau[sic]gla^s. Fi efo W. Williams yn dechreu gwneud pentan adwy Cae'r lloia. yn mynd ar ol hynnu efo'r Meibion i wneud pen da^s y beudy newydd Wm. Robert y Machogwr yma efo chaseg G. Roberts Tymawr Treflys. Yn gwneud pen Da^s y Beudy ucha.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Gwener Diwrnod dwl mwll. W. Williams yn tainu gwair rhaffa. Ellis yn torri anialwch. Wil Sion a Dic yn carrio To^ at Dda^s y Beudy newydd a'r Beudy ucha. Fi yn mynd i Dremadoc i'r Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl mwll ac yn bwrw peth gwlaw ma^n. Ellis, Wil Sion a Dic yn torri anialwch  W. Williams a Sionun yn gwneud rhaffa Ellis Evans y Pladurwr yn ymadael.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun. Diwrnod dwl mwll, ac yn sychu'n dda yn y Prydnhawn  W Williams yn mynd ar ol brecwast i ddechreu rhaffu da^s gwair Caegoronw, yn mynd ar [ol] Ciniaw i orphen gwneud pen da^s gwair y Beudy ucha. Elin yn dwad adref o Langybi wedi bod yno wythnos.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mawrth. Diwrnod dwl mwll. Y Meibion yn gorphen toi Da^s gwair y Beudy ucha erbyn amser brecwast yn mynd ar ol hynnu i gau Adwyau i'r Morfa. Fi yn mynd i fesur darn o'r Ffordd fawr wrth gwtt y defaid oedd wedi ei thrwsio. ac yn hel peth o'r dreth i ffordd fawr wrth ddyfod adref. Owen Roberts Porthmon yn galw yma.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher. Gwlaw trwm iawn yn y boreu, niwlog a dwl yn y Prydnhawn. Y Meibion yn gwneud rhaffa. Will Sion yn planu Maip Swedaidd yn yr ardd.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd iau Diwrnod teg sych distaw. Wm. Williams yn settio'r cloddia ar lleill yn torri Anialwch hyd amser brecwast yn mynd wedi i roi Carreg ar bentan adwy Cae'r lloia i hangio'r llidiart ac yn mynd wedi i wneud pen Da^s y Beudy newydd. Fi yn myndar ol Ciniaw i Aberglaslyn at Mr. Owen. Yn talu Wm. Sion am drwsio'r ffordd wrth Gwtt y defaid


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Gwener. Diwrnod dwl gwyntog tebig i fwrw gwlaw. W Williams a Dic yn gorphen Toi Da^s y Beudy newydd y ddau arall yn gorphen carrio anialwch o'r Henerw. Fi wedi bod yn NhrefMadog yn y Farchnad. Yn dwad a Llyfra'r Gyfraith (Byrne's Justice) efo mi adref o Siop Morris wedi iddo ef ddwad imi o Lerpwl.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn. Diwrnod sych teg. W Williams  yn rhaffio da^s y morfa. y ddau arall yn torri anialwch, yn gyru Sionun i ddanfon anrheg i Dy^ Mr. Williams Towyn ar iddo gael Gwraig


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul. Diwrnod dwl sych lled fwll. Mr. Owen Aberglaslyn yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun Diwrnod dwl mwll ac yn bwrw'n lled ddwys yn y boreu. Yn hel yr wyn ac yn troi wyth deg dau i'r Allt. Yn gyru naw o'r lloia i Forfa'r Goedan i'w dyddyfnu. Fi wedi bod y Nghynebrwng Mab John Thomas Hafod y Dolfriog yn Llanfrothen. Mam wedi bod y nghynebrwng Eleis Tyn y berllan. Wm. Williams yn settio'r cloddia Y lleill yn torri anialwch yn Blaenycoed


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher. Diwrnod dwl mwll. Fi yn mynd efo Gwas Silvanus Jones i Gaegoronw i dreio gwerthu'r Dynewid ac yn misio. Y Meibion yn trwsio'r Clawdd rhwng yr Allt a chae'r lloia a Chaehafodty. Evan James yma'n cylchio'r llestri ymenun. Fi wedi bod yn y Towyn yn prynu bo^c ffawydd at lofftio'r Houwel


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mawrth. Diwrnod dwl mwll ac yn bwrw gwlaw dwys yn y boreu, Y Meibion y pryd hynnu yn gwneud rhaffa. Wil Sion a Dic yn mynd i dorri Anialwch i'r Caebanadl a buarth blaen y Coed. Yn gosod Llidiart ar Adwy Cae'r lloia. Mr. Evans Trafaeliwr o Gaer yma Dros Wm Cross gwerthwr Liquor yn nol arian. Beggy Owen yn sal ac mewn llewgfa gan riw beth wedi torri yn ei brest. Gwas Silvanus Jones Caegwyn yma'n Cysgu


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd iau. Diwrnod dwl mwll budr, ac yn bwrw gwlaw dwys yn y boreu, Y Meibion yn gwneud rhaffa. Wm. Williams yn mynd i raffu Da^s y Beudy ucha, Dic yn mynd i Gaegoronw i nol y pedair Dyniewad gwerthu i'r Morfa W.Sion yn torri anialwch yn y Gelli fawr. Fi efo Ellin yn Pothely Dwsin o Borter


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
17/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Gwener. Diwrnod dwl mwll ac heb fwrw gwlaw. Y ddau Wil yn gorphen trwsio'r clawdd rhwng yr allt a chaehafodty. Dic wedi mynd a thri hanner Telaid o Wenith i Felin rhydbenllig iw falu.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
18/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn Diwrnod dwl mwll. W.Williams wedi bod yn Towyn yn nol y Bo^c Ffawydd ac yn mynd wedi adref i'r Bwlchllechog. Will Sion yn torri Anialwch yn y Gelli fawr. Dic a Sionun wedi mynd i'r Mynudd i chwilio am W^yn. Fi yn mynd i Ffair Beddgelert  ac yn gwerthu Pedair o Ddyniwed i Sylfanus Jones Caegwyn am saith deg dau a chwech yr un. Silvanus Jones a John Owens Tyddynmawr yma yn yfed Te. Fi yn gwerthu Ceffyl i Silvanus Jones y pryd hynnu am Ddeg punt ac oo byddai yn cwyno y byddai yn colli ynddo, y rhown rodd dda iddo


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
19/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul. Diwrnod sych gwresog a mwll


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
20/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun. Diwrnod niwliog mwll. Ffair y Mhwllhei [sic Ffair y Mhwllheli] Fi wedi bod yno. yn dwad adref erbyn deg o'r gloch. Y Meibion yn tynnu cerrig at glawdd wrth Gorlan y pant hir


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
21/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mawrth Diwrnod gwresog mwll iawn Ffair y Mhenmorfa Fi ac Elin yn mynd yno. Y Pedair Dyniewad ar Ebol coch yn mynd i ffwrdd. Fi yn prynu Eboles ddwy flwydd gan Robt Prees Pla^sdu ac Elizabeth Owen Llangybi a Jane Williams y Rhosgill ac Owen Roberts yn dwad yma o'r Ffair ac yn cysgu yma.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
22/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher. Diwrnod gwresog mwll iawn, Yn Cneifio yr Wyn Wyth deg tri. Y Meibion yn mynd yn y Prydnhawn at Gorlan y pant hir i godi Cerrig


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax