Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
17/9/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod niwliog ac yn bwrw gwlaw ma^n mwll. W Williams yn cau efo Robt. Sion Hendrahowel, y lleill yn agor ffosydd y nghors Tyddyn llewelyn
|
18/9/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod niwliog ac yn bwrw gwlaw ma^n mwll yn y boreu yn codi i sychu'n dda at hanner dydd. Y Meibion yn mynd i'r Morfa i dorri Haidd. Robt. Griffith y Saer yn dwad yma i wneud Wintill Fi wedi bod y Mhenmorfa mewn Festri
|
19/9/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod cymylog ac yn sychu'n bur dda Y Meibion yn gorphen torri'r Haidd. yn lladd un Leferat ac yn nodi clustia un arall ac yn ei gollwng. Fi yn mynd i Dremadoc i'r Efail i wneud heurns at y Wintill, ac yn gwerthu y Pedwar Bustach i Evan Williams Cae'r Eintew.[sic. Cae'r eithin tew] Mr. Williams Towyn ac Owen Roberts Porthmon yma gyda'r nos. Mrs.Jones y Siop yma Y Meibion yn soflio'r Ceirch i gyd.
|
20/9/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Iau. Diwrnod niwliog ac yn bwrw lled drwm ar hyd y dydd. Sion Morris yn danfon y Pedwar Eidion i Ffestiniog. Wil Sion a Dic yn agor Ffos yn Cae'r lloia. Wil Wiliams a Sion Morris yn gwneud carchara iw rhoi ar yr W^yn, ac yn codi Cerrig at drwsio'r clawdd y Mynudd. Mam yn ei gwelu ar hyd y dydd yn Sal. Robt. griffith yn gorphen gwneud y Wyntill.
|
21/9/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod dwl yn y boreu ac yn sychu'n dda at ganol dydd. Y meibion yn soflio'r Ceirch. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad. Dic wedi bod a'r tri cheffyl yn Efail Sion Evan
|
22/9/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn Diwrnod clir sych. yn dechreu carrio'r Haidd o'r Morfa, ac yn cynnull Ceirch Hendratyfi. Yn cynnul ceirch y Morfa ar ol iddi dywllu. Evan Williams Cae Eithintew yma'n Yfed Te ^ wrth ddyfod adref o Ffair Beddgelart [sic]
|
23/9/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sull. Diwrnod dwl sych mwll. Fi wedi bod yn y Llann ar fy nhraed.
|
24/9/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod cymylog ac yn sychu'n bur dda. Yn diwedd cario'r Haidd o'r Morfa, ac yn Degymu Ceirch y Morfa. Sionun wedi mynd a'r Eboles ddu i'r Efail. Morris Jones Siopwr Tremadoc yma'n yfed Te^ yn y Prydnhawn. yn Degymu Ceirch Hendratyfi
|
25/9/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dwl ac yn dwad yn ddryghin mawr at ganol dydd. Y Meibion yn carrio Ceirch Hendratyfi. Fi yn mynd i Lanor at y Bedydd Esgob. Ffair y Mhenmorfa, yn misio dwad yno, o herwydd cael ein dal hyd yn rhy hwyr yn Llannor
|
26/9/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod dwl budr, ac yn bwrw gwlaw ma^n ar hyd y dydd. Y Meibion yn codi bwlch y nghlawd pen isa'r mynudd Y chwech Eidion yn dwad o Gaegoronw i'r Morfa i'r adladd. Mam, Elin a Begy Owen wedi bod yn Cappel Tremaddoc mewn Pregeth.
|
27/9/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Iau. Diwrnod lled gymylog ac yn sychu'n dda iawn. Owen Owen Portreuadyn yma'n carrio Ceirch y Morfa. Elin wedi mynd i Langybi i fynd i Sasiwn y Calfiniad i Bwllheli
|
28/9/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod dryghinllyd iawn a gwlawg. Sasiwn yn Pwllheli. Y Meibion yn Cynull Ceirch y llain hir ac yn gafrio Ceirch Gwernclowna yn y boreu, yn mynd ar ol darfod i hel gwrysg a pholion i gau o gwmpas yr helmi Yd. Fi yn saethu Petrisan ar ben blaenycoed.
