Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
12/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod sych teg. Y Meibion yn carrio mawn i Gaegoronw. Mam wedi mynd i Fronygadair. Fi wedi bod yn Tremadoc yn y Farchnad
|
13/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod sych teg. Y Meibion yn carrio Mawn o Gaegoronw. Elin a Beggy Owen wedi bod y Mhenmorfa. Mr Painter Amlwch ai Wraig yn galw yma. G Jones Tailiwr yma'n gosod Cyrtansia ar Ffenestri. Wil Sion Japheth o Langybi yma'n nol y gwlan Wyn.
|
14/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod dwl gwlawog. Morris Jones Siopwr Tremadoc yma yn y Prydnhawn.
|
15/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod sych teg. Y Meibion yn cario mawn o Gaegoronw Fi yn mynd i Boreu i osod Clawdd i'w wneud rhwng y ddau Gaegoronw a rhwng Caegoronw isa a'r Mynudd i'w drwsio. Swllt y rhwd am drwsio'r hen glawdd a phum swllt a chwech cheiniog am wneud y Clawdd newydd. Beggy Llidiart 'spyty yma yn y Prydnhawn. Mam Siani Griffith yma.
|
16/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod cymylog ac yn bwrw ambell gawod. Dic a Wil Sion yn gorphen carrio Mawn Caegoronw ucha, ac yn dechreu tynu Clorenod yn y Buarth gwyn iw cadw. Fi efo W. Williams yn gwneud un pentan Adwy Cadlas y Beudy ucha. Richd. Ellis Reiniog yma'n nol Treth Tylodion.
|
17/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod niwliog budr ac yn bwrw gwlaw ma^n y rhan amlaf. Y Meibion yn tynu Clorenod yn y boreu. Yn mynd ar ol Ciniaw a tho at Dda^s mawn Caegoronw isa W. Williams a Dic yn mynd ar ol Prydnhawnbryd yno iw Toi a Wil Sion yn mynd at Owen Owens Portreuddyn i gau rhwng y ddwy Weirglawdd ucha.
|
18/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod lled fudr. Y Meibion yn tynu Clorenod
|
19/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener Diwrnod sych lled oer. Y Meibion yn tynu Clorenod Fi ac Elin yn mynd i Langybi
|
21/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod gwlawog dryghinllyd. Mam yn dyfod adref Fi ac Elin yn Llangybi
|
21/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod gwlawog dryghinllyd Fi ac Elin yn Llangybi
|
22/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod budr iawn ac yn bwrw cawodydd trymion Ffair y Nghriccieth Fi ac Elin yn dyfod yno o Langybi gartref erbyn deg.
|
23/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod teg ac yn bwrw ambell gawod. Y Meibion yn y Prydnhawn yn tynu Clorenod yn y Bryncoch. Fi wedi bod yn Penmorfa yn disgwyl cyfarfod ynghylch symud y Dollfa o Benmorfa yn cael fy siomi. gartref cyn deg
|
24/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod sych teg. Y Meibion yn tynnu Clorenod yn y Bryncoch. Fi wedi bod yn Caegoronw efo'r bobol oedd yn codi Cerrig at y Clawdd rhwng y ddau Gaegoronw, yn misio lladd Ysgyfarnog y ngallt y Tymawr wrth ddyfod adref
|
25/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod gwlyb budr a gwlaw trwm ganol dydd Y Meibion yn gorphen tynu Clorenod y Bryncoch ac yn mynd yn y Prydnhawn i drwsio'r clawdd rhwng yr Allt a chae'r lloia Yr Heffer folwen yn cymeryd Tarw. Sion Hugh Drwsyrymlid yma
|
26/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod dwl budr. Y lloia yn mynd o'r Morfa i Weirgloddia'r Tymawr. Wil Sion a Dic yn mynd i Gaegoronw i agor Ffosydd. Fi yn mynd i Dremadoc i'r Farchnad
|
27/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod niwliog ac yn bwrw gwlaw ma^n claiar Wil Sion a Dic y Nghaegoronw yn agor Ffosydd. W. Williams wedi mynd a dau sachad a hanner o Geirch i'r Felin iw falu i'r Moch a phwn o Haidd hefyd yno iw falu. Yr Odyn yn llawn iawn
|
28/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod niwliog ac yn bwrw gwlaw ma^n claiar yn y boreu. Edward Davies Gweinidog y Capel Helig yn Ynuspandy yn Pregethu am ddeg o'r gloch yn y boreu.
|
29/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwtnod clir teg. Y Meibion yn tynu Clorenod yn y Buarth gwyn
|
30/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dwl lled oer, ac heb fwrw dim gwlaw Yn hel y Defaid, ac yn cneifio pum ugain a phymtheg o Famoga yn marcio ugain at ei gwerthu. Yn marcio deuddeg a deugain o Fyllt a hesbyrniaid.
|
31/10/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod lled oer ac yn bwrw ambell gawod drom Y Meibion yn tynu Clorenod yn y buarth gwyn. Bachgen John yr Osler yma'n danfon llythur oddiwrth Mr. Holland
|
1/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod gwlawog dryghinllyd. Owen Humphreys y Clenenney yn dwad yma. Fi yn mynd efo fo i Benmorfa i'r Festri
|
2/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod gwlawog dryghinllyd iawn. Y Meibion yn gorphen tynu clorenod yn y boreu. Fi heb fynd i'r Farchnad
|
3/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl yn y boreu a gwlaw trwm iawn yn y Prydnhawn. Y Meibion wedi bod yn y Mynudd yn codi peth Cerrig Dyn oddiwrth Mr. Williams Bennar, (y Steward) yn danfon Warning a Llythur oddiwrth Mr. Williams yma ac yn cysgu yma. Fi wedi yn Ffowlio yn gweld dwy Ysgyfarnog, yn dwad adref heb ladd dim
|
4/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Gwlaw a chenllysg trwm iawn yn y boreu Eira tew ar bennau'r Mynyddau a pheth yn sefyll hyd y gwaelodion. Yr Eira cyntaf yn ymddangos Eleni
|
5/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod sych lled oer. Y Meibion yn codi bwlch y nghlawdd Gwinllan y Tymawr ac yn dechreu torri Trains ynghae Porfa y Tymawr wrth Adwy y Mynudd. Fi yn mynd i Griccieth i'r Cyfarfod Ustusiaid yn dwad adref erbyn unarddeg o'r gloch
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|