Llên Natur
Llên Natur

Y Tywyddiadur

Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.

Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).

(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).

CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.

MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.




Oriel

Tywyddiadur

owen-edwards

2,631 cofnodion a ganfuwyd.
22/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher. Diwrnod gwresog mwll iawn Fi yn mynd efo Owen Roberts i Ffair Feestiniog i roi mesur i gael byrddau Cerrig iw rhoi yn y llaethdy. Y Meibion efo Owen Owens Portreuddyn y lladd gwair


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
24/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Gwener. Diwrnod gwresog mwll iawn. Y gwres fesurydd cyn uched a 76 graddau mewn cysgod. Y Meibion yn tynu cerrig ac yn gwneud clawdd wrth gorlan y pant hir. Fi gartref heb fynd i'r Farchnad! Gwas Morris Jones Tremadoc yn dwad a hanner Baril o Borter


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
25/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl mwll iawn, wedi Taranu a goleuo Mellt yn aml anghyffredin neithiwr. Y Meibion efo'r clawdd wrth Gorlan y Pant hir. Fi yn gwneud bocs i'r Colomenod, ac yn ei osod ar dalcen y Ty^ Mawn. peth gwlaw ac ambell Daran yn y Prydnhawn. Robt. Wynne Cefncymerau yn dwad yma yn yr hwyr


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
26/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul. Diwrnod dwl mwll wedi bwrw cawod drom o wlaw Taranau yn y boreu. Robt. Wynne yn mynd adref ar ol Ciniaw Elin a minau yn mynd i Aberglaslyn yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
27/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun. Diwrnod dwl lled wyntog oer ac yn bwrw 'chydig wlaw Y Meibion yn cau clawdd y mynudd wrth Gorlan y Pant hir. Grace Jones Cae Eitnintew, Jane Thomas, Hwmphra, a Merch Mochres yma ac yn dwad a Photia Fflowers yma, oedd Elin wedi eu prynu yn Ffair Penmorfa Yn gwaedu dwy o'r Buchod i'w troi i'r adladd i bwintio


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
28/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mawrth. Diwrnod oer Dryghinllydd ac yn bwrw peth gwlaw Yn rhoi Ffisig ymoliau'r Buchod iw troi ir Adladd iw Pwintio. Y Mebion yn codi Cerrig at glawdd y Mynudd wrth Gorlan y Pant hir. Ann Sion Prenteg yn dwad a dau Bysgodyn bychain yma. Mam wedi mynd i Lidiart 'sbyty Dic a Sionun wedu mynd i hel W^yn o'r Mynudd. Yn Potleu dau ddeg pedair o Botteli Cwrw, a dwy Jar o'r un peth. Y Buchod yn mynd i'r Hen Erw Harri William Wernla^s de^g Beddgelert yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher. Diwrnod dryghinllid oer. Y Meibion efo'r Clawdd wrth Gorlan y pant hir. Morgan Tai cochion wedi marw allan neithiwr yn agos ir Gorllwyn ucha!!! Nid oes hanes cywir etto pa sut a pa [sic], os daw gwybodaeth


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
29/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd iau. Diwrnod teg mwll. Y Meibion efo'r clawdd wrth Gorlan y Pant hir


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
31/8/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Gwener. Diwrnod dwl mwll. Y Meibion yn dechreu torri Ceirch yn y Morfa ar ol Brecwast. ac yn mynd ar ol Ciniaw i drwsio clawdd y Mynudd. Fi yn mynd i Dremadoc i'r Farchnad. Elizabeth Williams y Rhosgill yma ac Evan Williams Cae'r Eithintew, yma yn yfed Te^


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
1/9/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl mwll. Y Meibion yn trwsio clawdd y Mynudd. Mam wedi bod yn Nghynhebrwng Owen Pritchard Ffynon Beuno. Wil Sion wedi bod y Nghynebrwng Morgan Taicochion.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
2/9/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul. Diwrnod dwl mwll. Fi ag Elin wedi bod yn y Llan yn cael rhannau llyfrau iw benthig gan Mr. Holland y Person.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
3/9/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun. Diwrnod dwl mwll av yn bwrw ambell gawod fechan Y Meibion yn dechreu medi'r Haidd Sion Morris yn dwad yma. Begy Owen wedi mynd i Drefmadawg i nol chwech deg Pwys o Halen.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
4/9/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mawrth. Diwrnod mwll ac yn bwrw gwlaw y rhan amlaf. Y Meibion efo'r Yd yn y Morfa. Evan James yma'n nol Llif hir Robert Griffith Cwmbychan Saer Coed. Wm. Williams a Dic yn mynd ar ol Prydnhawn bryd i godi bwlch y'nghlawdd mynudd y Ty mawr wrth y fuches la^s Gwynt trwm yn y Prydnhawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
5/9/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher Diwrnod sych gwyntog. ar ol gwynt trwm iawn neithiwr, yr hwn a wnaeth golled anghyffredin ar y^dau oedd heb eu torri. Y Meibion yn lladd yd y Caecanol a'r rhan fwyaf o yd y Caemain Fi efo W. Williams gyd a'r nos yn y morfa, yn gwneud hynnu o Haidd oedd wedi ei dorri yn Fychod mawr.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
6/9/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd iau. Diwrnod lled wyntog ac yn bwrw ambell gawod Y Meibion yn gorphen lladd Yd y Caemain y llainhir a Gwernclowna ac yn mynd i'r Morfa i ladd ceirch ar ol Prydnawnbryd. Fi yn mynd i Drefmadawg i dorri fy ngwallt