|
29/9/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod gwyntog dryghinllid yn y boreu ac yn sychu'n dda ar ol hanner dydd. Y Meibion yn nol llwyth o frwyn o'r Morfa at doi'r Helmi. Dic a Sionun yn mynd i'r Mynudd i droi'r Maherun i Allt y Ty mawr. Fi wedi bod y Nghriccieth yn y Ciniaw Dydd gwyl Mihengel. yn dwad adref erbyn hanner awr wedi unarddeg o'r gloch
|
30/9/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod lled ddwl ac yn sychu'n bur dda
|
1/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod dryghinllyd yn y boreu ac yn dwad i sychu'n dda at y Prydnhawn. Yn cynnull y Ceirch y Caecanol ac yn ei garrio. Fi wedi bod yn y Cyfarfod Ustusiaid yn rhoi fy nghyfrif i fynu o fy swydd o olygu'r ffordd fawr. Elin yn dwad o Langybi.
|
2/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod lled gymylog ac yn sychu'n hynod o dda. Yn carrio Ceirch Gwernclowna, y llain hir a'r Caemain. Diwedd cael yr yd. Cynhauaf gwlyb colledus anghyffredin
|
3/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher.Diwrnod gwyntog dryghinllyd ac yn bwrw gwlaw y rhan amlaf. Sion Morris a Wil Sion yn cau bylcha y nghloddia'r Morfa. W. Williams a Dic yn gwneud Llyffetheiriau iw rhoi ar yr Wyn, ac yn cau o gwmpas yr Helmi. B.O wedi bod yn Bronygadair
|
4/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod dwl budr ac yn bwrw gwlaw man ar hyd y Dydd. Y Meibion yn gorphen cau o gwmpas yr Helmi, ac yn mynd i'r Morfa i nol To i doi un o'r Helmi, ac yn dal Leferat yno. Gwlaw trwm iawn at Hanner dydd ac yn parhau yn wlaw trwm hyd yr hwyr.
|
5/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod cymylog ac yn bwrw ambell gawod. Fi wedi bod yn ochr Portreuddyn yn chwilio am ysgyfarnog. yn gweled un ac yn misio ei lladd. Wil Sion yn dyrnu'r Ydwellt. W Williams a Dic yn toi'r Helm ddiwaetha Haidd. Fi yn mynd i Dremadoc i'r Farchnad. Begy Owen wedi bod yn y Plâshên efo'r Physygwr.
|
6/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl ac yn lled ddryghinog at y Prydnhawn Fi efo'r Meibion yn rhoi Carreg yn Nrws yr Houwel. Dic wedi bod a phwn o Haidd yn y Felin isa, ac yn dwad adref heb gael malu Yn dwad a dau Gasg adref o Siop Morris Jones oedd wedi dyfod yno o Gaer un o Rum ac un o Gin - Sion Morris yn ymadael.
|
7/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod dwl dryghinllyd
|
8/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod cymylog sych. Dic wedi mynd i'r Felin i nol y Pwnn Haidd. Bachgen Richard y Go^f yma 'n danfon Heirns at y Durn. Y ddau Wil a Sionun yn Nithio'r Yd oddiwrth yr Ydwellt. Yn hel yr Wyn ac yn gyru [sic] saith deg saith i gaegoronw, ac yn gadael dau i lawr. Robt. Griffiths y saer yn dwad yma.
|
9/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod sych teg. Y Meibion yn carrio Mawn o Gaegoronw ucha. Mam wedi bod y Mhenmorfa. G. Jones y Tailiwr yn dwad yma. Rob Griffith y Saer yma
|
10/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod sych teg. Y Meibion yn carrio Mawn o Gaegoronw ucha. Mam wedi bod y Mhenmorfa. G. Jones y Tailiwr yn dwad yma. Rob Griffith y Saer yma
|
11/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod sych teg. Y Meibion yn carrio mawn o Gaegoronw. G. Jones Tailiwr yn mynd i ffwrdd. Elin a Begy Owen wedi mynd i Cae Eithintew. Plwyfolion Llanfihengel y Pennant yn carrio grawn oddiwrth y Llidiard y ffordd i drwsio'r ffordd fawr. Robt. Griffith y Saer yn mynd i ffwrdd
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|