Prif nodwedd y gronfa hon yw'r dyddiad, mis neu'r flwyddyn penodol sydd yn sail i'ch cofnod. Mae'r tywydd wrth gwrs yn rhywbeth sydd yn digwydd "rwan", pryd bynnag yw neu oedd "rwan" i'r cofnodwr gwreiddiol; y bore yma efallai, diwrnod arbennig yn eich plentyndod, neu sylw mewn dyddiadur dwy ganrif yn ôl yn sir Feirionnydd.... efallai. Neu efallai bod cysylltiad y sylw a'r tywydd yn ymddangosiadol wan iawn: tylluan wen yn hela am dri o'r gloch y prynhawn ar ddyddiad arbennig o Chwefror; clywed y gog yn canu ddiwedd mis Mawrth; teilo cae at datws ddechrau’r gwanwyn. Tywydd....? efallai! Ffenoleg...? yn bendant.
Mae'r Tywyddiadur yn rhyngweithiol - hynny yw, mi allwch rhoi gwybodaeth i fewn iddo, neu chael gwybodaeth allan. Y cam cyntaf y byddwch yn cymryd wrth fentro ar y dudalen hon felly fydd dewis pa un rydych am ei wneud.... Chwilio ynteu Mewnbynnu (blychod chwilio ar y chwith mewn glas, blychod mewnbynnu ar y dde mewn coch).
(Ewch i’r gwaelod am ganllawiau cychwynnol).
CHWILIO: Chi biau’r dewis: mis neu gyfnod arbennig efallai, blwyddyn, gair (neu ddau air), neu ddiwrnod penodol (treiwch ddyddiad eich pen-blwydd). Cewch wneud cyfuniad o rhain.
MEWNBYNNU: Trwy fewnbynnu cewch ychwanegu at y gronfa a chreu adnodd mwy cynhwysfawr fyth i ymchwilwyr fel chi. Dim ond tri amod sydd ar eich cofnod: ei fod yn cynnwys rhyw fath o ddyddiad, lleoliad (bras neu fanwl), a bod y cofnod rhywfodd yn gysylltiedig â’r amgylchedd.
1/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod sych gwyntog. Y Meibion efo'r Trains yn y Tymawr. Elizabeth Griffith yn mynd adref
|

2/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod sych teg. Fi wedi bod yn llan ac yn Ciniawa efo Richd Thomas. Elin wedi bod yn y Dref mewn Pregeth. Llo gan y Go....
|
3/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod oer Cawodog eira hyd benna'r Mynydda Y Buchod yn dwad i'r Caemain, y lloia yn dwad i Gae'r hendra Y Gwartheg hespion yn dwad o'r Morfa i'r Caea ucha. Adarwr Mr. Gore yn galw yma
|
4/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod dwl dryghinllyd. Y Meibion yn gwneud ac yn toi helm Bytatws Moch yn yr ardd.
|
5/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod dwl gwyntog. Y Meibion efo'r Trains yn y Tymawr. Fi efo Morris Jones y Siopwr yn hela ac heb weled dim Owen Griffith Cyfrwywr Tremadoc yma'n nol arian am weithio
|
6/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd iau Diwrnod distaw teg. Y Meibion yn trwsio Da^sau gwair y Beudy ucha. Elizabeth Owen Llangybi ac Owen Roberts yn dwad yma naw o'r gloch y nos wedi bod yn Ffair Gaernarfon ddoe.
|
7/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod dwl dryghinllyd. Y Meibion yn nithio. Yn rhoi gwair gyntaf eleni i'r Gwartheg allan. Owen Roberts ac Elizabeth Owen yn mynd adref. Fi heb fynd i'r Farchnad!
|
8/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl budr claiar. Y Meibion yn nithio. Fi yn mynd i Dremadoc yn y Prydnhawn
|
9/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod dwl budr claiar
|
10/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod budr iawn a chlaiar. Y Meibion yn cario gwellt i'r Beudy newydd. Gwas Morris Jones Siopwr Tremadoc yma yn nol Pot o ymenun yn pwyso 56lb. am 8 Geiniog y pwys ac yn dwad a 6 chant o Benwaig heilltion oddiwrth Hugh Evans Ty'n y Maes Criccieth efo fo yma.
|
11/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth Diwrnod distaw teg. Ffair yn Harlech Fi yn mynd yno. Y Gaseg yn fy nanfon i'r Towyn at y Cwch Y Meibion yn cau Trainsia yn y Tymawr.
|
12/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod gwyntog ac yn bwrw gwlaw y rhan amla.
|
13/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod gwyntog ac yn bwrw ambell gawod Y Meibion yn cau'r Trainsia yn y Tymawr.
