Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
6/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Diwrnod sych. Y Meibion yn tori'r trains yn y Tymawr. Fi ac Elin yn mynd i Dremadog yn yfed Te yn siop Morris Jones. Y gaseg yn dwad yno i Elin gartref erbyn unarddeg
|
7/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher Diwrnod sych teg. Y Meibion wedi mynd i Reiniog i nol llwyth o Fawn. Fi yn saethu Cyffylog yn coed y Caeglas ac un yn y Bryncoch
|
8/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod sych teg. Y Meibion yn nol llwyth o Fawn o Reiniog. Robt. Lloyd Maentwrog yma yn dweyd ei fod wedi dwad a'r Cerrig o Ffestiniog i wneud byrdda yn y Llaethdy^ i'r Towyn. W Williams yn mynd i'r Towyn iw nol. Robt. Lloyd yn prynu'r Caws am dri deg tri o Sylltau y Cant. Ann Sion Prenteg a gwraig Twm yma.
|
9/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod gwyntog sych oer. Y Meibion yn nol llwyth o Fawn o'r Reiniog. Fi yn mynd i Dremadoc i'r Farchnad
|
10/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn Diwrnod distaw teg. Y Meibion yn nol Mawn o Reiniog Adarwr Mr. Gore hyd y Caea yma'n Adara ac yn ymdroi peth yma wrth fynd adref. Wil Sion Japheth Llangybi yn dwad yma gwmpas deg o'r gloch y nos
|
11/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod dwl ar ol gwynt a gwlaw trwm neithiwr Fi wedi bod yn y Llan. Siani William yn mynd at Ffair Pwllheli
|
12/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod teg distaw. W Williams heb ddwad yma Wil Sion a Dic yn torri Anialwch y 'Mrynmagl. Siani Griffith wedi mynd i Ffair Pwllheli. Fi wedi bod yn Tremadoc.
|
13/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dryghinllyd iawn yn y Prydnhawn. Ffair y Mhenmorfa Fi yn mynd yno, ac yn cyflogi Gweision a Morwyn. Owen Roberts ac Elizabeth Owen Llangybi yn dwad yma.
|
14/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod niwliog ac yn bwrw gwlaw man claiar Y Buchod tewion yn dwad i'r Caemain. Owen Roberts yn mynd adref
|
15/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod dwl claiar Wil Sion wdi[sic] mynd a Jac a'r Eboles ddu i'r Efail. Dic wedi mynd a Theliad o Wenith i Felin Rhydbenllig i'w falu. Mesurydd Tir yma yn ymofun am enwau Caea'r Morfa Gwraig Toll Penmorfa yma'n danfon bil. Elizabeth Owen Llangybi yn mynd adref. Siani Griffith yn ymadael. W Williams yn ymadael
|
16/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener Diwrnod dwl lled ddryghinllyd ac yn Taranu ychydig. Y Meibion efo'r Trains yn y Tymawr, Adarwr Mr. Gore hyd y Caea yma'n adara. Fi yn mynd i Dremadoc i'r Farchnad
|
17/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn Diwrnod teg distaw, Y Meibion yn agor Ffosydd y Ngweirglawddiau'r Tymawr. Y Forwyn newydd yn dwad iw lle
|
18/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod teg sych. Fi wedi bod yn y Llan
|
19/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod dwl sych. Wil Sion a Dic yn gorphen tynu'r Bytatws moch yn y Buarth gwyn
|
20/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod gwyntog dryghinllid iawn Y Meibion yn agor Ffos ac yn dechreu Trains yn y Tymawr
|
22/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod dwl lled ddryghinllyd. Wil Sion yn dyrnu y ddau arall yn Tymawr efo'r Trainsia
|
23/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod sych teg distaw. Mam wedi mynd i'r Ffactory ac i Dy^'r Gwehydd i Lanfrothen. Wil Sion yn dechreu dyrnu'r Ceirch. Y Gwas newydd yn dwad iw le.
|
23/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod sych lled oer. Wm. Owen Cwmmawr yma'n lladd dau Fochyn. Tomas[sic] Prys yn hel Treth Cyffylau fe[?] Fi yn mynd i Dremadoc i'r Farchnad
|
24/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod oer cawodog. Y Meibion efo'r Trains yn y Tymawr. Fi yn tori'r Moch a'r Merched yn eu hallty[sic].
|
25/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod dwl yn y boreu. gwlaw a dryghin trwm iawn yn y Prydnhawn. Mr. Owen Aberglaslyn yma'n Ciniawa
|
26/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod gwyntog iawn ac yn bwrw ambell gawod drom iawn Y ddwy fuwch dew yn dwad i Gae'r hendra. y lloia yn dwad o'r Tymawr i'r Caemain ar Caeallepa. y Bustych yn dwad o Gaea porfa'r Tymawr i'r Hen Erw. Yr W^yn yn dwad i lawr o Gaegoronw
|
27/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod sych distaw. Wil Owen a Dic yn cau rhwng y Caea porfa a'r Caea adladd, ac yn cario gwellt i'r Beudy newydd
|
28/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod lled ddryghinllid ac yn bwrw cawodydd trymion. Y Meibion yn nithio
|
29/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod sych lled wyntog. Y Meibion yn gorphen nithio. Wil sion yn mynd i ddyrnu, y ddau arall yn mynd i gau Tom Holland yn dwad yma i ymofun [sic] y Cambro Britain llyfr ac oeddwn wedi gael ei Fenthig gan Mr Holland yn Ciniawa yma
|
30/11/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod clir sych yn y boreu, dryghin trwm iawn yn y Prydnhawn. Y Meibion efo'r Trains yn y Tymawr. Fi yn mynd i Dremadoc i'r Farchnad. Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma.
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|