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
7/9/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Gwener. Diwrnod niwlog mwll budr. W Williams yn trwsio da^s y Beudy newydd, y lleill yn medi Ceirch yn Hendratyfi  Elin a minau yn mynd i Dremadoc i'r Farchnad yn prynu Het newydd


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
8/9/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn. Diwrnod sych teg. Y Meibion yn gorphen lladd y Ceirch yn y Morfa, ac yn medi Haidd a hynnu hydd y nos. Evan Williams Cae'r Eithintew yma'n Ciniawa ac yn edrych y pedwar Eidion oedd genuf[sic] i'w gwerthu


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
9/9/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul. Diwrnod sych teg, ar ol gwlaw trwm anghyffredin iawn neithiwr. Fi wedi bod yn y Llan. Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
10/9/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd llun. Diwrnod dwl lled fudr yn y boreu, yn sychu'n lled dda ar ol hanner dydd. Elizabeth Griffith Llangybi yn mynd adref. Begi Owen yn mynd efo hi at Feddyg y Plai^shen. Y Meibion yn torri Ceirch Hendratyfi hyd amser Ciniaw. ac yn mynd wedi i Fedi Haidd i'r Morfa


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
11/9/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mawrth. Diwrnod teg ac yn sychu yn dda hynod. Y Meibion yn medi Haidd yn y Morfa. Griffith Jones Tailiwr Tremadoc yn dwad yma Y Meibion yn dechreu cynull Ceirch efo'r nos yn y Morfa, ac yn cynull hyd hanner awr wedi unarddeg o'r gloch y nos. Yna gwlaw trwm iawn


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
12/9/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Mercher. Diwrnod dwl ac yn bwrw cawodydd trymion Eisteddfod y Nhaernarfon. Y Meibio yn soflio peth Ceirch yn y Morfa yn gorphen torri Ceirch Hendratyfi ac yn torri ambell dipyn o Haidd yn y Morfa. Gweision G. Jones Tailiwr yn dwad yma


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
13/9/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd iau. Diwrnod dwl sych. Y Meibion yn lladd haidd yn y Morfa Yn dwad yn wlaw at y Prydnhawn, y meibion yn dwad i fynu. W Williams yn mynd i raffio Da^s y Beudy newydd. Sion Morris a Wil Sion yn glanhau'r Sgubor. Dic yn mynd i'r Mynudd, at y Taicochion, i chwilio am ben gwlanog oeddwn wedi cael hanes ei fod yno, ac misio ei gael


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
14/9/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Gwener. Diwrnod dwl gwlawog. gwlaw trwm iawn neithiwr Sion Morris a Wil Sion yn agor ffo^s y nghors tyddyn llewelyn. Elin a minau yn mynd i Dremadoc i'r Farchnad


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
15/9/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sadwrn. Diwrnod niwliog ac yn bwrw gwlaw ma^n mwll  Y Meibion yn soflio'r Ceirch. Y Fi yn mynd i Langybi ac yn dyfod adref erbyn hanner nos wedi ymdroi peth y Nghriccieth.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:
16/9/1821
Penmorfa, Gwynedd
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.)

Dydd Sul. Diwrnod niwliog ac yn bwrw gwlaw ma^n mwll. Mr. Owen Aberglaslyn yma.


Geiriau Allweddol:
Cyfrannwr: Rwth T.
Cyf. Gwynt: 0
Nerth.Gwynt : 0
Glawiad : -999
Is Tym : -999
Uch Tym: -99
Safle grid:

CANLLAWIAU CHWILIO:

Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:

Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)

Ond i chwilio ar draws y meysydd:

Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..

Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)

Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:

+lle:Faenol +mm/bb:1/1877

Dyma ychydig o engreifftiau eraill:

+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815

+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch

+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd

Mwy yn fan hyn:

Apache Lucene - Query Parser Syntax



Apache Lucene - Query Parser Syntax