|
14/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod distaw dwl gwlawog. Y Buchod yn dwad i Cae'r Hendra Evan James yma yn nol hen lif hir oeddwn wedi ei roi iddo. Harry Owen yma'n edrych y Moch. Fi yn mynd i Dremadoc i'r Farchnad
|
15/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod dwl claiar ac yn bwrw gwlaw man dwys yn y boreu. yn hel yr hen Defaid i'r Mynudd o ran eu bod yn mynd i'r Adladd wrth i'r Lleuad oleuo cyn. Dydd Cowras yn dal Ysgyfarnog yn yr Allt wrth Gorlan y Pant hir Mary Tomas Cwm ystrallyn yma
|
16/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul. Diwrnod teg. Fi wedi bod yn Aberglaslyn Mr. Owen heb fod gartref
|
17/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun. Diwrnod distaw ac yn bwrw ambell gawod led drom. Y Meibion yn nithio. Thomas Williams Cigydd o Dremadoc yma'n prynu'r Fuwch dew am chwech Punt a deg swllt
|
18/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mawrth. Diwrnod lled wyntog ac yn bwrw ambell gawod lled drom. Y Meibion wedi mynd i nol llwyth o Fawn o'r Reiniog ac i fynd a mawn i'r Odyn. Thomas William y Cigydd yma yn nol y Fuwch dew
|
19/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Mercher. Diwrnod gwlawog yn y boreu hindda a dwl yn y Prydnhawn ar ol Mellt a Tharanau trymion iawn neithiwr Y Meibion wedi mynd i Reiniog i nol mawn. Fi yn mynd i Benmorfa at Mr. Williams y Steward, ac yn mynd ei ddanfon dros y Cob, ac yn ymdroi y Nhe^f [sic] Madog wrth ddyfod yn fy ol
|
20/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd iau. Diwrnod distaw clir yn y boreu ac yn tebygu i ddryghin at y prydnhawn. Y Meibion wedi bod yn y Reiniog yn nol mawn. Fi yn saethu Ceiniach yn yr ochr uwchben bwlch y Moch. Yn rhwymo'r Buwchod [sic] a'r Lloia gyntaf.
|
21/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Gwener. Diwrnod teg distaw. Y Meibion yn nithio Fi yn mynd i Benmorfa i'r Festri. Dydd gwyl Domas - Begi Owen wedi bod yn Llangybi. Wil Williams (yr hen was) yn dwad a Physgodyn coch yma ac yn cysgu yma.
|
22/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sadwrn. Diwrnod dryghinllyd a gwlawog. Dic wedi mynd a Captan a Denbi i'r Efail ac yn dwad Hobiad o bys efo fo adref. WOwen wedi bod yn y dref yn nol sefl newydd a rhaff gortan newydd a bloc.
|
23/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd Sul Diwrnod clir distaw ar ol gwlaw trwm iawn yn y boreu ac eira hyd bennau'r Mynyddau. Morris Jones Tremadoc yn dwad yma yn y Prydnhawn. Elizabeth Griffith Llangybi yn dwad yma
|
24/12/1821 | |||||||||||||||||
Penmorfa, Gwynedd | |||||||||||||||||
Dyddiadur Owen Edwards, Fron Olau, Penmorfa (Archifdy Gwynedd, Caernarfon.) | |||||||||||||||||
Dydd llun Diwrnod claiar distaw. Elizabeth Griffith yn mynd adref. Y Meibion efo Trains yn y Tymawr. Fi yn mynd efo Elin i Dremadoc, hi yn mynd i'r Capel i wrando ar John Elias finau'n ei haros. Yn rhwymo'r gwartheg hespion
|
CANLLAWIAU CHWILIO:
Dyma enghreifftiau o’r codau (“Bwleaidd”) i’w defnyddio wrth chwilio’r Tywyddiadur:
Y chwiliad symlaf yw gair ar ei ben ei hun (ee wennol), neu dau air wedi eu gwahanu gan A, NEU neu DIM (ee. wennol NEU gwennol)
Ond i chwilio ar draws y meysydd:
Rhowch + o flaen pob maes/elfen o’ch chwiliad a : (colon) ar ei ôl..
Dynodir dyddiadau fel diwrnod, mis, blwyddyn (dd/mm/bb)
Ee. I godi pob cofnod sy’n cynnwys Faenol ym mis Ionawr 1877:
+lle:Faenol +mm/bb:1/1877
Dyma ychydig o engreifftiau eraill:
+nodiadau:llosgfynydd +bb:1815
+ffynhonnell:Edwards +nodiadau:moch
+nodiadau:wartheg +nodiadau:ffridd
Mwy yn fan hyn:
Apache Lucene - Query Parser Syntax
|